Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru

Mehefin 2024

 
 

Croeso i'n newyddlen Diogelwch Adeiladu - a gynlluniwyd i'ch hysbysu yn rheolaidd am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladu a materion diogelwch tân sy'n effeithio ar bobl Cymru.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau

Diwygio

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r system bresennol o ddiogelwch adeiladu yng Nghymru fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi.

Bydd y camau rydym yn eu cymryd i wella Diogelwch Adeiladu yng Nghymru yn helpu i fynd i'r afael â'n sefyllfa bresennol yn ogystal â sicrhau na all y problemau sy'n ein hwynebu nawr ddigwydd eto yn y dyfodol.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd y tîm Diwygio Diogelwch Adeiladu gyfres o dri gweithdy i drafod y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) arfaethedig gydag Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Tân ac Achub. Yn y gweithdai hyn, fe wnaethom ddatblygu ymhellach y polisi a rannwyd yn flaenorol yn ystod gweithdai'r haf diwethaf.  

Roedd y sesiynau yn cynnwys:

  • Dyletswyddau i'w gosod ar awdurdodau lleol fel Rheoleiddwyr, a chydweithrediad â'r Awdurdodau Tân ac Achub,
  • Dyletswyddau i'w rhoi ar ddeiliaid dyletswydd,
  • Diffiniad o risgiau diogelwch adeiladu
  • Cofrestru a'r Dystysgrif Adeiladu,
  • Ymgysylltu â phreswylwyr, cwynion a'u cyfrifoldebau yn y drefn newydd a,
  • Gorfodi a Sancsiynau

Rydym yn bwriadu cynnal cyfres o sesiynau ymgysylltu gydag ystod ehangach o randdeiliaid dros y misoedd nesaf. Os hoffech chi fod yn rhan o'r sesiynau hyn, cysylltwch â ni yn ein blwch post:

diogelwchadeiladau@llyw.cymru

Tîm Arolygu ar y Cyd

Mae'r Tîm Arolygu ar y Cyd ar gyfer Diogelwch Adeiladu yng Nghymru bellach yn weithredol a bydd yn cynnal ei arolygiad cyntaf cyn bo hir.

Bydd y Tîm yn dod â chapasiti ychwanegol i'r gwaith o arolygu adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Byddant yn gweithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaethau Tân ac Achub i gynnal arolygiadau ychwanegol o adeiladau canolig ac uchel ledled Cymru.  Mae rhaglen o arolygiadau yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.    

Bydd y Tîm Arolygu ar y Cyd yn gweithredu mewn swyddogaeth gynghori - ni fydd ganddo bwerau gorfodi.  Fodd bynnag, bydd yn darparu cyngor ac yn gwneud argymhellion i'r awdurdodau gorfodi presennol gan gynnwys adrodd amser real ar faterion sy'n peri pryder sylweddol, adroddiadau manwl i awdurdodau gorfodi, cyfarfodydd ôl-arolygu ac adolygiadau gyda'r Awdurdod Lleol lletyol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub perthnasol.

Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol, yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol diogelwch adeiladu a diogelwch tân ac mae'n cynnwys Arweinydd Strategol a phedwar Prif Gynghorydd sy'n arbenigo mewn:

  • Rheoli Adeiladu
  • Iechyd yr Amgylchedd:
  • Tân ac Achub
  • Peirianneg Tân

Bydd y Tîm Arolygu ar y Cyd hefyd yn tynnu sylw at y cynnig o arolygon ymwthiol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog mwy o fynegiannau o ddiddordeb i'r Gronfa Diogelwch Adeiladau gan berchnogion adeiladau/asiantiaid rheoli.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dawood Haddadi, Pennaeth y Tîm Arolygu ar y Cyd, e-bostiwch: dawood.haddadi@wlga.gov.uk

Cynllun Adyswiriant

Ar 1 Ebrill 2024, lansiodd Cymdeithas Yswirwyr Prydain Gyfleuster Adyswirio Diogelwch Tân newydd. Bydd y Cyfleuster yn helpu i wella argaeledd yswiriant ar gyfer rhai adeiladau gyda chladin llosgadwy a materion diogelwch tân eraill.  Dylai'r person neu'r cwmni sy'n gyfrifol am drefnu yswiriant adeiladu drafod y cyfleuster gyda'u brocer neu yswiriwr. Mae mwy o wybodaeth am sut y bydd y cyfleuster hwn yn gweithio ar gael yma.

Cymorth cyfreithiol i lesddeiliaid

Cymorth cyfreithiol i lesddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel yma yng Nghymru (adeiladau dros bedwar llawr o uchder yw'r rhain fel arfer). Fel rhan o'r cymorth sy'n cael ei gynnig i lesddeiliaid, neu eu cynrychiolwyr, lansiwyd y Cynllun Cymorth Cyfreithiol i Lesddeiliaid ym mis Mai 2024. Bydd y Cynllun hwn yn darparu cyngor cyfreithiol yn benodol ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch tân.

