Bwletin Newyddion: Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025 ar agor – Cofrestrwch nawr

Newyddion diwydiant
Croeso Cymru

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Gorffennaf 2024


Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018

Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025 ar agor – Cofrestrwch nawr

Bydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yng ngwanwyn 2025. Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Sut i ymgeisio: Bydd enillwyr Gwobrau Rhanbarthol 2024 yn mynd drwodd i'r Gwobrau Cenedlaethol (Cymru) ym mis Mawrth 2025 a bydd angen i chi wneud cais drwy eich gwobrau twristiaeth sir/rhanbarthol i gael eich ystyried.

Mae'r categorïau ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025 fel a ganlyn:

  1. Gwesty Gorau
  2. Llety Gwely a Brecwast, Tafarn, Tŷ Llety Gorau
  3. Llety Hunanddarpar Gorau
  4. Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau
  5. Yr Atyniad Gorau
  6. Gweithgaredd, Profiad neu Daith orau
  7. Categori Bro a Byd (Y rhai sy'n mynd y filltir ychwanegol ar gynaliadwyedd amgylcheddol)
  8. Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol
  9. Y Lle Gorau i Fwyta
  10. Seren y Dyfodol
  11. Y Digwyddiad Gorau
  12. Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau

I gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod yn dibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli:

De-orllewin Cymru:

  • Sir Benfro - Sylwch y dylai'r rhai sydd wedi'u lleoli yn Sir Benfro ymgeisio drwy Wobrau Croeso Sir Benfro. Y dyddiad cau ar gyfer y Gwobrau Croeso yw’r 30 Gorffennaf 2024.
  • Sir Gaerfyrddin – Ymgeisiwch drwy Wobrau Twristiaeth Dde Orllewin Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.
  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot – Cofrestrwch drwy Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.

De-ddwyrain Cymru:

 Canolbarth Cymru:

Gogledd Cymru:

  • Gwobrau Go North WalesBydd gwobrau Go North Wales yn mynd yn fyw ar 1 Awst a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 7 Hydref 2024.

Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram