Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Cymorth i dwristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn y dyfodol
Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Jack Sargeant AS, y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol (19 Gorffennaf):
Mae'n Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 15 a 21 Gorffennaf 2024 cyfle i dynnu sylw at y cwmnïau a’r bobl sy’n gweithio’n galed i groesawu ymwelwyr i Gymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y diwydiannau twristiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 5.1% o'n GVA (£3.8 biliwn). Yn 2023, cawsom dros 8.5 miliwn o ymwelwyr o wledydd Prydain Fawr, ynghyd ag 892,000 o ymwelwyr rhyngwladol. Rwyf am weld y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch yn tyfu ymhellach gyda chefnogaeth strategol ac ariannol gan Croeso Cymru.
I ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer cefnogi'r economi ymwelwyr, gwnaethom wrando ar y diwydiant ac ar randdeiliaid gyda'r nod o dyfu twristiaeth mewn ffordd sy'n gynaliadwy i bobl a lleoedd Cymru.
Darllenwch y datganiad ysgrifenedig yn llawn ar: Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth i dwristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn y dyfodol (19 Gorffennaf 2024) | LLYW.CYMRU
'Croeso' i bawb! 'Croeso!' cynnes Cymreig
Mae Croeso Cymru wedi datgan mai 'Croeso!' fydd thema'r flwyddyn ar gyfer 2025.
Nod y Flwyddyn Groeso a gyhoeddwyd yn rhan o Wythnos Twristiaeth Cymru, yw dathlu'r ffyrdd gwahanol ac amrywiol y gall pobl o bob rhan o'r DU a'r byd deimlo eu bod yn cael croeso pan fyddant yn dod ar wyliau i Gymru.
Mae’r croeso cyfeillgar y mae ymwelwyr yn ei gael yng Nghymru yn rheswm allweddol pam bod llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro, sy’n dyst i ddiwylliant Cymru a'i phobl, a’r hyn sydd wedi dylanwadu ar Croeso Cymru i ddewis thema 'Croeso' ar gyfer 2025.
Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar: 'Croeso' i bawb! 'Croeso!' cynnes Cymreig | LLYW.CYMRU
Portffolios Cabinet
Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Y Prif Weinidog, Vaughan Gething AS:
“Rydw i heno (17 Gorffennaf) yn cyhoeddi newidiadau i fy nhîm Gweinidogol. Rwyf wedi gofyn i Jack Sargeant, Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ymuno â fy nhîm fel y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Rwyf wedi ehangu cwmpas rhai portffolios Gweinidogol, tra byddaf yn cadw goruchwyliaeth ar gyfer trafodaethau parhaus gyda TATA yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.”
Cyhoeddi’r Baromedr Twristiaeth Diweddaraf (cam yr Mehefin 2024)
Mae’r Baromedr Twristiaeth diweddaraf wedi ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd o 900 o alwadau ffôn a gynhaliwyd gyda busnesau twristiaeth ledled Cymru rhwng 5 a 24 Mehefin 2024.
Dau gyfle i gwrdd â gweithredwyr teithiau o’r Almaen
Mae VisitBritain wedi agor y broses gofrestru ar gyfer dau ddigwyddiad sy'n cynnig cyfle i fusnesau gwrdd â gweithredwyr ac asiantau teithio o'r Almaen ac ar draws y byd.
-
Gweithdy'r Almaen, Frankfurt, 13-15 Tachwedd 2024: Os ydych chi'n newydd i farchnad yr Almaen ac angen cymorth ychwanegol, efallai y byddwch am fynychu Gweithdy'r Almaen 2024. Mae'r digwyddiad wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer busnesau sy'n barod i fasnachu sy'n newydd i'r farchnad Almaenig. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 5 Awst 2024 (gall gau'n gynharach os yw'n llenwi). Cewch ragor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru yma: Gweithdy'r Almaen 2024 | VisitBritain.org
-
ITB Berlin, 4-6 Mawrth 2025: Byddwch yn arddangos o dan frand VisitBritain ar y cyd â Croeso Cymru. ITB Berlin yw un o'r sioeau masnach mwyaf yn y byd ac mae'n dangos y gorau o Brydain i brynwyr Almaenig a byd-eang. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau sy'n gyfforddus â chwrdd â'r fasnach deithio Almaenig a byd-eang. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 20 Awst 2024. Mwy o wybodaeth a sut i gofrestru yma: Ffurflen Gofrestru ITB Berlin 2025
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau VisitBritain, a ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer y digwyddiadau nad ydynt wedi agor eto ar gael yma.
Gallwch hefyd cofrestru nawr ar gyfer Gweminarau'r Farchnad Ryngwladol VisitBritain 2024 am ddim
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Flavia.Messina@visitbritain.org (Rheolwr Ymgysylltu â'r Diwydiant VisitBritain) ac am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru ar traveltradewales@llyw.cymru.
Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024:
-
Gŵyl Steelhouse, Glyn Ebwy, 26-28 Gorffennaf. Digwyddiad blynyddol a gynhelir ar gopa mynydd yng Nglyn Ebwy lle mae Cymru'n croesawu un o wyliau roc clasurol mwyaf eiconig y byd gan ddod â chariadon roc at ei gilydd.
-
The Hundred, Caerdydd, 28 Gorffennaf. Cystadleuaeth griced 100 pêl na ellir ei cholli a fydd yn hynod o gyffrous.
-
2024 FIM Speedway GP of Great Britain, Caerdydd, 17 Awst. Digwyddiad chwaraeon modur dan do gorau Prydain.
Ymgyrch ‘Arnofio i Fyw’ RNLI 2024
Cyngor yr RNLI i bobl sy’n cael eu hunain wedi’u sythu gan ddŵr oer neu mewn trafferth yn y dŵr yw ‘Arnofio i Fyw’. Bob blwyddyn, mae’r elusen yn clywed am fwy a mwy o bobl sydd wedi gwrando ar cyngor hwn, ‘Arnofio i Fyw’, i achub eu bywydau. Am ragor o fanylion, ewch i Float To Live – What To Do In An Emergency – RNLI.
Rhannwch fanylion yr ymgyrch ar eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Mae adnoddau’r ymgyrch ar gael ar y wefan Float to Live Toolkit: resources for download (rnli.org) (yn Gymraeg a Saesneg)
Y Cod Cefn Gwlad
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi canllaw i helpu pawb i fwynhau parciau ac afonydd, yr arfordir a chefn gwlad. Rhannwch y canllaw hwn ar eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Am ragor o fanylion, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Teulu’r Cod Cefn Gwlad (naturalresourceswales.gov.uk).
Trawsnewidiad Diwylliannol ar y Ffordd i Gastell-nedd Port Talbot
Mae tair strategaeth ddeinamig newydd wedi’u lansio a fydd gyda’i gilydd yn ceisio cyflawni’r nod o fuddsoddi mewn diwylliant a threftadaeth er budd pobl leol, ac ar yr un pryd beri fod Castell-nedd Port Talbot yn gyrchfan a gydnabyddir yn genedlaethol i ymwelwyr erbyn 2030:
Am ragor o fanylion, ewch i: Ein Lle, Ein Dyfodol: Trawsnewidiad Diwylliannol ar y Ffordd i Gastell-nedd Port Talbot - Newyddion CNPT
Dod yn un o Lysgenhadon Cymru
Cynyddu eich gwybodaeth am Gymru a helpu eraill i gael y gorau o’u hymweliad.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cynnig cyfres o gyrsiau ar-lein, yn rhad ac am ddim, a fydd yn eich cyflwyno i ardaloedd ac atyniadau gwahanol yng Nghymru. Gallwch ddewis unrhyw gwrs sy’n berthnasol i ble rydych chi’n byw, neu sydd o ddiddordeb i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac am sut i fod yn un o Lysgenhadon Cymru, ewch i: Llysgenhadon Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru
Cronfa Gymunedol Gogledd Cymru
Bellach, gall elusennau a sefydliadau cymunedol Gogledd Cymru wneud cais am gyfran o’r £3,000 sydd yng nghronfa newydd Cronfa Gymunedol Gogledd Cymru. Bydd tri grŵp yn derbyn £1,000 yr un.
Nod y fenter hon gan Go North Wales, sy’n rhan o Dwristiaeth Gogledd Cymru, a holidaycottages.co.uk yw cefnogi grwpiau lleol sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Awst 2024.
Am ragor o fanylion, ewch i: Cronfa Gymunedol Gogledd Cymru | Busnes Cymru (gov.wales)
Dyfarnwyd MBE i'r Athro Andrew Campbell yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin
Llongyfarchiadau i'r Athro Andrew Campbell ar gael MBE i gydnabod ei wasanaethau i dwristiaeth.
Mae Andrew yn Athro Ymarfer mewn Twristiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a bu'n Gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru tan 2021.
Ymgynghoriad Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Ddatblygiadau Carafanio a Gwersylla yn y Parc Cenedlaethol
Mae’r Awdurdod yn croesawu eich barn ar yr opsiynau arfaethedig i lywio’r camau gweithredu y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd yn y dyfodol.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan 5pm ddydd Gwener, 20 Medi 2024. Cewch ragor o wybodaeth ar: Ymgynghoriad ar Ddatblygiadau Carafanio a Gwersylla yn y Parc Cenedlaethol - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Arival | Activate Edinburgh 2024 - Y Digwyddiad Hanfodol ar gyfer Gweithredwyr Teithio, Gweithgareddau ac Atyniadau yng Ngogledd Ewrop
Mae digwyddiadau Arival ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant profiadau yn unig, wedi'u llenwi â chynnwys ymarferol wedi'i deilwra i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu busnesau fel eich un chi a helpu i dyfu eich busnes. Arival | Activate Edinburgh yw eu digwyddiad cyntaf erioed sy'n canolbwyntio'n llwyr ar y diwydiant profiadau mewn cyrchfannau yn y DU, Iwerddon a'r rhanbarthau Nordig.
Dyma'r hyn y gallwch ei ddisgwyl:
-
Gwybodaeth gan Arbenigwyr: Dysgwch gan arweinwyr meddwl y diwydiant o'r rhanbarth yn ystod sesiynau llawn, manteisio ar gyfleoedd dysgu rhwng cymheiriaid, a meistroli pynciau y mae'n rhaid eu gwybod yn ystod sesiynau trafodaethau grŵp wedi'u teilwra
-
Dysgu drwy Drochi: Ymunwch â sesiynau drwy brofiad oddi ar y safle (a digwyddiadau cymdeithasol hwyliog!)
-
Rhwydweithio Effaith Uchel: Gyda dim ond 400-500 o fynychwyr, gallwch gael sgyrsiau mwy ystyrlon gyda'ch cyfoedion, partneriaid posibl, dosbarthwyr, a mwy
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin gyda sesiynau a gweithgareddau drwy brofiad yn digwydd ledled dinas Caeredin ar 23-25 Tachwedd 2024.
Prisiau ar gael i'r rhai sy'n cyrraedd yn gynnar gyda chod: VWLEDI15X. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i: Arival | Activate Edinburgh| 23-25 Tachwedd 2024 | Arival | Yr adnodd ar gyfer y rhan orau o deithio
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|