Mae gweminar marchnata Croeso Cymru, 17 Hydref 2024 yn cynnwys gweithgaredd ymgyrch Blwyddyn Croeso 2025. COFRESTRU AR AGOR
Cofrestrwch nawr ar gyfer gweminar marchnata Croeso Cymru i glywed am ein cynlluniau ar gyfer Blwyddyn Croeso 2025 a'n hymgyrch farchnata newydd flaenllaw i Gymru.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal trwy Digwyddiad Byw Microsoft Teams* ar 17 Hydref 2024 rhwng 2:00 pm a 3.30 pm.
Byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer ymgyrch 2025, a fydd yn cael eu cyflawni o dan ymbarél y flwyddyn thematig. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:
- Gweithgaredd marchnata diweddar a chyfredol
- Gweithgaredd y diwydiant teithio
- Gwefan newydd i'r Diwydiant
- Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb* byr.
Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n mynychu, gan gynnwys dadansoddiad o fathau o gynulleidfaoedd ar gyfer blwyddyn thematig 2025.
Cofrestrwch ar gyfer eich lle erbyn 4:00 pm, 14 Hydref ar: Digwyddiadur Busnes Cymru - Mae gweminar marchnata Croeso Cymru
Caiff dolen i ymuno yn y cyfarfod ei hanfon cyn y digwyddiad at bawb fydd yn cymryd rhan.
*Fel mynychwr Digwyddiad Byw Microsoft Teams, gallwch wylio digwyddiadau byw a chymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb wedi’i gymedroli. Ni allwch rannu sain na fideo. Cyn ymuno â’r digwyddiad hwn, anogir y rhai sy’n mynychu i ymgyfarwyddo â’r platfform:
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|