Cofiwch: Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025 – dyddiadau cau diwygiedig ar gyfer ceisiadau
Bydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yng ngwanwyn 2025. Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
I gystadlu rhaid I chi gyflwyno cais drwy eich gwobrau twristiaeth sirol / rhanbarthol. Dim ond enillwyr Gwobrau Rhanbarthol 2024 fydd yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2025. Nodwch y dyddiadau cau estynedig a restrir isod.
Dywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol:
"Rydym yn lwcus iawn fod gennym gymaint o fusnesau twristiaeth rhagorol ac amrywiol yng Nghymru.
"Er fy mod yn gwerthfawrogi y bydd y rhan fwyaf yn brysur yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd, hoffwn eu hatgoffa hefyd i gyflwyno eu hunain ar gyfer y gwobrau twristiaeth rhanbarthol, y cam cyntaf wrth geisio ennill cydnabyddiaeth yn y Gwobrau Cenedlaethol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch ardal yn cael y gydnabyddiaeth rydych chi'n ei haeddu am yr hyn rydych chi'n ei wneud a sut rydych chi'n ei wneud.”
Mae'r categorïau ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025 fel a ganlyn:
- Gwesty Gorau
- Llety Gwely a Brecwast, Tafarn, Tŷ Llety Gorau
- Llety Hunanddarpar Gorau
- Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau
- Yr Atyniad Gorau
- Gweithgaredd, Profiad neu Daith orau
- Categori Bro a Byd (Y rhai sy'n mynd y filltir ychwanegol ar gynaliadwyedd amgylcheddol)
- Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol
- Y Lle Gorau i Fwyta
- Seren y Dyfodol
- Y Digwyddiad Gorau
- Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau
I gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod yn dibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli:
De-orllewin Cymru:
De-ddwyrain Cymru:
Canolbarth Cymru:
Gogledd Cymru:
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|