Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru gwerth £20 miliwn – ESTYNIAD I'R DYDDIAD CAU
Gwnewch gais nawr am hyd at £10,000 i helpu i leihau eich costau rhedeg. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn i 12pm, 13 Mehefin 2024.
Mae ceisiadau bellach ar agor i fusnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden gael cyllid i fuddsoddi mewn paratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol.
Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru gwerth £20 miliwn yn helpu hyd at 2,500 o fusnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.
Bydd y grantiau'n cael eu talu hyd at 75 y cant o gostau'r prosiect neu £10,000, pa un bynnag yw'r swm lleiaf. Disgwylir i'r busnes gyfrannu'r 25 y cant o'r costau sy'n weddill o ffynonellau eraill.
Mae'r gronfa ar agor i fusnesau yng Nghymru (naill ai sydd â'u pencadlys yng Nghymru neu sydd â chyfeiriad gweithredol yno) ac sy'n cyflogi pobl yng Nghymru.
Am ragor o fanylion, ewch i: Busnesau – gwnewch gais nawr am hyd at £10,000 i helpu i leihau eich costau rhedeg | Busnes Cymru
Ymateb cymysg i'r ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol
Heddiw (Dydd Mawrth 4 Mehefin] mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cadarnhau na fydd cynlluniau i newid gwyliau'r ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn rhoi cyfle ac amser i athrawon a staff gyflwyno diwygiadau eraill.
- Ni fydd cynlluniau i newid y flwyddyn ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn caniatáu i ysgolion gyflawni diwygiadau eraill a gwella cyrhaeddiad.
- Bydd y penderfyniad ynghylch yr amserlen yn cael ei ohirio tan dymor nesaf y Senedd.
- Cadarnhad na fydd newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn digwydd yn 2025 i 2026.
Daw'r penderfyniad yn dilyn ymateb cymysg i ymgynghoriad addysg mwyaf erioed Llywodraeth Cymru, a ddenodd ymhell dros 16,000 o ymatebion, a oedd yn gofyn am farn ar newid calendr yr ysgol i wasgaru'r gwyliau ysgol yn fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn.
Roedd y cynigion yn awgrymu symud wythnos o ddechrau gwyliau'r haf i wyliau'r hydref gan greu pythefnos o wyliau hanner tymor i wella profiadau addysg pobl ifanc, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, ac i fod yn fwy cyson â'r ffordd y mae teuluoedd yn byw ac yn gweithio.
Er bod mwyafrif bach iawn o'r ymatebion o blaid newid y gwyliau ysgol, roedd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn amwys ac yn gwrth-ddweud ei hun, sy'n dangos bod angen rhagor o drafod ac archwilio i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y dyfodol o fudd i bawb.
Bydd y saib hefyd yn caniatáu i ddiwygiadau eraill, fel y Cwricwlwm i Gymru newydd a'r diwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol, gael eu gweithredu a'u cyflwyno'n llawn cyn cyflwyno newidiadau pellach.
Bydd y penderfyniad ynghylch amseriad y cynlluniau yn cael ei ohirio hefyd i dymor nesaf y Senedd.
Bydd dyddiadau tymhorau 2025 i 2026 yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdodau lleol yn fuan.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Ymateb cymysg i'r ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol | LLYW.CYMRU.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|