Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

17 Mai 2024


Saundersfoot

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Y Prif Weinidog, Vaughan Gething AS:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Sarah Murphy yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Bydd Sarah yn bwrw ymlaen â’n gwaith parhaus gyda’n partneriaid cymdeithasol gwerthfawr, yn ogystal â darparu arweinyddiaeth ar gyfer ein sectorau creadigol, lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.

Croesawaf Sarah yn gynnes i’m tîm Cabinet talentog ac uchelgeisiol.


Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru - Wedi Agor

Mae'r gronfa wedi agor. Gwnewch gais nawr drwy’r gwiriwr cymhwysedd.

Bydd y gronfa'n darparu busnesau micro, bach a chanolig cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden:

  • Grant arian cyfatebol ar gyfer cyllid cyfalaf rhwng £5,000 a £10,000, ni fydd unrhyw gostau refeniw yn gymwys i gael cyllid
  • Mae'r grant i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl yn ystod y flwyddyn ariannol 2024 - 2025,
  • Bydd y grant yn cael ei fuddsoddi mewn mesurau i baratoi y busnes at y dyfodol.

Mae’r alwad ar gyfer y gronfa gystadleuol hon yn agored ar gyfer ceisiadau hyd at 11:59pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024 neu hyd nes y bydd cyfanswm gwerth y ceisiadau a gyflwynir yn fwy na’r dyraniad cyllidebol.

Am ragor o fanylion, ewch i Cronfa paratoi at y dyfodol | Busnes Cymru.


Y Prif Weinidog yn cychwyn tymor twristiaeth yr haf yn Harbwr Saundersfoot

Ar ei ymweliad cyntaf â Sir Benfro ers iddo gael ei benodi, galwodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething, heibio yn Harbwr Saundersfoot i lansio'r Rhaffau Uchel yn swyddogol ar y Sgwner ac ymwelodd â'r Profiad Glo yn y Ganolfan Groeso cyn samplu rhywfaint o gynnyrch lleol blasus gan nifer o'r siopau bwyd yn Ocean Square.

Mae'r gwaith i ailddatblygu'r harbwr wedi'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Llywodraeth Cymru gyda'r nod o sefydlu Saundersfoot yn gyrchfan twristiaeth arfordirol morol eiconig.


Gwobrau Croeso

Mae Gwobrau Croeso yn cydnabod y busnesau hynny sydd wedi darparu cyfleusterau, gwasanaethau a gwybodaeth ychwanegol i fodloni gofynion penodol pwysig i ymwelwyr.

Wrth benderfynu pa wobrau fyddai'n gweddu orau i'r defnyddiwr a'r darparwr, rydym wedi edrych ar y marchnadoedd, tueddiadau a'r meysydd penodol hynny o anghenion defnyddwyr sydd wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth ddenu ymwelwyr i Gymru.

Mae manylion llawn am ein Gwobrau Croeso amrywiol ar gael yn Sêr Graddio Ansawdd (llyw.cymru). Gallwch wneud cais am y Gwobrau Croeso hyn yn rhad ac am ddim os ydych chi wedi derbyn statws Gradd, Sicrwydd Ansawdd neu Gymeradwy gyda Croeso Cymru.

Os dyfarnwyd Gwobrau Croeso i Feicwyr a/neu Gerddwyr i chi cyn 2022, nodwch y bydd angen i chi ailymgeisio am y gwobrau hyn yma Sêr Graddio Ansawdd (llyw.cymru)


Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod

Mae cronfa i gefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru wedi agor i geisiadau ddydd Mercher 1 Mai 2024. Mae'r cynllun grantiau bach yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru gan wella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a'u hymwybyddiaeth ohonynt.

Am ragor o fanylion, ewch i: Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod | Busnes Cymru


Y Diwydiant Teithio

Mae Croeso Cymru yn hyrwyddo Cymru i weithredwyr teithiau domestig a rhyngwladol drwy ddigwyddiadau Busnes i Fusnes a sianeli digidol.  Mae gan weithredwyr ddiddordeb mawr yng Nghymru ac mae tîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru yn awyddus i glywed gan letyau (yn arbennig rhai â gwasanaeth), atyniadau a darparwyr profiadau sy'n dymuno gweithio gyda'r diwydiant teithio ar gyfer grwpiau a FIT (teithwyr annibynnol fel cyplau, ffrindiau a theuluoedd).  I ddarganfod mwy cysylltwch â ni drwy traveltradewales@llyw.cymru.


Y Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth (CBTC)

Mae gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, gronfa sy'n dod â chyllid masnachol a chyllid grant at ei gilydd i wneud un pecyn cyfunedig o gymorth ariannol er mwyn darparu buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer y sector.  Am ragor o wybodaeth am y Gronfa, ewch i: Cyllid | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Dau brosiect a gwblhawyd yn ddiweddar yw:-

Tenby Golf Club

Clwb Golff Dinbych-y-pysgod

Wedi'i gydnabod fel y clwb golff hynaf yng Nghymru, ar ôl ei sefydlu'n ffurfiol yn 1888, roedd y cwrs golff wedi meithrin enw da am fod yn un o'r goreuon yn y wlad. Gan edrych i greu model busnes mwy cynaliadwy a hirdymor i'r clwb, nodwyd bod arallgyfeirio refeniw yn hanfodol er mwyn denu mwy o gwsmeriaid a thwristiaid, yn enwedig o ystyried ei leoliad yn Ninbych-y-pysgod.

Mae'r prosiect ehangu ac uwchraddio wedi paratoi'r ffordd ar gyfer creu swyddi ac wedi arwain at gyfleuster clwb newydd, sydd bellach yn cynnwys llety 4-seren, bwyty, bar ac ystafell ddigwyddiadau.  

Darparodd y Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth gymorth ariannol ar gyfer y prosiect, ar ffurf benthyciad masnachol o £995,400, drwy Fanc Datblygu Cymru, a grant o £248,850 gan Lywodraeth Cymru.

Llun © Neil Williams

Dolforwyn Hall

Tŷ Gwledig Neuadd Dolforwyn

Y prosiect oedd trosi, Neuadd Dolforwyn, llety gwely a brecwast 3-seren rhestredig Gradd 2 yn Dŷ Gwledig 4-seren o ansawdd uchel gyda 9-ystafell wely, bwyty ar gyfer 60 o bobl a gardd teras.  

Arweiniodd y prosiect ehangu ac uwchraddio at greu sawl swydd a llety 4-seren, bwyty, bar ac ystafell ddigwyddiadau.  

Darparodd y Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth gymorth ariannol ar gyfer y prosiect, ar ffurf benthyciad masnachol o £120,000, drwy Fanc Datblygu Cymru, a grant o £30,000 gan Lywodraeth Cymru.

Llun © Dolforwyn Hall


Mis Cenedlaethol Cerdded 2024

Mis Mai yw mis cenedlaethol cerdded ‘Living Streets’!  Cerdded yw un o’r ffyrdd symlaf o wella ein hiechyd a chadw mewn cysylltiad â’n cymuned, gan ein helpu i deimlo’n llai unig ac ynysig.

Mae gennym deithiau cerdded gwych ar eich cyfer chi a’ch ymwelwyr eu harchwilio ar croeso.cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol i unrhyw lwybrau cerdded rydych chi'n eu trefnu y mis hwn, gan ddefnyddio #Llwybrau / #WalesByTrails - fel y gallwn rannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol


Teithiau Cerdded Cylchol

Mae taith gerdded gylchol yn ffordd ardderchog o ddarganfod arfordir Cymru a gweld golygfeydd llawn ysbrydoliaeth ac mae’n rhoi gwedd newydd ar y wlad i chi, heb i chi orfod troi’n ôl neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae’r casgliad newydd o deithiau cylchol yma yn defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus cyfredol, llwybrau a ffyrdd ac yn aml, mae’r llwybrau’n mynd heibio trefi, pentrefi a mannau o ddiddordeb ar yr arfordir na fyddech efallai’n eu gweld wrth gerdded y prif lwybr. Am wybodaeth pellach ewch i Llwybr Arfordir Cymru / Teithiau Cerdded Cylchol (walescoastpath.gov.uk)

I ddarllen newyddlen ddiweddaraf Llwybr Arfordir Cymru ewch i: Llwybr Arfordir Cymru / Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr (walescoastpath.gov.uk)


Llongau mordeithio yn docio yng Nghymru 2024

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n barod am ymweliadau mordeithio eleni. Edrychwch ar galendr diweddaraf ymweliadau mordeithio â Chymru: calendr Cruise Wales | Diwydiant Teithio Cymru


Amgueddfa Lechi Cymru yn anelu at ddod yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf

Mae gwaith ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi Cymru yn anelu at droi'r lleoliad yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf. Mae cyllid Llywodraeth Cymru o fwy na £1m eisoes wedi helpu i symud y gwaith ailddatblygu yn ei flaen, gan gynnwys gwneud y mwyaf o ofod amgueddfa ar gyfer casgliadau a gweithgareddau, a sicrhau bod swyddfeydd priodol ar gael i weithwyr.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Amgueddfa Lechi Cymru yn anelu at ddod yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf | LLYW.CYMRU.


Prosiect cadwraeth mwyaf Cadw yn datblygu yng Nghastell Caerffili

Mae'r prosiect buddsoddi o £10m yng Ngastell Caerffili, un o safleoedd hanesyddol gorau Cymru yn mynd rhagddo. Nod y buddsoddiadau yng Nghastell Caerffili yw ei wneud yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf wrth warchod yr heneb a gwarchod ei hanes.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Prosiect cadwraeth mwyaf Cadw yn datblygu yng Nghastell Caerffili | LLYW.CYMRU.


Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen?

Fel y gwyddoch gall defnyddio’r Gymraeg arwain at ddenu cwsmeriaid newydd a chynyddu enw da eich busnes neu elusen. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig system ar lein er mwyn hunan asesu eich gwasanaethau yn ogystal â darparu cymorth, arweiniad, hyfforddiant a gwasanaeth prawfddarllen:Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen? | Busnes Cymru (gov.wales)

Hefyd, mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch  cynghori  ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)


Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Gall busnesau yng Nghymru sy'n dymuno uwchsgilio eu gweithlu yn y sector twristiaeth a lletygarwch wneud cais unwaith eto am gymorth ariannol o'r rhaglen hon. I ddarganfod a yw eich busnes yn gymwys a pha feysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi, ewch i: Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)


Cyfle i gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy raglen ddigwyddiadau yr diwydiant teithio hamdden VisitBritain

Ar hyn o bryd mae VisitBritain yn cynllunio eu rhaglen digwyddiadau B2B 2024 a 2025.  Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfleoedd gwych i gwrdd â chwmniau allweddol y diwydiant teithio yn y farchnad ac i ddysgu am y marchnadoedd gan eu timau priodol.  Mae eu rhaglen arfaethedig yn cynnwys digwyddiadau yn Awstralia, Brasil, y Dwyrain Canol ac Asia, yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Sbaen, Tsieina a'r gwledydd Nordig.  Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau, a ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer y digwyddiadau nad ydynt wedi agor eto ar gael yma.

Gallwch hefyd cofrestru nawr ar gyfer Gweminarau'r Farchnad Ryngwladol VisitBritain 2024 am ddim

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Flavia.Messina@visitbritain.org (Rheolwr Ymgysylltu â'r Diwydiant VisitBritain) ac am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru ar traveltradewales@llyw.cymru.


Twristiaeth Canolbarth Cymru yn penodi Prif Weithredwr newydd

Llongyfarchiadau i Zoe Hawkins ar gael ei phenodi'n ddiweddar yn Brif Weithredwr Twristiaeth Canolbarth Cymru. Mae Zoe wedi chwarae rhan ganolog mewn mentrau amrywiol ers ymuno â Thwristiaeth Canolbarth Cymru yn 2010 ac mae wedi bod yn rheolwr gweithrediadau ers 2019. Darllenwch ragor yma: Prif Weithredwr newydd yn addo parhau i gefnogi sector twristiaeth y Canolbarth - MWT Cymru


Lleisiwch eich barn er mwyn siapio Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru ac Amgueddfa newydd Wrecsam!

Mae arolwg cenedlaethol wedi’i lansio i helpu i ddatblygu brand newydd ‘arloesol’ ar gyfer ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd Wrecsam. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn 2026, a bydd adeilad presennol Amgueddfa Wrecsam yn cael ei adnewyddu’n llwyr a’i ailddatblygu’n atyniad cenedlaethol newydd sbon. Bydd un hanner yn cael ei neilltuo ar gyfer treftadaeth a hanes Wrecsam fel dinas a sir. Bydd yr hanner arall yn adrodd hanes cyffrous pêl-droed Cymru.

Gwahoddir trigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chefnogwyr pêl-droed ledled Cymru i gymryd rhan: Wrexham (eichamgueddfa.cymru)


Peryglon gwenwyn carbon monocsid

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi atgoffa busnesau ac unigolion o’r camau syml y gallant eu cymryd i atal gwenwyno carbon monocsid (a elwir weithiau yn ‘CO’). Gall gwenwyn CO ladd. Fodd bynnag, mae'n hawdd ei atal.  Y cyngor yw:

  • Sicrhewch fod yr holl offer gwresogi a choginio (gan gynnwys simneiau a ffliwiau) yn cael eu gwirio/ysgubo gan weithiwr proffesiynol cofrestredig o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Sicrhewch fod gan lety gwyliau larymau CO sy’n gweithio (sy’n gwneud sŵn a/neu’n goleuo).
  • Atgoffwch ymwelwyr i bacio eu larymau CO eu hunain i'w defnyddio mewn ystafelloedd, pebyll, faniau gwersylla a charafanau.
  • Atgoffwch bobl i beidio â mynd â barbeciws, gwresogyddion cludadwy na stofiau coginio dan do nac i mewn i bebyll neu garafanau.
  • Dylech wybod beth yw symptomau gwenwyn CO a beth i'w wneud os caiff ei amau.

Gall symptomau gwenwyn CO fod yn debyg i symptomau’r ffliw, gwenwyn bwyd a hangofyr. Mae symptomau'n aml yn gwella pan fyddwch yn yr awyr agored neu i ffwrdd o'r ffynhonnell.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.


Papurau banc yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae Banc Lloegr yn cyhoeddi papurau banc yng Nghymru a Lloegr, ond gall chwe banc yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn eu cyhoeddi. Mae papurau banc a argraffwyd gan y banciau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn arian cyfred cyfreithiol a gellir eu defnyddio unrhyw le yn y DU.

Er mai busnesau unigol sy'n penderfynu pa fathau o daliad y maent yn eu derbyn, mae Croeso Cymru yn annog busnesau i dderbyn papurau banc yr Alban a Gogledd Iwerddon fel mater o drefn. Bydd derbyn y papurau banc hyn yn helpu i osgoi unrhyw ganfyddiadau negyddol posibl gan ymwelwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Cewch weld rhagor o fanylion yma:  Papurau banc yr Alban a Gogledd Iwerddon | Banc Lloegr


Uwch-sgilio gyda Grant Gwella Sgiliau Gweithlu gan Gyngor Gwynedd!

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i helpu busnesau i uwch-sgilio’u gweithwyr. Bydd y Grant Gwella Sgiliau Gweithlu newydd yn helpu busnes i oresgyn y rhwystrau i hyfforddiant staff fel rhyddhau amser i hyfforddi. I ddarganfod mwy a mynegi diddordeb yn y grant cliciwch yma.

Mae’r Grant Gwella Sgiliau Gweithlu yn un o’r prosiectau sy’n cefnogi busnesau Gwynedd yn ystod 2024 diolch i arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Gyngor Gwynedd. I ddysgu am yr holl brosiectau cliciwch yma.


COFIWCH - Awdurdodi Teithio Electronig

Bydd y Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig (ETA) yn berthnasol i'r teithwyr hynny sy'n ymweld â'r DU neu'n tramwyo drwy'r DU nad oes angen fisa arnynt ar gyfer arosiadau byr. Bydd yr ETA yn cael effaith ar filiynau o ymwelwyr sy'n ymweld â'r DU bob blwyddyn.  Gellir dod o hyd i wybodaeth ac arweiniad yma.

Bydd y cynllun ETA yn cael ei weithredu'n raddol, ar sail cenedligrwydd a bydd yn cael ei gymhwyso i bob gwladolyn nad oes angen fisa arnynt ar hyn o bryd i ddod i'r DU - bydd hyn yn cynnwys ymwelwyr o'r Unol Daleithiau ac Ewrop.

Os hoffech wybod mwy am ETA, archebwch le ar un o'r digwyddiadau gwybodaeth canlynol:

Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael yn y pecyn i bartneriaid  - mae'n cynnwys taflenni ffeithiau gyda Chwestiynau Cyffredin, posteri arddangos ac asedau cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddwch am ychwanegu rhai ohonynt at eich gwefan os ydych chi'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol i'ch cwsmeriaid / ymwelwyr.


Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024:

  • Gŵyl Devauden, Sir Fynwy, 24 – 26 Mai. Digwyddiad cerddoriaeth fyw i'r teulu sy'n cynnig amrywiaeth o genres cerddorol ar draws pum llwyfan, gydag arlwy o fwyd a diod lleol.
  • Gŵyl Big Retreat, Sir Benfro, 24 – 27 Mai. Mae'r Big Retreat yn eich croesawu i brofiadau sydd wedi'u curadu'n ofalus fel: ioga, anturiaethau mewn celf, nofio gwyllt, gweithdai, fforio, cerddoriaeth fyw a mwy.
  • Gŵyl Out and Wild, Sir Benfro, 31 Mai – 2 Mehefin.  Gŵyl Llesol gyntaf y DU wedi'i chynllunio ar gyfer menywod cwiar, chwilfrydig sydd am ofyn cwestiynau a phobl anneuaidd. Y lle i groesawu ffrindiau newydd, mwynhau profiadau newydd, gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a chomedi.
  • Taith Prydain i Fenywod, 6 - 7 Mehefin. Mae beicwyr a thimau benywaidd gorau'r byd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar draws pedwar cam anodd o rasio. Mae'r ras yn dechrau yn y Trallwng, gyda beicwyr yn mynd i'r gogledd i Landudno. Bydd Cam Dau yn dechrau ac yn gorffen yn Wrecsam.


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram