Rhifyn byr arloesi 66

Mai 2024

English

 
 
 
 
 
 
Clawr blaen cylchgrawn Advances Wales gyda llun artistig o ymennydd

Rhifyn 102 Advances Wales

Mae'r rhifyn hwn o Advances yn canolbwyntio ar ddatgelu cysylltiad Alzheimer â'r system imiwnedd, gan astudio iechyd corfforol menywod mewn amgylcheddau eithafol, cryfhau potensial meillion i leihau defnydd gwrtaith nitrogen a monitro y cefnfor yn cynhesu gyda chymorth morloi Antarctig.

Darllenwch yma.

Cronfa newydd VInnovate 

Mae Menter Vanguard wedi lansio cynllun rhyngranbarthol sy'n cefnogi sefydliadau Cymru i gydweithio ar brosiectau arloesol gyda phartneriaid ledled Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

a calculator and paper with notes
a calculator and paper with notes

Y Gronfa Paratoi at y Dyfodol nawr ar agor

Mae grantiau o £5,000 i £10,000 ar gael trwy Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella adeiladwaith eu busnesau neu brynu systemau neu beiriannau i leihau eu defnydd o ynni.

Am fwy o wybodaeth am gronfa Cliciwch yma

Success Stories button

Digwyddiadau.

Datgarboneiddio cerbydau'r sector cyhoeddus

7th Mehefin – 10:00 – 14:00 - Canolfan ACE, Gorsaf Bwer Aberddawan

Ar agor i sefydliadau y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, bydd y digwyddiad hwn yn dangos sut mae cronfa her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn helpu i ddatgarboneiddio cerbydau'r sector cyhoeddus. I gofrestru cliciwch yma.

SBRI Sylw i Ogledd Cymru

10th Mehefin – 9:00 – 13:00 - M-SParc Gaerwen 

Bydd y digwyddiad hwn yn amlinellu y broses sy'n cael ei harwain gan yr her i ariannu cydweithredu ac arloesi. Byddwch yn clywed gan sefydliadau sydd wedi elwa o'r cynlluniau hyn ac sy'n cael cyfle i rwydweithio gydag arbenigwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Datblygu cydweithrediadau effeithiol

2nd Gorffennaf 9:30 – 13:00 – Ysgol Reolaeth Caerdydd

Ydych chi'n chwilio am arbenigedd gan academyddion? Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i chi rwydweithio gydag academyddion yn ogystal â sefydliadau sy'n cynnig cymorth a chyllid arloesi

Cofrestrwch i'r digwyddiad yma.

 

Arloesi Lleol: Wrecsam

4th Gorffennaf – 9:30 – 16:00 – Prifysgol Wrecsam

Ydych chi eisiau datblygu neu wella'ch busnes ond ddim yn siŵr sut i ddechrau?

Ymunwch ag Innovate UK, arweinwyr busnes, arloeswyr ac arbenigwyr i ddarganfod sut y gall Arloesi gefnogi eich busnes.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma.

Match2Achieve – Menywod mewn Technoleg ar gyfer Bwyd

17th Medi - 10:30 CET – Ar-lein

Bydd y fforwm cyflwyno ar-lein hwn yn tynnu sylw at gwmnïau dan arweiniad menywod sy'n arwain atebion arloesol yn y sector bwyd. Darganfod mwy a gwneud cais i gymryd rhan yma.

2024 Hotspot economi gylchol Ewrop

7th – 9th Hydref 2024 - Caerdydd

Bydd yr Hotspot yn rhannu llwyddiannau a dyheadau economi gylchol Cymru ac yn rhoi cyfle i ddysgu am atebion yr economi gylchol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a chymunedau o Gymru a thu hwnt.

Darllenwch fwy yma.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: