Cronfa Y Pethau Pwysig 2025-2026/7 Nawr Ar Agor - Cylch Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol
Mae'r cylch 2025-2026/7 bellach ar agor ac rydym yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer prosiectau o dan y cynllun hwn ar gyfer prosectiau fydd yn para hyd at 1 neu 2 flynedd.
Cronfa gyfalaf yw Y Pethau Pwysig i sicrhau gwelliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ledled Cymru i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ymhob agwedd ar eu harhosiad.
Bydd Cronfa Y Pethau Pwysig 2025-2026/7 yn buddsoddi mewn cyfleusterau a fydd yn gwella boddhad ymwelwyr a phobl leol, yn darparu gwell cyfleusterau i ymwelwyr anabl, cyfleusterau tywydd gwlyb ac yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol cyrchfannau allweddol. Gall yr elfennau hyn, os ydynt ar goll neu heb eu rheoli'n iawn, atal ymwelwyr rhag dod neu eu hatal rhag dychwelyd.
Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd gan y gronfa wedi cynnwys:
- mannau gwefru cerbydau trydan,
- gwell cyfleusterau toiledau a meysydd parcio,
- cyfleusterau lleoedd newid hygyrch i bobl anabl,
- gwella arwyddion a dehongli.
Bydd 2025 yn nodi Blwyddyn Croeso yng Nghymru fel y diweddaraf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thema dan arweiniad Croeso Cymru. Yn ogystal â chynnig chroeso eang, bydd ein gweithgarwch marchnata yn darpau profiadau eiconig, cynhyrchion, cyrchfannau a diwylliant, y gellir ond eu canfod yng Nghymru.
Felly, anogir ymgeiswyr i ystyried sut y gall eu prosiect ychwanegu at ddarparu Croeso sy'n gynhwysol, er mwyn creu profiadau llawn. Gallai hyn er enghraifft gynnwys gwneud cyfleusterau'n hygyrch i bob gallu a chreu ymdeimlad o le megis drwy’r defnydd o'r Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn datganiadau o ddiddordeb yw 22 Tachwedd 2024.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Cyllid | Drupal (llyw.cymru)
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|