Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
"Ry'n ni wedi gwrando, ry'n ni wedi dysgu ac ry'n ni'n mynd i gyflawni" – y Prif Weinidog yn cyhoeddi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i "Ry'n ni wedi gwrando, ry'n ni wedi dysgu ac ry'n ni'n mynd i gyflawni" – y Prif Weinidog yn cyhoeddi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU
Llywodraeth newydd yn cyflawni dros Gymru
Yn dilyn Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog yn cyhoeddi Cabinet newydd Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd mai Rebecca Evans AS yw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.
Dywedodd Rebecca Evans AS: “Mae’n destun llawenydd cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a bod Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau Mawr yn rhan mor amlwg o’m cyfrifoldebau fel Gweinidog. Maent yn rhannau hollbwysig o’r economi yng Nghymru a dwi’n disgwyl ymlaen at glywed gan y diwydiant a mynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ein haros.
“Wrth i ni droi’n golygon at 2025 a’r Flwyddyn Croeso yng Nghymru, testun cyffro i mi yw cael gweithio gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid i roi ein hymgyrch farchnata flaenllaw newydd ar waith lle cawn weiddi am ein croeso unigryw a chynnes a gwahodd ymwelwyr i weld y pethau llawen sy'n ein gwneud yn unigryw Gymreig a dim ond yng Nghymru y gellir eu profi - o ddiwylliant a iaith i'n tirweddau, digwyddiadau, bwyd a diod, atyniadau a llawer mwy."
Mae rhagor o wybodaeth am Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar gael yn: Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion | LLYW.CYMRU
Gweminar marchnata Croeso Cymru, 17 Hydref 2024 yn cynnwys gweithgaredd ymgyrch Blwyddyn Croeso 2025. Cofrestru ar agor
Bydd 2025 yn nodi Blwyddyn Croeso yng Nghymru: yr ymgyrch blwyddyn thema ddiweddaraf dan arweiniad Croeso Cymru. Rydym yn gwybod fod ymwelwyr wrth eu boddau â'r croeso a gânt yng Nghymru ac yn 2025 byddwn yn mynd â mwy fyth o Gymru i'r byd.
Cofrestrwch nawr ar gyfer gweminar marchnata Croeso Cymru i glywed am ein cynlluniau ar gyfer Blwyddyn Croeso 2025 a'n hymgyrch farchnata newydd flaenllaw i Gymru. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal trwy Digwyddiad Byw Microsoft Teams ar 17 Hydref 2024 rhwng 2:00 pm a 3.30 pm.
Cofrestrwch ar gyfer eich lle erbyn 4:00 pm, 14 Hydref ar: Digwyddiadur Busnes Cymru - Mae gweminar marchnata Croeso Cymru
Marchnad Prydain ac Iwerddon: 24 Ionawr 2025 – InterContinental London, yr O2
Bydd Marchnad Prydain ac Iwerddon yn dychwelyd i Lundain ddydd Gwener 24 Ionawr 2025. Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd rwydweithiau ETOA, UKinbound a VisitBritain, yn ogystal â chyrchfannau cenedlaethol a rhanbarthol ledled y DU ac Iwerddon. Cysylltwch â 200+ o brynwyr rhyngwladol mewn cyfres o apwyntiadau un i un - o gwmniau teithio bach pwrpasol i gwmniau grŵp, pob un yn barod i drefnu contract gyda'r gorau o gynhyrchion twristiaeth Prydain ac Iwerddon.
Mae cyfradd ostyngol arbennig ar gael i gyflenwyr Cymru @ £949 + TAW (mae'r gyfradd gynnar hon yn dod i ben ar 15 Tachwedd 2024) – os oes gennych ddiddordeb bod yn bresennol, e-bostiwch traveltradewales@llyw.cymru i gael y cod disgownt cyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
British Tourism & Travel Show: 19-20 Mawrth 2025 - NEC, Birmingham
Mae British Tourism & Travel Show (BTTS) yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes twristiaeth yn ystod y digwyddiad busnes i fusnes domestig blaenaf ar gyfer y farchnad teithio a thwristiaeth. Disgwylir i’r digwyddiad hwn, a gaiff ei gynnal yn yr NEC yn Birmingham, ddenu 3,000 o brynwyr masnach o’r diwydiant teithio.
Mae Croeso Cymru wedi neilltuo lle ar gyfer 9 pod ac wedi llwyddo i gytuno ar y gyfradd a ganlyn gyda'r trefnwyr:
- Cyfanswm y gost am un pod ar gyfer partneriaid: £1,650 + TAW
- Dewis ar gyfer 2 bartner ar y mwyaf i rannu pod a'r gost: £825 + TAW
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Digwyddiadau masnach teithio | Drupal (gov.wales) ac os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at Lloyd Jones neu ffoniwch 01733 889684.
