Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar gael nawr!

Gorffennaf 2024

 
 

CYNNWYS

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Umaira Chaudhary

Helo, a chroeso i rifyn diweddaraf y Bwletin Gwaith Ieuenctid.

Rwy'n gobeithio eich bod yn cadw'n dda.

Yn ystod mis Mehefin, buom yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid.

Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at yr adeg hon o’r flwyddyn pan fyddwn yn rhannu profiadau ac yn myfyrio ar y gwahaniaeth y mae Gwaith Ieuenctid yn ei wneud i bobl ifanc, ein cymunedau, a’n gwlad.

Eleni, y thema oedd Pam Gwaith Ieuenctid? Cefais fy ysbrydoli gymaint gan y straeon a rannwyd ac enghreifftiau o sut mae Gwaith Ieuenctid yn galluogi pobl ifanc i ffynnu.

Yn arwain at Wythnos Gwaith Ieuenctid, bu'r Bwrdd yn cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg Plant/Pobl Ifanc a phobl ifanc i drafod pwysigrwydd Gwaith Ieuenctid a gwaith y Bwrdd. Roedd hwn yn gyfle gwych i glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc o gefndiroedd gwahanol am effaith Gwaith Ieuenctid ar eu bywydau.

podcast

Cymerais ran yn fy mhodlediad cyntaf erioed gyda phobl ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Llaneirwg, a gofynnon nhw gwestiynau gwych i mi am gyllido, pwysigrwydd lles a chael hwyl, a sut y gallant sbarduno newid yn eu cymunedau. Fe rannon nhw eu barn gyda mi ar sut mae Gwaith Ieuenctid yn caniatáu iddyn nhw fod yr hyn ydyn nhw mewn gwirionedd, yn meddu ar ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn. Cefais y pleser hefyd o fod yn siaradwr yng Nghynhadledd Cymdeithas Broffesiynol Darlithwyr mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mynychais hefyd Ganolfan Ieuenctid Deaf Cool Club yng Nghanol Dinas Caerdydd. Rwyf wrth fy modd â’r man diogel hwn i’r gymuned ifanc fyddar yng Nghaerdydd, sy’n cael ei redeg gan staff a gwirfoddolwyr dawnus. Mae'n enghraifft o sut y gellir llunio ein gwasanaethau ieuenctid o amgylch cynhwysiant a mynediad cyfartal. Roedd hyn i gyd yn dangos bod Gwaith Ieuenctid yn fyw iawn, ac fel Bwrdd, rydym yn adeiladu sylfeini cryf wrth i ni symud ymlaen â gweithredu ein gwaith ar gyfer cynaliadwyedd Gwaith Ieuenctid yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi cymryd rhan yn sesiynau'r Awr Fawr a gweminarau i alluogi’r Bwrdd i glywed yn uniongyrchol gennych wrth i ni symud ymlaen â’n gwaith ar gryfhau’r ddeddfwriaeth ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ym mis Awst, bydd yr Urdd yn cynnal penwythnos preswyl i bobl ifanc ar ran Llywodraeth Cymru i ymwneud â’r gwaith ar ddatblygu ar strwythur llywodraethu wedi ei arwain gan bobl ifanc.

Mae Gwaith Ieuenctid yn gweithio, diolch i’r bobl ymroddgar ac angerddol sydd wrth galon y gwaith. Mae yna lawer o wirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n addysgu, galluogi a grymuso pobl ifanc.

Sharon Lovell.

Llais Person Ifanc

Molly Fenton – Pencampwraig Gwaith Ieuenctid ac enillydd diweddar y wobr am waith gwirfoddol eithriadol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid 2023!

Nod y Pencampwyr Gwaith Ieuenctid yw tynnu sylw at waith cadarnhaol yn y sector Gwaith Ieuenctid ac eirioli dros bobl ifanc, Gweithwyr Ieuenctid, sefydliadau ac awdurdodau lleol ledled waith Cymru.

