Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

21 Mehefin 2024


landscape

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’r logo/au electronig cywir ar eich gwefan?

 Os ydych yn arddangos hen arwyddion ar eich safle neu/ar lein gyda’r logo/au electronig anghywir ar eich gwefan mae hyn yn gallu gwneud eich busnes edrych yn hen ffasiwn a dangos nad ydych yn rhan o frand Croeso Cymru. I ddarganfod gwybodaeth ynglyn a newid eich arwydd hen ffasiwn, plis cyfeirwch at Sêr Graddio Ansawdd (llyw.cymru).

Hyd yn oed wrth aros am yr arwydd cywir, gallwch newid y logo/au ar eich gwefan – e-bostiwch quality.tourism@llyw.cymru  a gallwn anfon y logo/au cywir atoch, er mwyn i chi rhoi’r gwaith celf newydd ar ei eich gwefan

Visit Wales brand versions bilingual

Arolwg Teithwyr Rhyngwladol  

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi rhyddhau'r canlyniadau Arolwg Teithwyr Rhyngwladol dros dro diweddaraf sy'n ymdrin â data 2023. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi canlyniadau dros dro diweddaraf yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol sy’n cynnwys data 2023. Mae'r dudalen we hon bellach yn cynnwys data blwyddyn gyfan 2023 gyda chymariaethau â blynyddoedd blaenorol. Mae data hanesyddol hefyd wedi'u diweddaru i gyfrif am ffigurau diwygiedig mewn blynyddoedd blaenorol.

I weld data penodol am Gymru, ewch i Ymweliadau a gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol â Chymru | LLYW.CYMRU.  I weld data ar lefel y DU, ewch i Tueddiadau teithio: 2023 (SYG).

Cafodd Cymru 892,000 o ymweliadau yn 2023, gostyngiad o 13% ers 2019 ond i fyny 30% ers 2022, tra bod gwariant wedi cyrraedd £458m yn 2023, i lawr 11% ers 2019, ond i fyny 16% ers 2022.


Cyfle i gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy raglen ddigwyddiadau yr diwydiant teithio hamdden VisitBritain

Ar hyn o bryd mae VisitBritain yn cynllunio eu rhaglen digwyddiadau B2B 2024 a 2025.  Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfleoedd gwych i gwrdd â chwmniau allweddol y diwydiant teithio yn y farchnad ac i ddysgu am y marchnadoedd gan eu timau priodol.  Mae eu rhaglen arfaethedig yn cynnwys digwyddiadau yn Awstralia, Brasil, y Dwyrain Canol ac Asia, yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Sbaen, Tsieina a'r gwledydd Nordig.  Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau, a ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer y digwyddiadau nad ydynt wedi agor eto ar gael yma.

Gallwch hefyd cofrestru nawr ar gyfer Gweminarau'r Farchnad Ryngwladol VisitBritain 2024 am ddim

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Flavia.Messina@visitbritain.org (Rheolwr Ymgysylltu â'r Diwydiant VisitBritain) ac am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru ar traveltradewales@llyw.cymru.


Wythnos Twristiaeth Cymru 15-19 Gorffennaf 2024

Caiff Wythnos Twristiaeth Cymru ei harwain gan Gynghrair Twristiaeth Cymru (WTA) a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar ein diwydiant. Mae hefyd yn creu cyfle i dynnu sylw at ansawdd yr hyn y gallwn ei gynnig, i ddysgu am ein llwyddiannau a’n heriau ac i ddathlu un o ddiwydiannau allweddol Cymru.