Pencampwriaeth Agored Golff Menywod AIG i fod y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf erioed a lwyfannwyd yng Nghymru
Bydd hanes yn cael ei greu yn 2025 pan fydd Pencampwriaeth Agored Golff Menywod AIG yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Bydd Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn cynnal yr hyn fydd y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf i gael ei chwarae yng Nghymru rhwng 30 Gorffennaf a 3 Awst 2025, gan ddenu'r golffwyr benywaidd gorau o bob cwr o'r byd.
Meddai Martin Slumbers, Prif Swyddog Gweithredol R&A, "Mae Pencampwriaeth Agored Menywod AIG yn bencampwriaeth o'r safon uchaf sy'n denu'r chwaraewyr gorau'r byd. Mae gan y cwrs golff yng Nghymru hanes o gynnal pencampwriaethau mawreddog a bydd y chwaraewyr yn mwynhau'r her o gystadlu am Bencampwriaeth Agored Menywod AIG mewn lleoliad rhagorol arall.
"Hwn fydd y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf yng Nghymru a rydym yn gobeithio denu llawer o gefnogwyr chwaraeon Cymru, a rhai o ymhellach i ffwrdd, i ddod i fwynhau golff gwirioneddol wych."
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Pencampwriaeth Agored Menywod (aigwomensopen.com).
I ddathlu Pencampwriaeth Golff Menywod AIG yn dod i Gymru, rydym yn cynnig cyfle i ennill un o ddwy wobr - naill ai gêm 4 pêl o golff, gyda llety dros nos, neu de prynhawn i ddau yng Ngwesty'r Fro. Mwy ar Gwobr i selogion golff! | CroesoCymru
Diwrnod Twristiaeth y Byd 2024
Bob blwyddyn ar 27 Medi caiff Diwrnod Twristiaeth y Byd ei ddathlu ledled y byd, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r rôl bwysig y mae twristiaeth yn ei chwarae wrth feithrin gwerthoedd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ledled y byd. Am ragor o fanylion, ewch i Diwrnod Twristiaeth y Byd 2024 | Busnes Cymru (llyw.cymru)
£5 miliwn ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon a Cadw
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £5 miliwn arall i gefnogi ac amddiffyn cyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich Cymru a Cadw. Mae'r pecyn cymorth yn ychwanegol at y cyllid cyfalaf gwerth £3.2m a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar gyfer gwaith atgyweirio i'w wneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i £5 miliwn ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon a Cadw | LLYW.CYMRU
Bydd Wych. Ailgylcha. Ymgyrch gwastraff bwyd
Paratowch am yr ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ nesaf sy’n lansio ar ddydd Llun 14 Hydref, jyst mewn pryd ar gyfer Wythnos Ailgylchu ac yna Calan Gaeaf! Bydd yr ymgyrch yn rhedeg am 3 wythnos tan ddydd Sul 3 Tachwedd. Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. yw ymdrech gyfunol fwyaf erioed Cymru i roi hwb i ni tuag at rif 1 am ailgylchu. Mae’n cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff bwyd a chynyddu ailgylchu, ac yn helpu i baratoi’r ffordd tuag at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
Gallwch gefnogi’r ymgyrch wych hon drwy lawrlwytho’r pecyn adnoddau partneriaid a defnyddio’r adnoddau am ddim (sydd o dan embargo tan ddydd Llun 16 Hydref) yn ystod cyfnod yr ymgyrch: Asedau Ymgyrchoedd (wrapcymru.org.uk)
Wythnos Hinsawdd Cymru 11-15 Tachwedd 2024
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ym mis Tachwedd, gan ddod â phobl ynghyd o bob rhan o Gymru i ddysgu ac archwilio atebion arloesol ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Bydd yr Wythnos eleni yn cyd-fynd â chynhadledd newid hinsawdd COP29 y Cenhedloedd Unedig.
Bydd y gynhadledd rithiol 5 diwrnod eleni yn cynnwys cyfres o brif sesiynau a phaneli rhyngweithiol. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i: Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 (llyw.cymru)
Cofleidio'r Gymraeg yn y sector breifat
Cefnogaeth am ddim i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg a hybu'r Gymraeg yn y gweithle. Mae Comisiynydd y Gymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn eich gwahodd i ddigwyddiad sy'n esbonio'r cymorth sydd ar gael i'ch busnes i ddatblygu eich defnydd o'r Gymraeg. Mae'r digwyddiad ar gyfer uwch-reolwyr.
- 11 Tachwedd 2024, 2:00 pm - 3:30 pm
- Ty Principality, Heol Ty'r Brodyr, Caerdydd CFl0 3FA
-
RSVP: erbyn 10 Hydref 2024 hybu@cyg-wlc.cymru
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i ddod yn gogydd o fri yng Nghymru?
Mae cogyddion sydd â'r doniau angenrheidiol i fod yn bencampwr Cymru yn cael eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau fawreddog ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC).