Isod mae Molly Fenton yn rhannu ei phrofiadau fel person ifanc, sylfaenydd ymgyrch Caru’ch Mislif, a Phencamwpraig Ieuenctid.

Mae'n anrhydedd cael bod yn un o’r Pencampwyr Gwaith Ieuenctid.

Molly fenton

A minnau’n tyfu i fyny gyda llawer o gefnogaeth gan Weithwyr Ieuenctid, teimlais mai mater i ni oedd dod at ein gilydd fel cymuned i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a thynnu sylw at y gwaith anhygoel a’r effaith y mae Gweithwyr Ieuenctid proffesiynol, pobl ifanc, sefydliadau ac awdurdodau lleol yn ei annog bob dydd.

Yn 16 oed, dechreuais ymgyrch Caru’ch Mislif. Es i'n sâl iawn yn ystod fy arholiadau a sylweddolais fod yna arwyddion a symptomau o gwmpas fy nghorff yr oeddwn i'n embaras yn eu cylch, felly fe wnes i oedi cyn mynd at y meddyg. Roedd Gwaith Ieuenctid yn rheswm enfawr pam roeddwn i’n gallu cael fy mywyd yn ôl ar ôl fy salwch a mynegi fy hun trwy fy ngwaith eiriolaeth.

Mae Gwaith Ieuenctid mor bwysig, ac mae’n cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau ifanc, gan gynnwys fy mywyd i. Mae dod yn Bencampwraig Gwaith Ieuenctid yn rhoi'r cyfle i mi helpu i gefnogi pobl eraill i siarad am sut y gall Gwaith Ieuenctid newid bywydau.

I mi, mae bod yn Bencamwpraig Gwaith Ieuenctid yn ymwneud ag eirioli dros bobl ifanc, ac mae hynny'n cynnwys hyrwyddo eu hachosion. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yr hyn y mae eiriolaeth gadarnhaol yn ei wneud a'r effaith y gall ei chael trwy fy ngwaith fy hun gyda Caru’ch Mislif. Rwyf am roi arweiniad ac annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cefnogi gwasanaethau ieuenctid a manteisio ar unrhyw gyfleoedd a gyflwynir iddynt.

Rwyf wrth fy modd i wneud fy rhan i roi yn ôl.

I ddarganfod mwy am waith Molly, ewch i loveyourperiod | Twitter, Instagram, Facebook, TikTok | Linktree

Gweithio Gyda’n Gilydd wrth wneud Gwaith Ieuenctid

Grŵp YMCA Caerdydd yn falch o gyflwyno “Bedford Place”, Cyfadeilad Fflatiau 18-Gwely Newydd ar gyfer Pobl Ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd yng Nghaerdydd

Mewn menter nodedig, mae YMCA Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd y gwaith o adeiladu cyfadeilad fflatiau 18-gwely arloesol wedi dechrau, sy'n ymroddedig i ddarparu llety diogel a chadarn i bobl ifanc ddigartref yng Nghaerdydd.

development

Gan gydnabod sefyllfa frys digartrefedd ieuenctid, mae cyfadeilad pwrpasol YMCA Caerdydd yn darparu dull trawsnewidiol o gefnogi pobl ifanc. Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:

Amgylchedd Modern, Diogel a Chefnogol: Mae pob fflat wedi'i gynllunio i gynnig gofod cyfforddus a meithringar.

Gwasanaethau Cymorth ar y Safle: Bydd tîm ymroddedig yn darparu cymorth cynhwysfawr, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau bywyd a mynediad i gyfleoedd addysg a chyflogaeth.

Integreiddio Cymunedol: Bydd y cyfadeilad yn meithrin rhyngweithio cadarnhaol gyda busnesau a chymunedau lleol, gan annog integreiddio cymdeithasol a lleihau stigma.

Arferion Cynaliadwy: Gan ymgorffori technolegau ecogyfeillgar, bydd y cyfadeilad yn hyrwyddo byw'n gynaliadwy ac yn lleihau ei ôl troed carbon.

Mae'r datblygiad hwn yn tanlinellu ymroddiad YMCA Caerdydd i greu amgylcheddau sefydlog i bobl ifanc ddigartref ailadeiladu eu bywydau a sicrhau dyfodol mwy disglair. 

YMCA

Bydd y datblygiad modern hwn, gan ddefnyddio dulliau adeiladu cyfoes, yn cael ei gwblhau ym mis Ionawr 2025 a bydd pobl ifanc yn symud i mewn ar 1 Chwefror 2025.

Am ragor o wybodaeth, ewch i - YMCA Cardiff Group proudly Introduces Ground-breaking Project “Bedford Place” - YMCA Caerdydd

Newyddion Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru

Cyfle i Fyfyrio - Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024, 'Pam Gwaith Ieuenctid?'

Rhwng 23 a 30 Mehefin, buom yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid flynyddol ledled Cymru.

Roedd hwn yn gyfle perffaith i dynnu sylw at gyfraniadau amhrisiadwy Gweithwyr Ieuenctid, sefydliadau, awdurdodau lleol, a phobl ifanc sy'n cyfrannu at effeithio ar fywydau pobl ifanc.

Helpodd thema eleni, ‘Pam Gwaith Ieuenctid?’, i danlinellu pwysigrwydd a buddion Gwaith Ieuenctid. Roedd yn caniatáu i unigolion fyfyrio ar y rhesymau y tu ôl i’r rôl hanfodol sydd gan Waith Ieuenctid wrth greu newid.

YWW welsh

Gwelsom ymateb enfawr wrth i ni gael ein syfrdanu gan negeseuon cadarnhaol trwy fideos, delweddau, digwyddiadau, a mwy a hynny ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol.

Cymerodd ein Pencampwyr Gwaith Ieuenctid ran mewn cyflwyno negeseuon fideo cefnogol yn tynnu sylw at bwysigrwydd Wythnos Gwaith Ieuenctid, tra hefyd yn myfyrio ar eu profiadau a’u teithiau eu hunain o fewn y sector Gwaith Ieuenctid.

Daeth uchafbwynt arall yr wythnos ar ffurf trosfeddiannu cyfryngau cymdeithasol ar-lein lle cafodd sefydliadau ieuenctid, pobl ifanc, Gweithwyr Ieuenctid, ac awdurdodau lleol gyfle i bostio eu cynnwys eu hunain ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Gwaith Ieuenctid yng Nghymru a lleisio eu barn ar thema 'Pam Gwaith Ieuenctid?'

Cynhaliwyd y pumed gweminar GCG, a’r olaf, hefyd ar Fehefin 24ain “Creu cysylltiadau cryfach rhwng Gwaith Ieuenctid a rhannau eraill o’r system Addysg”, dan arweiniad Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol, un o’r pum grŵp a sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Yn ystod y cyfarfod, cafwyd nifer o drafodaethau cadarnhaol ynghylch pwysigrwydd Gwaith Ieuenctid ac addysg, a diolchwn i’r cyfranwyr a gymerodd ran i wneud y gyfres o weminarau GCG yn llwyddiant ac i’r sector am ymgysylltu mor gadarnhaol ag Wythnos Gwaith Ieuenctid.

Os hoffech wylio'r gweminarau yn ôl, ewch i Gwaith Ieuenctid Cymru | Youth Work In Wales - YouTube

Sesiynau 'Yr Awr Fawr'

Rhoddodd sesiynau 'Yr Awr Fawr' gyfle i drafod pynciau pwysig fel rhan o’n gwaith i gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Diolch i bawb a gymerodd ran. 

yr awr fawr

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau sesiynau'r Awr Fawr ewch i, Gwaith Ieuenctid yng Nghymru Beth mae hyn yn ei olygu i bobl ifanc? – CWVYS

Cynlluniau cyfathrebu ar gyfer y flwyddyn i ddod

 

Gan adeiladu ar y momentwm o’r Wythnos Gwaith Ieuenctid lwyddiannus yn 2024, rydym yn gyffrous am y cyfleoedd sydd ar ddod dros y flwyddyn nesa.