Mae datblygwyr sydd wedi ymrwymo i Gontract Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i drefn fonitro gadarn. Os bydd angen, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ffurfiol yn erbyn y datblygwyr hyn.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd achlysuron lle mae angen cyngor cyfreithiol arbenigol am eu heiddo o ganlyniad uniongyrchol i broblemau sy'n ymwneud â diogelwch tân ar lesddeiliaid, neu bersonau cyfrifol ar ran lesddeiliaid.  Dyma lle gall y Cynllun Cymorth Cyfreithiol i Lesddeiliaid helpu.

Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim ac mae wedi'i gynllunio i gynnig cyngor cyfreithiol arbenigol i lesddeiliaid a chymorth i ddatrys anghydfodau posibl. Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Cymorth i Lesddeiliaid (LEASE) a'r cam cyntaf i gael mynediad at y cymorth hwn yw cysylltu â hwy.

Bydd cynghorydd yn edrych ar yr amgylchiadau, yn asesu a yw cymorth cyfreithiol yn briodol, ac os oes angen, yn rhoi cyngor ar y camau nesaf a sut i ddatblygu'r rhain. Lle bo'n briodol, bydd LEASE wedyn yn gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio i ddarparwr gwasanaethau cyfreithiol penodol a Llywodraeth Cymru yn talu am ei gyngor cychwynnol.

Os ydych yn teimlo y gallech fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun, cysylltwch â LEASE. Gallwch hefyd gysylltu â LEASE os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill sy'n gysylltiedig â lesddaliadau.

Diweddariad Cynnydd gwaith Adfer

Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau sy'n 11 metr a throsodd yn ein stoc adeiladau presennol.

Ar hyn o bryd mae gennym 350 o adeiladau yn y rhaglen. Mae'r gwaith wedi'i gwblhau (yn amodol ar arwyddo'n derfynol) ar 65 o adeiladau. Mae'r gwaith wedi dechrau ar 104 o adeiladau. Mae cynlluniau ar gyfer 107 o adeiladau eraill yn cael eu datblygu yn amodol ar arolygon a phenodi contractwyr. Rydym wedi cael gwybod nad oes angen unrhyw waith diogelwch tân ar 7 adeilad.

Rydym yn aros am ragor o wybodaeth am gynlluniau ar gyfer y 67 adeilad sy'n weddill. Mae sawl rheswm nad yw'r wybodaeth yw ar gael eto er enghraifft mae'r adeiladau yn risg isel, neu nad yw materion o ran cael mynediad at yr adeiladau a'r arolygon wedi'u cwblhau eto. 

Ers y cyhoeddiad ym mis Tachwedd 2023 bod llwybr pwrpasol o ran mynd i'r afael â materion diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl sy'n 11 metr a throsodd, mae cynnydd wedi'i wneud i: 

  • Adnabod a chwrdd â datblygwyr llai nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y contract datblygwyr (18 adeilad)
  • Cwrdd â datblygwyr mwy i herio a gwthio cyflymder y cynnydd, (140 o adeiladau)
  • Nodi adeiladau amddifad heb ddatblygwr wedi'i nodi, neu lle mae'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu (47 adeilad).
  • Dyfarnu'r rownd ddiweddaraf o Grantiau'r Sector Cymdeithasol (145 o adeiladau)

Mae personau cyfrifol adeiladau preswyl sy'n 11 metr neu fwy yn dal i allu cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru os nad ydynt wedi gwneud hynny eto. Dyma'r cam cyntaf i gael cymorth Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru ar gael yma: Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru: canllawiau ar gyfer mynegi diddordeb | LLYW.CYMRU

Rheoli Adeiladu

Mae cam cyntaf y drefn rheoli adeiladu newydd ar gyfer Cymru wedi'i gwblhau. Mae wedi sicrhau bod y proffesiwn rheoli adeiladu'n cael ei reoleiddio, sy'n cynnwys cymeradwywyr rheoli adeiladu preifat, arolygwyr adeiladu ac awdurdodau lleol sy'n arfer swyddogaethau rheoli adeiladu.

Mae dogfen ganllaw gynhwysfawr sy'n egluro cam cyntaf diwygio rheolaeth adeiladu yng Nghymru wedi cael ei chyhoeddi. Gellir canfod y ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru: Llawlyfr i Gymru ar Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 Cyfnod Dylunio ac Adeiladu | LLYW.CYMRU

Ym mis Gorffennaf cynhelir gweminar i weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu egluro a thrafod newidiadau yn y drefn rheoli adeiladu yng Nghymru, a sut mae hyn yn wahanol i Loegr. Bwriedir i'r sesiwn hon fod yn sesiwn 30 munud trwy Microsoft Teams yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 8 Gorffennaf 2024.

Os ydych chi'n weithiwr rheoli adeiladu proffesiynol ac am gael gwahoddiad, cysylltwch â ni ar enquiries.brconstruction@llyw.cymru gan roi gwybod i ni beth yw eich dewis iaith ac unrhyw ofynion penodol sydd gennych i allu cymryd rhan.

Adborth

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar arddull newydd ein cylchlythyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch nhw at diogelwchadeiladau@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru

Dilynwch ni ar X:

@LlC_Cymunedau