Rhaid i bob cogydd sy'n bwriadu cystadlu yng nghystadlaethau Cogydd Cenedlaethol ac Iau Cymru 2025 gofrestru ymlaen llaw erbyn 7 Hydref i fynychu sesiwn friffio rithwir orfodol cyn cyflwyno eu bwydlen erbyn 15 Tachwedd 2024. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis ar gyfer pob cystadleuaeth gan y bwydlenni y maent yn eu cyflwyno. Ffurflenni cais ar: Cystadlaethau – Blas ar Gymru
Mae Blas ar Gymru, sy'n trefnu y digwyddiad tridiau i arddangos bwyd a diod Cymru yn ICC Cymru, Casnewydd ar 20-22 Ionawr 2025, yn annog cogyddion i arddangos eu sgiliau.
Tirweddau Cenedlaethol – yr enw newydd ar AHNE
Ar 22 Tachwedd 2023 ail-frandiwyd pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru a Lloegr fel Tirweddau Cenedlaethol. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u dynodi a'u gwarchod i gydnabod eu harddwch naturiol. Mae'r hunaniaeth newydd yn adlewyrchu eu pwysigrwydd cenedlaethol: y cyfraniad hanfodol y maent yn ei wneud i ddiogelu'r genedl rhag bygythiadau newid yn yr hinsawdd, dirywiad natur a'r argyfwng llesiant, tra hefyd yn creu gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r gwaith y maent yn ei wneud.
Ydych chi wedi gwneud eich ymwelwyr yn ymwybodol o Dirwedd Genedlaethol yn eich ardal chi?
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Tirweddau Cenedlaethol - Welcome to National Landscapes (national-landscapes.org.uk)
Cofiwch: Awdurdodi Teithio Electronig
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cam nesaf wrth gyflwyno Awdurdodiadau Teithio Electronig (ETAs). Mae ETA yn rhoi caniatâd i ymwelwyr deithio i'r DU. Erbyn mis Ebrill 2025, bydd angen i bob ymwelydd nad oes angen fisa arnynt gael Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) i deithio i'r DU - bydd hyn yn cynnwys ymwelwyr o'r Unol Daleithiau ac Ewrop.
- Gall Pobl gymwys nad ydynt yn Ewropeaid wneud cais ymlaen llaw o 27 Tachwedd 2024 a bydd angen ETA arnoch i deithio i'r DU o 8 Ionawr 2025.
- Gall Ewropeaid Cymwys wneud cais o 5 Mawrth 2025 a bydd angen ETA arnynt i deithio i'r DU o 2 Ebrill 2025.
Gweler y rhestr lawn o wledydd y bydd angen iddynt wneud cais am ETA ar GOV.UK.
Bydd y cenhedloedd hynny sydd fel arfer angen fisa i ymweld â'r DU yn parhau i wneud hynny ac ni ddylent gael ETA.
Os hoffech wybod mwy am ETAs, archebwch le ar un o ddigwyddiadau gwybodaeth Llywodraeth y DU.
Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael yn y pecyn partner - yn cynnwys deunyddiau hyrwyddo, cynnwys gwefan enghreifftiol, asedau cyfryngau cymdeithasol a thaflenni ffeithiau. Efallai y byddwch am ychwanegu rhai ohonynt at eich gwefan os ydych chi'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol i'ch cwsmeriaid / ymwelwyr.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau eraill am y digwyddiad, cysylltwch â ETAengagement@homeoffice.gov.uk
Cofiwch: Arival | Activate Edinburgh 2024 - Y Digwyddiad Hanfodol ar gyfer Gweithredwyr Teithio, Gweithgareddau ac Atyniadau yng Ngogledd Ewrop
Mae digwyddiadau Arival ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant profiadau yn unig, wedi'u llenwi â chynnwys ymarferol wedi'i deilwra i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu busnesau fel eich un chi a helpu i dyfu eich busnes. Arival | Activate Edinburgh yw eu digwyddiad cyntaf erioed sy'n canolbwyntio'n llwyr ar y diwydiant profiadau mewn cyrchfannau yn y DU, Iwerddon a'r rhanbarthau Nordig.
Prisiau ar gael i'r rhai sy'n cyrraedd yn gynnar gyda chod: VWLEDI15X. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i: Arival | Activate Edinburgh| 23-25 Tachwedd 2024 | Arival | Yr adnodd ar gyfer y rhan orau o deithio
Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024:
-
Gŵyl Gerdd y Ddinas Caerdydd, 27 Medi–20 Hydref. Gan anelu at ddenu dros 20,000 o bobl, bydd yr ŵyl yn dod â thalent rhyngwladol a lleol ynghyd, gan gynnwys enwau cyfarwydd a thalent newydd.
-
Gŵyl Afon Dyffryn Gwy Cysgodion Tyndyrn 18–19 Hydref. Yn noson allan ddifyr i bob oed, mae Cysgodion Tyndyrn yn cynnig noson hudolus mewn lleoliad rhagorol. Dyma gyfle prin i gerdded drwy dir yr abaty ar ôl iddi dywyllu.
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|