Welsh Government logo

Fel rhan o'n hymrwymiad i welliant parhaus, penderfynwyd y bydd Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn cymryd saib eleni wrth i ni asesu effeithiolrwydd a phwrpas y broses enwebu a fformat y seremoni wobrwyo.

Byddwn yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o Bencampwyr Gwaith Ieuenctid trwy gydol y flwyddyn i dynnu sylw at ragoriaeth ac arloesi. Pe hoffech dynnu ein sylw at brosiect arbennig, cysylltwch â manon@cwvys.org.uk

Yn ogystal â'n Pencampwyr Gwaith Ieuenctid, bydd cynhadledd wyneb yn wyneb hefyd yn canolbwyntio ar bŵer partneriaethau a chydweithio o fewn Gwaith Ieuenctid yn gynnar yn 2025.  Bydd rhagor o fanylion am y rhaglen ar gael yn ddiweddarach yr haf hwn.

Croesawn eich cefnogaeth a’ch mewnbwn parhaus wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y mwyaf o gyfleoedd a rhannu eich angerdd, positifrwydd ac ymarfer mewn Gwaith Ieuenctid.

Yng Nghymru

Pobl Ifanc yn Llunio Dyfodol Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngwent

Mae pobl ifanc yng Ngwent wrthi’n llunio gweledigaeth ar gyfer cymuned fwy gwydn ac iach yn feddyliol drwy brosiect Mind Meddwl Ymlaen Gwent, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac a reolir gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd.

Gan ddefnyddio methodoleg dylunio gwasanaeth, mae'r prosiect yn cynnwys pedwar cam: Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflawni.

Mind Gwent

Yn ystod y cyfnod Darganfod, casglodd 10 o ymchwilwyr cymheiriaid fewnwelediadau, gan arwain at adroddiad cynhwysfawr yn tynnu sylw at anghenion allweddol:

  1. Staff Dibynadwy ac sy'n Deall: Pwyslais ar staff yn bod yn gyfeillgar ond yn broffesiynol.
  2. Gwasanaethau Hyblyg a Hygyrch: Rhaid i wasanaethau ddiwallu anghenion amrywiol.
  3. Ymwybyddiaeth o Wasanaethau: Nid yw llawer o bobl ifanc yn ymwybodol o'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael.
  4. Cysondeb mewn Cefnogaeth: Mae cysondeb yn hanfodol, yn enwedig yn ystod symud rhwng gwasanaethau.
  5. Goresgyn Profiadau Negyddol: Mae profiadau negyddol yn y gorffennol yn atal pobl rhag ceisio cymorth.
  6. Mynd i'r Afael â Stigma: Mae ofn stigma yn atal llawer rhag ceisio cymorth.
  7. Cefnogaeth Amserol: Mae'n hanfodol cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.

Y mewnwelediadau hyn gan 203 o bobl ifanc sy'n llywio camau nesaf y prosiect: Diffinio, Datblygu a Chyflawni. Mae’r prototeipiau’n cynnwys ymgyrchoedd i fynd i’r afael â stigma, gwell hyfforddiant i staff, gwell cymorth drwy baneli SPACE, a mwy o gymorth gan gymheiriaid. Mae dylunwyr gwasanaethau cymheiriaid yn cydweithio i fireinio'r syniadau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Meddwl Ymlaen Gwent ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf, gallwch gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rhanddeiliaid yma.

EWC

Ymateb y sector ieuenctid i agenda digartrefedd yng Nghymru.

 

Beth nawr, beth nesaf?

Yn ôl yn 2019, ysgrifennodd Nick Hudd, Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid Awdurdod Lleol Sir Benfro ei adroddiad o ymateb Gwaith Ieuenctid i ddigartrefedd. Nawr, bum mlynedd yn ddiweddarach mae'n myfyrio ar y sefyllfa bresennol ac yn bwrw golwg at y dyfodol.

Yn ddiweddar, bu gwahanol bartïon â diddordeb yn cydweithio i gynllunio a hwyluso cynhadledd genedlaethol, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Fynd i'r Afael â Phobl Ifanc Ddigartref'. Mae'n bosib bod y digwyddiad hwn yn cynnig darlun diriaethol o’r sefyllfa bresennol ac yn enghraifft o’r sector yn gwneud yr hyn y mae’n ei wneud orau, yn adeiladu partneriaethau, yn ceisio mynd i’r afael â diffygion, yn dod o hyd i ffyrdd o rannu enghreifftiau o arfer da, ac yn cydweithio er budd pobl ifanc. 

Bu pob un o’r 22 o wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol yn cydweithio a chytuno i gyd-ariannu’r digwyddiad, ynghyd â phartner trydydd sector, End Youth Homelessness Cymru. Chwaraeodd Llywodraeth Cymru a CLlLC ran ganolog hefyd wrth helpu i gynllunio a hwyluso’r diwrnod. Gyda’r sector weithiau’n cael ei gyhuddo o fod yn fogailsyllol a gan gydnabod y rôl froceriaeth y mae Gwaith Ieuenctid yn ei chwarae, gwahoddwyd mynychwyr o amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys gofal cymdeithasol, iechyd, a llu o sefydliadau gwirfoddol/trydydd sector.

Mae Gwaith Ieuenctid bob amser wedi ymfalchïo mewn bod yn arloesol, gan newid ac addasu i ddiwallu anghenion cymdeithas gyfoes. Mae cydnabod ac adeiladu ar y cryfderau hyn yn ein galluogi i ymateb yn effeithiol i ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Fodd bynnag, i symud ymlaen, weithiau mae’n rhaid i ni edrych yn ôl a nodi meysydd lle bu angen mwy o ddatblygu.

I weld yr erthygl lawn, ewch i - Ymateb y sector ieuenctid i agenda digartrefedd yng Nghymru. Beth nawr, beth nesaf? (ewc.wales)

O Amgylch y Byd

Urdd logo

 

Prosiect newydd yr Urdd #FelMerch yn India - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn fuan!

 

Mae’r Urdd wedi lansio rhaglen i bobl ifanc o Gymru i helpu i frwydro yn erbyn trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn India, wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Urdd> India

Gan weithio mewn partneriaeth â Her Future Coalition (HFC), bydd y rhaglen yn galluogi gwirfoddolwyr 18-25 oed o Gymru i gymryd rhan mewn rhaglenni addysg a chymorth i blant a phobl ifanc yn Kolkata sydd mewn perygl mawr.

Mae ceisiadau am le ar ymweliad yr Urdd ag India yn 2025 yn cau ar 19 Gorffennaf: Ymgeisio i Daith yr Urdd i India | Urdd Gobaith Cymru

Mae’r fenter yn cael ei lansio fel rhan o flwyddyn Cymru yn India, a ddechreuodd ar 1 Mawrth 2024, i hyrwyddo gweithgareddau sy’n cryfhau’r berthynas rhwng India a Chymru. Bydd gwahoddiad i gynrychiolwyr o India ymweld â Chymru, dan ofal yr Urdd, y flwyddyn nesaf.

Deialog Ieuenctid a Rhyngddiwylliannol ar adegau o Ddeallusrwydd Artiffisial

Galw am gyfranogwyr – dyddiad cau 25 Gorffennaf 2024!

Arab Emirates image

Mae galw ar gyfranogwyr i wneud cais am yr 8fed Fforwm Ieuenctid Arabaidd-Ewropeaidd, i'w gynnal yn Luxor, yr Aifft, rhwng 14 a 19 Hydref 2024.

Mae'r fforwm wedi'i gyd-drefnu â Chynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd a bydd yn canolbwyntio ar Ddeialog Ieuenctid a Rhyngddiwylliannol ar adegau o Ddeallusrwydd Artiffisial. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Gorffennaf 2024. Mae'r alwad hefyd ar gael yn y ddolen hon: https://go.coe.int/65BLy

Arab emirates banner

Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Umaira Chaudhary

Swyddog Datblygu Marc Ansawdd newydd

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn arf unigryw i sefydliadau hunanasesu eu hansawdd yn erbyn tair lefel safonol Efydd, Arian ac Aur, ac yna i wneud cais am asesiad allanol i gyflawni safon y Marc Ansawdd.

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) sy'n parhau gyda'r contract i redeg y Marc Ansawdd ar ran Llywodraeth Cymru ac maent yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Tara Reddy yn Swyddog Datblygu Marc Ansawdd newydd.

Bydd Tara yn cymryd yr awenau gan Andy Borsden yr haf hwn wrth arwain datblygiad y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan ddod â mwy na 25 mlynedd o brofiad mewn Gwaith Ieuenctid awdurdod lleol a gwirfoddol i’r rôl.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y Marc Ansawdd, ewch i wefan CGA, CGA / EWC

Glywsoch chi?

Gawsoch chi eich geni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011?

Os felly, mae'n bosib bod gennych chi Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn eich enw chi. Mae hwn yn gyfrif cynilo ar gyfer plant wrth iddynt dyfu i fyny.

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, gallwch chi benderfynu ble mae’r arian hwn yn cael ei fuddsoddi.

Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn, gallwch gael gafael ar yr arian.

Os credwch fod gennych arian mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, beth am siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo neu gysylltu â ni ar linell gymorth Meic.

Gallech hefyd ddefnyddio'r gwasanaethau hyn i gael gwybodaeth neu gymorth:

 Hafan - Hafan - Meic (meiccymru.org)

ctf cym

Senedd Ieuenctid Cymru, Yn Barod i Siapio'r Dyfodol? 

 

Lansiwyd yr ymgyrch ar gyfer trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru ar 27 Mai 2024 yn ystod Eisteddfod yr Urdd.

Senedd IC

Gall pobl ifanc 11-17 oed ledled Cymru gofrestru i bleidleisio a thynnu sylw at eu pryderon allweddol. Mae enwebiadau ymgeiswyr yn rhedeg o fis Gorffennaf i fis Hydref, a chyhoeddir y canlyniadau ar 21 Hydref cyn yr etholiadau o 4-25 Tachwedd 2024.

I gael rhagor o fanylion am etholiadau ar-lein cenedlaethol a chyhoeddiad yr aelod, cysylltwch â helo@seneddieuenctid.cymru neu ewch i senedd.cymru.

Mae ETS yn falch o lawnsio eu cyfres Podlediad Newydd: Dyma Waith Ieuenctid.

ETS podcast

Mae’r podlediadau’ n edrych mewn i fywydau Gweithwyr Ieuenctid, y rhai sydd ar y rheng flaen o weithio gyda phobl ifanc, gan glywed am eu siwrne mewn i Waith Ieuenctid, dysgu beth sy’n eu symbylu a’u cyffroi nhw wrth weithio gyda phobl ifanc.

 

Beth am wrando?

Gallwch ymweld â’u tudalen Youtube ETS Wales - YouTube a gallwch danysgrifio am ragor o wybodaeth.

Maent hefyd yn chwilio am gyfranogwyr o ganolbarth a gogledd Cymru a chynrychiolydd i holi drwy gyfrwng y Gymraeg . Os y gwyddoch am rywun a fyddai’n hoffi’r cyfle, cysylltwch â Darryl darryl.white@wlga.gov.uk. Mae hyn yn rhan o gynllun peilot i gyfathrebu’n uniongyrchol gydag ymarferwyr Gwaith Ieuenctid, ac os oes gennych syniadau am themau ar gyfer penodau eraill, rhowch wybod i Darryl os gwelwch yn dda.

Byddwch yn Rhan o'r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkinWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gael yr holl newyddion diweddaraf.

Meic CYM Gif

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddir y cylchlythyr bob 4 mis i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@IeuenctidCymru