Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Ebrill 2024


Portmeirion

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Yn dilyn newidiadau i Gabinet Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, mae Hannah Blythyn AS wedi dweud:

Hannah Blythyn MS

"Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cael fy mhenodi yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol gan y Prif Weinidog newydd, gyda chyfrifoldebau allweddol sy'n cynnwys twristiaeth, lletygarwch a'r diwydiannau creadigol o fewn portfolio ehangach yr Economi.

"Roeddwn i am fanteisio ar y cyfle cynnar hwn i gyflwyno fy hun i'r nifer o fusnesau twristiaeth a lletygarwch, atyniadau, digwyddiadau, sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio yn y sector pwysig hwn.

"Fel chi, rwy’n ymwybodol fod Cymru yn wlad hardd gyda chymaint i’w gynnig  – lle llawn antur, tirweddau trawiadol, profiadau gwych, bwyd a diod ardderchog a llawer mwy. Rwy’n Aelod o'r Senedd o ogledd Cymru, ac fe’m magwyd yn yr ardal lle rwyf nawr yn byw ac yn ei chynrychioli. Rwyf wedi treulio gwyliau lawer yn y garafán deuluol ar Ynys Môn, ac felly wedi gweld a phrofi hyn yn uniongyrchol fy hun.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld ag ystod eang o lefydd ac i siarad â phobl ledled Cymru dros y misoedd nesaf – ac i gyd-weithio gyda chi gyd er ein budd a'n huchelgais dros ein gwlad."

Mae rhagor o wybodaeth am Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar gael yn: Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion | LLYW.CYMRU


Ymgyrch croesawu cŵn!

A ydych yn fusnes sy'n croesawu cŵn? A ydych yn mynd y filltir ychwanegol i wneud yn siŵr bod ein cyfeillion pedair coes yn gyfforddus?  Os ydych, dyma eich cyfle i gymryd rhan yn ein ymgyrch farchnata haf cynnar, lle byddwn yn annog cŵn (a'u perchnogion) i ddewis Cymru ar gyfer eu gwyliau a'u seibiannau byr.

A oeddech yn gwybod bod ci gan 31% o aelwydydd, sy'n gwneud gwyliau a seibiannau sy'n croesawu cŵn yn farchnad sylweddol. Bu cynnydd mewn cŵn 'anghenus' yn ddiweddar – cŵn y pandemig nad ydyn nhw'n hoffi bod ar eu pennau eu hunain na bod mewn llety cŵn – sy'n golygu bod rhagor o berchnogion cŵn yn mynd a'u hanifeiliaid anwes ar wyliau gyda nhw. Mae tueddiadau Google wedi nodi bod chwiliadau am 'gwestai sy'n croesawu cŵn' wedi cynyddu yn aruthrol (Ionawr 2024), ac mae chwilio am fannau sy'n croesawu anifeiliaid anwes ar visitwales.com wedi cynyddu 20% blwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae chwiliadau am gynhyrchion sy'n gyfeillgar i anifeiliaid anwes wedi cynyddu 155% blwyddyn ar ôl blwyddyn.

Porth Oer (Whistling Sands), north Wales

Rydyn ni'n manteisio ar y cyfleoedd hyn drwy gynnal ymgyrch wedi'i chynllunio i apelio at berchnogion cŵn, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o fynd ar wyliau gyda eu hanifeiliaid anwes yn y DU.  Mae cynnwys am anifeiliaid anwes ymhlith y mathau mwyaf poblogaidd o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, felly mae cyfle enfawr i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan sy'n croesawu ac yn gyfeillgar i anifeiliaid anwes.      

Bydd yr ymgyrch yn denu defnyddwyr i www.croeso.cymru a byddwn yn darparu rhagor y fanylion yn yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd marchnata hyn, treuliwch ychydig o funudau i sicrhau eich bod wedi diweddaru eich restr o gynhyrchion:

  • Mewngofnodwch i'r offeryn gweinyddu ar gyfer rhestrau cynhyrchion a gwiriwch y manylion o dan bob pennawd.
  • I dagio eich cynnyrch yn 'Croesawu Cŵn', sgroliwch i lawr i 'Cyfleusterau' a rhoi tic yn y blwch 'Croeso i Anifeiliaid Anwes'.
  • Cliciwch ar 'Cadw'.
  • Bydd eich cynnyrch wedyn yn ymddangos yn y canlyniadau chwilio pan fydd y defnyddiwr yn clicio ar yr is-gategori 'Croeso i Anifeilaid Anwes' yn yr hidlydd chwilio.

A oeddech yn gwybod ein bod wedi Gwobr Croeso i Anifeiliaid Anwes?   I weld manylion ein Gwobrau Croeso ewch i Sêr Graddio Ansawdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) (Adran 5).

A ydych yn darparu unrhyw gyfleusterau arbennig, danteithion neu fasgedi bwyd yn enwedig ar gyfer cŵn?  Rhowch wybod inni beth sy'n gwneud eich busnes yn wahanol. Byddwn yn cynnwys yr enghreifftiau gorau a mwyaf arloesol yn yr ymgyrch, e-bostiwch ni yn productnews@llyw.cymru.


Ardoll Ymwelwyr Cymru: Arolwg costau gweinyddu

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi datblygu arolwg i amcangyfrif y costau gweinyddu i'ch busnes sy'n gysylltiedig ag ardoll ymwelwyr. Defnyddiwch y cyfle hwn i ddarparu eich gwybodaeth am yr effaith ar eich busnesau a'r sector.  Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r arolwg yw 5pm ar 19 Ebrill 2024: Ardoll Ymwelwyr Cymru: Arolwg costau gweinyddu (llyw.cymru)

Mae rhagor o wybodaeth am gynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr ar gael yn  Ardoll Ymwelwyr i Gymru | LLYW. CYMRU


Ystadegau Twristiaeth Ddomestig Prydain Fawr (Teithiau dros nos):  Mis Hydref i fis Rhagfyr 2023

Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau domestig dros nos i Gymru o fis Hydref i fis Rhagfyr 2023 bellach ar gael. Bydd adolygiad methodolegol o ystadegau twristiaeth ddomestig dros nos bellach yn cael ei gynnal. I weld beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer amcangyfrifon cyhoeddedig ac adroddiadau rheolaidd, gweler Ystadegau twristiaeth ddomestig: datganiad ar adolygiad methodolegol | LLYW.CYMRU


Wythnos Twristiaeth Cymru 2024

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Wythnos Twristiaeth Cymru yn cael ei chynnal 15–19 Gorffennaf.  Cadwch lygad am ragor o fanylion yn: Cynghrair Twristiaeth Cymru – Llais y Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru – (wta.org.uk)


Busnesau i elwa o gronfa £20m Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru

Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden.  Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor wythnos yn dechrau 15 Ebrill a bydd ceisiadau'n agor ym mis Mai 2024. Mae gwybodaeth pellach ar gael yma: Hyd at 2,500 o fusnesau i elwa ar Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru | Busnes Cymru


Llwybr Arfordir Cymru: Harolwg Busnes 2024
8 Ebrill – 24 Mehefin

At sylw pob busnes a sefydliad - Os ydych chi ger Llwybr Arfordir Cymru neu Lwybrau Cenedlaethol Cymru (Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa), mae’r arolwg hwn ar eich cyfer chi.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau eich barn i’w helpu nhw ddeall pa gymorth mae busnesau a sefydliadau angen yn y dyfodol i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd mae’r llwybrau yn eu cynnig.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb ewch i Llwybr Arfordir Cymru / Harolwg Busnes 2024.

Gallwch danysgrifio i gael newyddlen Llwybr Arfordir Cymru yma:  Llwybr Arfordir Cymru / Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr   Gallwch ddilyn Llwybr Arfordir ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd:  Llwybr Arfordir Cymru | Facebook a @Llwybr Arfordir Cymru   


Cofiwch: Ailgylchu yn y gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe, lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Adeiladau treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Mannau addoli
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU

Mae canllawiau pellach ar gael yma:  Canllawiau'r Busnes o Ailgylchu ar gyfer pob gweithle yng Nghymru (wrapcymru.org.uk) 

Yn ei rôl fel rheoleiddiwr, mae'r tîm yn CNC wrth law i helpu gweithleoedd i gydymffurfio â’r rheoliadau newydd a rheoli eu gwastraff yn y ffordd gywir: Cyfoeth Naturiol Cymru / Casgliadau gwastraff ar wahân ar gyfer gweithleoedd


Ailddefnyddio, Ailgylchu ac Atgyweirio #CaruCymru

Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn annog busnesau a sefydliadau i gael gwared ar sbwriel a gwastraff ac addo eu hymrwymiad i'r pedwar cam: lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio.  Dewch i wybod mwy am #CaruCymru a chael mynediad at gyngor ac adnoddau i'ch helpu i wneud newid yma: Cymorth Busnes - Cadwch Gymru'n Daclus - Caru Cymru


Cofio Alyn Wallace

Elan Valley

© Alyn Wallace Photography

Mae pawb yma yn Croeso Cymru yn drist iawn ar ôl clywed y newyddion bod yr aml dalentog @alynwallace, wedi marw. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i gyfeillion.

Roedd Alyn yn astro-ffotograffydd syfrdanol o dda, ac mae ei arbenigedd a'i waith wedi helpu i roi Cymru ar fap y byd. Roedd e'n llysgennad gwych dros Gymru ac yn rhoi cymaint o bleser i bawb a oedd wedi gweld ei ddelweddau ac wedi cael ei gyngor golygyddol yr oedd e mor garedig â'u rhannu ar ein sianeli.


Cynllun Caru Gwenyn

Mae'r Cynllun Caru Gwenyn yn annog sefydliadau i gymryd camau cadarnhaol er budd peillwyr. Mae hyn yn bwysig achos eu bod yn darparu bwyd ar ein cyfer ni ac ar gyfer bywyd gwyllt – mae peillwyr gwyllt yn cynnwys cacwn, gwenyn unig, gwyfynod a pryfed eraill.  Mae gwella'r amgylchedd naturiol yn helpu peillwyr ac mae'n gallu gwneud mannau'n fwy diddorol ar gyfer ymwelwyr ac ychwanegu at eu hymdeimlad o les. 

I weld syniadau o ran sut y gall eich busnes gymryd rhan, gweler y Canllaw Gweithredu. Mae manylion llawn y cynllun ar gael yn: Partneriaeth Bioamrywiaeth Wales – Caru Gwenyn (Biodiversitywales.org.uk)

A ydych yn defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion proffesiynol, y cyfeirir atynt hefyd fel plaladdwyr i reoli chwyn?

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob defnyddiwr plaladdwyr i ystyried a oes eu hangen i reoli chwyn, ac i ddefnyddio dulliau rheoli cemegol dim ond lle bo angen. 

Ein nod yw lleihau effeithiau plaladdwyr ar bobl a'r amgylchedd cymaint ag y bo modd, wrth sicrhau bod plâu, clefydau a chwyn yn cael eu rheoli'n effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, anogir sefydliadau i fabwysiadu dulliau amgen fel dulliau mecanyddol neu blannu cydymaith.

Os ydych yn defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion proffesiynol mae'n ofynnol ichi gofrestru gyda'r awdurdod cymwys priodol. Mae manylion llawn ar gael yma: Cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs): cofrestru fel defnyddiwr proffesiynol - GOV.UK (www.gov.uk).


Fisâu a Mewnfudo y DU – e-Fisa

Mae Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn datblygu system fewnfudo ddigidol.  Mae hyn yn golygu disodli dogfennau ffisegol â chofnod ar-lein o statws mewnfudo.  Elwir hwn yn e-Fisa. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma GOV.UK (www.gov.uk).



Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram