Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Cofiwch: Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025 – Dyddiadau cau diwygiedig ar gyfer ceisiadau
Bydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yng ngwanwyn 2025. Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
I gystadlu rhaid I chi gyflwyno cais drwy eich gwobrau twristiaeth sirol / rhanbarthol. Dim ond enillwyr Gwobrau Rhanbarthol 2024 fydd yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2025. Nodwch y dyddiadau cau estynedig a restrir isod.
I gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod yn dibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli:
De-orllewin Cymru:
De-ddwyrain Cymru:
Canolbarth Cymru:
Gogledd Cymru:
Beth sy'n newydd yng Nghymru ar gyfer 2025
Mae Croeso Cymru yn gweithio ar lunio rhestr o’r hyn sy’n newydd yng Nghymru ar gyfer 2025. Mae ein tîm cysylltiadau cyhoeddus ar hyn o bryd yn briffio’r cyfryngau a newyddiadurwyr ac yn gweithio gyda partneriaid fel VisitBritain i sicrhau ein bod yn cael sylw positif yn y wasg a’r cyfryngau i Gymru fel cyrchfan wyliau, felly rhowch wybod i ni beth sy'n newydd.
Rydym yn chwilio’n arbennig am wybodaeth am:
- Llety a bwytai newydd
- Digwyddiadau ac arddangosfeydd mawr
- Mentrau cynaliadwyedd newydd a phrofiadau teithio cyfrifol – gan gynnwys cynigion amaeth-dwristiaeth a gwirfoddoli
- Cynhyrchion neu brofiadau newydd wedi'u datblygu ar gyfer y rhai sydd â gofynion hygyrchedd
- Teithiau, atyniadau a phrofiadau newydd
- Llwybrau newydd a gweithgareddau awyr agored
- Lleoliadau ffilm / teledu newydd a phrofiadau cysylltiedig
- Penblwyddi mawr
Ein dyddiad cau cyntaf i gyflwyno crynodeb 2025 yw 28 Awst 2024 felly gwerthfawrogir ymatebion cynnar. Anfonwch eich gwybodaeth at newyddioncynnyrch@llyw.cymru
Gweithio gyda VisitBritain
Galw am Fynegiannau o Ddiddordeb mewn cyfleoedd partneriaeth:
Mae VisitBritain yn cynnig cyfle i fynegi eich diddordeb mewn dau gyfle partneriaeth:
- Mae VisitBritain yn gweithio gydag Expedia yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen ac Awstralia i yrru teithio i'r DU yn Hydref/Gaeaf 2024/2025. Mae gennych gyfle i weithio gydag Expedia i greu eich ymgyrch fach eich hun yn manteisio o wariant ehangach VisitBritain gyda phecynnau yn dechrau o £25,000. I gael gwybod mwy ewch i Expedia Co-operative Opportunity | VisitBritain.org neu gofrestru eich diddordeb yn partnerships@visitbritain.org
- Yn dilyn llwyddiant ei Ymgyrch Partneriaeth Gydweithredol Diwydiant yr UDA 2022-2024, mae VisitBritain yn buddsoddi £400,000 i ehangu'r rhaglen i gynnwys Ymgyrch Partneriaeth Gydweithredol Diwydiant Awstralia yn 2024/2025. Bydd y ddwy ymgyrch yn gweithio mewn partneriaeth â diwydiant i dargedu defnyddwyr America ac Awstralia yn strategol trwy gyfryngau cyflogedig. Bydd y rhaglen yn gweithredu mewn dau gam, codi ymwybyddiaeth ym mis Hydref-Rhagfyr 2024 a thargedu trosi ym mis Ionawr-Mawrth 2025. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: Industry Co-operative Partnership Campaign - USA and Australia | VisitBritain.org Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 27 Medi 2024.
Cyfle i gysylltu â chwsmeriaid newydd trwy raglen ddigwyddiadau VisitBritan ar gyfer y fasnach deithiau:
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau, a ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer y digwyddiadau nad ydynt wedi agor eto ar gael yma.
Gallwch hefyd cofrestru nawr ar gyfer Gweminarau'r Farchnad Ryngwladol VisitBritain 2024 am ddim
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Flavia.Messina@visitbritain.org (Rheolwr Ymgysylltu â'r Diwydiant VisitBritain) ac am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru ar traveltradewales@llyw.cymru.
Mynediad i bawb - Helpu mwy o bobl i gael mynediad i’r awyr agored
Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i wella hygyrchedd llwybrau fel y gall mwy o bobl fwynhau ac elwa o fod yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i nodi a gwella rhannau o Lwybr Arfordir Cymru. Darganfyddwch fwy yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Helpu mwy o bobl i gael mynediad i’r awyr agored
Mae CNC hefyd yn cynnig rhai llwybrau cerdded sy'n addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol ac wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i ddangos addasrwydd rhai o'r llwybrau hyn - mae pob ffilm yn cael ei hadrodd gan berson anabl wrth iddynt drafod y llwybrau. Edrychwch ar y llwybrau sy'n agos at eich busnes yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Llwybr Arfordir Cymru:
Gall pawb fwynhau Llwybr Arfordir Cymru. Gellir dod o hyd i deithiau cerdded arfordirol sy'n ddelfrydol ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a chadeiriau gwthio hefyd yn Llwybr Arfordir Cymru / Lleoliadau sy’n addas ar gyfer cymhorthion symudedd a phramiau
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro a mannau awyr agored eraill trwy ddarparu ystod o offer gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth. Mae offer symudedd yr Awdurdod wedi’u dylunio a’u cynhyrchu’n arbennig ar gyfer eu defnyddio ar draethau tywod a thir garw. Mae gennym offer sy’n addas i blant ac i oedolion. Am ragor o fanylion, ewch i: Cadeiriau Olwyn y Traeth ac offer pob tir - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Croeso Cymru:
Mae syniadau gwych ar gyfer anturiaethau hygyrch ar lwybrau cerdded ledled Cymru i’w gweld hefyd ar: Rhannau Hygyrch Llwybr Arfordir Cymru | Croeso Cymru
Ymunwch â’r frwydr yn erbyn gwastraff gyda Caru Cymru a’r Wyddfa Di-blastig
Nod menter Cadwch Gymru’n Daclus yw dileu sbwriel a gwastraff; ac maent yn annog busnesau i fabwysiadu’r canlynol: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu ac Atgyweirio. Ymunwch â Caru Cymru a chael gafael ar gymorth ac adnoddau drwy glicio yma: Cymorth busnes - Cadwch Gymru’n Daclus - Caru Cymru
Os ydych chi’n fusnes lletygarwch yn ardal Yr Wyddfa, gallwch helpu i wneud Yr Wyddfa’r mynydd di-blastig cyntaf yn y byd trwy ddod yn fusnes achrededig Yr Wyddfa Di-blastig. Dysgwch fwy ac ymunwch â’r fenter yma: Busnesau Di-Blastig (llyw.cymru)
Hyfforddiant Tywyswyr Twristiaid – Bathodyn Gwyn Aberhonddu
Os ydych yn caru Aberhonddu ac eisiau rhannu eich angerdd ag eraill mae Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru yn chwilio am unigolion angerddol i hyfforddi fel tywyswyr twristiaid yn Aberhonddu, Enillwch y sgiliau i arwain teithiau diogel, difyr ac addysgiadol wrth ddysgu am y dref farchnad hanesyddol a phrysur hon
-
Ffi cwrs: £100
-
Dyddiad cychwyn: 11 Medi 2024, mae'r cwrs yn rhedeg am 12 wythnos gydag un sesiwn yr wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch dianamjames@btinternet.com
Cyfraith ailgylchu yn y gweithle – ydych chi wedi cael trefn?
Ers 6 Ebrill 2024 mae gweithleoedd wedi bod yn gwahanu eu gwastraff i'w hailgylchu. Gallwch wylio sut mae Parc Teithiol De Cymru wedi addasu i'r newidiadau, ac mae ei berchennog Hywel Davies yn dweud "pa mor gadarnhaol y mae wedi cael ei dderbyn": Ailgylchu yn y gweithle ym Mharc Teithiol De Cymru (youtube.com)
I wirio eich bod yn didoli eich gwastraff yn gywir ewch i: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU
Fel y rheoleiddiwr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth law i helpu gweithleoedd i gydymffurfio â'r rheoliadau newydd a rheoli eu gwastraff yn y ffordd gywir: Cyfoeth Naturiol Cymru / Casgliadau gwastraff ar wahân ar gyfer gweithleoedd
Mae gwybodaeth ychwanegol am reoli a gwaredu gwastraff eich busnes yn ddiogel ar gael yn: Ydych chi'n gwybod ble mae eich gwastraff yn mynd? | Busnes Cymru (llyw.cymru)
Dathlu 40 mlynedd o Cadw
Mae’r flwyddyn hon yn garreg filltir bwysig i Cadw wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Bydd yn parhau â’i genhadaeth i ofalu am lefydd hanesyddol Cymru, gan ysbrydoli cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i gysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y genedl. Am ragor o fanylion, ewch i: Dathlu 40 mlynedd o Cadw: Gofalu am ein Treftadaeth werthfawr, Darganfod a Dysgu | Cadw (llyw.cymru)
Gŵyl Awyr Dywyll 2024 – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Bydd y 3ydd Gŵyl Awyr Dywyll flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus ddydd Sadwrn 21 Medi 2024. Am fwy o fanylion, ewch i: SYLLU AR Y SÊR - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymru (breconbeacons.org)
Mae Cronfeydd Dŵr Cymru Llys-faen a Llanisien yn nodi eu pen-blwydd cyntaf
Blwyddyn yn unig ar ôl agor, mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien - sy'n cwmpasu dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) - wedi cael eu cydnabod mewn tair gwobr fawreddog:
Cafodd y Cronfeydd Dŵr hefyd statws Coedwig Genedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac roeddent yn rownd derfynol categori Budd Cymunedol Gwobrau RICS Cymru 2024.
Gweithdai Llythrennedd Carbon am ddim ym Mhowys
Mae'r Ganolfan Technoleg Amgen (CAT) ger Machynlleth yn cynnig cyrsiau Ardystiedig Llythrennedd Carbon wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer busnesau, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol a sefydliadau eraill ym Mhowys.
Hyd at ddiwedd 2024, bydd hyfforddwyr Prydain Di-garbon CAT yn croesawu grwpiau o bob rhan o Bowys i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi dwy ran hon a fydd yn cefnogi busnesau a grwpiau eraill i ddod yn fwy ymwybodol o faterion sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac i greu diwylliant carbon isel yn eu prosiectau a'u gweithleoedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys (cat.org.uk)
Cofiwch: Arival | Activate Edinburgh 2024 - Y Digwyddiad Hanfodol ar gyfer Gweithredwyr Teithio, Gweithgareddau ac Atyniadau yng Ngogledd Ewrop
Mae digwyddiadau Arival ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant profiadau yn unig, wedi'u llenwi â chynnwys ymarferol wedi'i deilwra i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu busnesau fel eich un chi a helpu i dyfu eich busnes. Arival | Activate Edinburgh yw eu digwyddiad cyntaf erioed sy'n canolbwyntio'n llwyr ar y diwydiant profiadau mewn cyrchfannau yn y DU, Iwerddon a'r rhanbarthau Nordig.
Dyma'r hyn y gallwch ei ddisgwyl:
-
Gwybodaeth gan Arbenigwyr: Dysgwch gan arweinwyr meddwl y diwydiant o'r rhanbarth yn ystod sesiynau llawn, manteisio ar gyfleoedd dysgu rhwng cymheiriaid, a meistroli pynciau y mae'n rhaid eu gwybod yn ystod sesiynau trafodaethau grŵp wedi'u teilwra
-
Dysgu drwy Drochi: Ymunwch â sesiynau drwy brofiad oddi ar y safle (a digwyddiadau cymdeithasol hwyliog!)
-
Rhwydweithio Effaith Uchel: Gyda dim ond 400-500 o fynychwyr, gallwch gael sgyrsiau mwy ystyrlon gyda'ch cyfoedion, partneriaid posibl, dosbarthwyr, a mwy
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin gyda sesiynau a gweithgareddau drwy brofiad yn digwydd ledled dinas Caeredin ar 23-25 Tachwedd 2024.
Prisiau ar gael i'r rhai sy'n cyrraedd yn gynnar gyda chod: VWLEDI15X. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i: Arival | Activate Edinburgh| 23-25 Tachwedd 2024 | Arival | Yr adnodd ar gyfer y rhan orau o deithio
Ymgynghoriadau
Llywodraeth Cymru:
Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru i’w cael ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU ac maent yn cynnwys:
-
Cofiwch: Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030- Mae’r ymgynghoriad hwn ar gyfer Cymru’n unig yn gwahodd eich barn am y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer diwylliant yng Nghymru. Mae tair blaenoriaeth, a ategir gan 20 o ddyheadau manylach. Ymgynghoriad yn cau: 4 Medi 2024. Rhagor o wybodaeth yma: Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030 | LLYW.CYMRU
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn edrych ar opsiynau ar sut y gellid rhedeg Maenordy Llancaiach Fawr yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad 6 wythnos yn rhedeg rhwng 30 Gorffennaf a 10 Medi 2024. Mae manylion llawn yr ymgynghoriad, a'r sesiynau galw heibio, ar gael yn: Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a chau'r safle a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024 | Trafodaeth Caerffili (caerphilly.gov.uk)
Statws mewnfudo ar-lein (eVisa)
Trwy gydol 2024, mae Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) yn disodli dogfennau mewnfudo ffisegol fel Trwyddedau Preswylio Biometrig (BRPs) a Chardiau (BRCs), a dogfennau papur hŷn, gyda chofnod ar-lein o statws mewnfudo o'r enw eVisa. Bydd angen i unigolion greu cyfrif UKVI. Mae manylion llawn ar gael yma: Online immigration status (eVisa) - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae'r Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer y Cytundeb Hawliau Dinasyddion (IMA) hefyd wedi cyhoeddi nodyn atgoffa sy'n cynghori dinasyddion cymwys yr UE / AEE EFTA i gofrestru eu dogfennau teithio trwy eu cyfrif UKVI. Darllenwch fwy yma: Citizens’ Rights Watchdog Issues Reminder Over Summer Travel - Independent Monitoring Authority for the Citizens' Rights Agreements (ima-citizensrights.org.uk)
Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024:
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|