Os hoffech ychwanegu eich digwyddiad twristiaeth i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru at wefan Cynghrair Twristiaeth Cymru anfonwch e-bost at lisa@wta.org.uk


Ymgyrch ‘Arnofio i Fyw’ RNLI 2024

Cyngor yr RNLI i bobl sy’n cael eu hunain wedi’u sythu gan ddŵr oer neu mewn trafferth yn y dŵr yw ‘Arnofio i Fyw’. Bob blwyddyn, mae’r elusen yn clywed am fwy a mwy o bobl sydd wedi gwrando ar cyngor hwn, ‘Arnofio i Fyw’, i achub eu bywydau. Am ragor o fanylion, ewch i Float To Live – What To Do In An Emergency – RNLI.

Rhannwch fanylion yr ymgyrch ar eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Mae adnoddau’r ymgyrch ar gael ar y wefan Float to Live Toolkit: resources for download (rnli.org) (yn Gymraeg a Saesneg)

RNLI Float to Live campaign poster

Y Cod Cefn Gwlad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi canllaw i helpu pawb i fwynhau parciau ac afonydd, yr arfordir a chefn gwlad. Rhannwch y canllaw hwn ar eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Am ragor o fanylion, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Teulu’r Cod Cefn Gwlad (naturalresourceswales.gov.uk).


Cofiwch: Arolwg o Fusnesau Llwybr Arfordir Cymru 2024, yn cau 24 Mehefin

At sylw pob busnes a sefydliad - Os ydych chi ger Llwybr Arfordir Cymru neu Lwybrau Cenedlaethol Cymru (Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa), mae’r arolwg hwn ar eich cyfer chi.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau eich barn i’w helpu nhw ddeall pa gymorth mae busnesau a sefydliadau angen yn y dyfodol i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd mae’r llwybrau yn eu cynnig.

Am ragor o fanylion, ewch i Llwybr Arfordir Cymru / Harolwg Busnes 2024.


Gwobrau Croeso Sir Benfro 2024 – Ar agor ar gyfer enwebiadau

Mae Gwobrau Croeso yn agored i bob gweithredwr twristiaeth a chyflenwr y diwydiant twristiaeth yn Sir Benfro all hunan-enwebu. Cynhelir Gwobrau Croeso 2024 ddydd Mercher 30 Hydref yng Ngholeg Sir Benfro ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, bydd yr enillwyr yn cael mynd yn eu blaenau i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yng Ngwanwyn 2025.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys categorïau 2024, ewch i Gwobrau Croeso Sir Benfro.


Da iawn Gymru! Cymru'n cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu

Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd ar 6 Mehefin, mae Cymru wedi cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchuMae Cymru ymhell ar y blaen yn y DU, ac mae ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar: Da iawn Gymru! Cymru'n cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu | LLYW.CYMRU


Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024:

  • Long Course Weekend Cymru, 21-23 Mehefin, Sir Benfro. Mae’r digwyddiad hwn yn denu dros 11,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 56 o wledydd i gystadlu dros dridiau cyffrous.
  • Cyfres Para Triathlon y Byd, 22 Mehefin, Abertawe – paratriathletwyr gorau'r byd ochr yn ochr ag athletwyr sy'n datblygu a rhai sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf mewn gŵyl nofio, beicio a rhedeg. Bydd dros 100 o baratriathletwyr elitaidd o'r DU a ledled y byd yn cystadlu am bwyntiau gwerthfawr i fod yn gymwys ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024.
  • Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, 2 – 7 Gorffennaf.  Bob haf bydd tua 4,000 o berfformwyr yn tyrru i’r dref fechan hon ac i’w Phafiliwn Rhyngwladol i ganu a dawnsio mewn cyfuniad unigryw o gystadlu, perfformio a heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol.

Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru i’w cael ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU ac maent yn cynnwys:

  • Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030 - Mae’r ymgynghoriad hwn ar gyfer Cymru’n unig yn gwahodd eich barn am y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer diwylliant yng Nghymru. Mae tair blaenoriaeth, a ategir gan 20 o ddyheadau manylach. Ymgynghoriad yn cau: 4 Medi 2024. Rhagor o wybodaeth yma: Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030 | LLYW.CYMRU

Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram