World Travel Market, 5-7 Tachwedd 2024 - cofrestrwch erbyn 16 Awst 2024
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i'r Diwydiant Teithio rhyngwladol gan gynnwys gweithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio? Ymunwch â ni yn World Travel Market (WTM), y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir rhwng dydd Mawrth 5 i ddydd Iau 7 Tachwedd 2024 yn ExCeL Llundain.
Mae arddangos yn WTM yn cynnig cyfle unigryw i gyfarfod, rhwydweithio, trafod a gwneud busnes gyda mwy na 50,000 o weithwyr proffesiynol ym maes teithio rhyngwladol, o fwy na 38 sector o'r diwydiant teithio. Rydym wedi sicrhau lle i bartneriaid Cymru ar stondin UKinbound, sydd mewn lleoliad ardderchog yn rhan flaen Neuadd y DU ac Iwerddon.
I gymryd rhan mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb a’ch bod yn gallu contractio a gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio, a chynnig cyfraddau comisiwn / net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety fod wedi'u graddio gan Croeso Cymru neu AA. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.
Pod Partner: £4,300 + TAW, os rhoddir cymhorthdal i dalu 50%, yn amodol ar reoliad MFA (SAFA / cymorth de minimis yn flaenorol). Cost y pod llawn yw £8,600 + TAW. I sicrhau eich pod, cofrestrwch erbyn 16 Awst 2024. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac mae Croeso Cymru yn cadw’r hawl i gynnig lle ar sail y cyntaf i'r felin.
Am fanylion llawn a sut i gadw eich lle, cysylltwch â traveltradewales@llyw.cymru.
Dau gyfle i gwrdd â gweithredwyr teithiau o’r Almaen
Mae VisitBritain wedi agor y broses gofrestru ar gyfer dau ddigwyddiad sy'n cynnig cyfle i fusnesau gwrdd â gweithredwyr ac asiantau teithio o'r Almaen ac ar draws y byd.
-
Gweithdy'r Almaen, Frankfurt, 13-15 Tachwedd 2024: Os ydych chi'n newydd i farchnad yr Almaen ac angen cymorth ychwanegol, efallai y byddwch am fynychu Gweithdy'r Almaen 2024. Mae'r digwyddiad wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer busnesau sy'n barod i fasnachu sy'n newydd i'r farchnad Almaenig. Cewch ragor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru yma: Gweithdy'r Almaen 2024 | VisitBritain.org. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 5 Awst 2024 (gall gau'n gynharach os yw'n llenwi).
-
ITB Berlin, 4-6 Mawrth 2025: Byddwch yn arddangos o dan frand VisitBritain ar y cyd â Croeso Cymru. ITB Berlin yw un o'r sioeau masnach mwyaf yn y byd ac mae'n dangos y gorau o Brydain i brynwyr Almaenig a byd-eang. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau sy'n gyfforddus â chwrdd â'r fasnach deithio Almaenig a byd-eang. Mwy o wybodaeth a sut i gofrestru yma: Ffurflen Gofrestru ITB Berlin 2025. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 20 Awst 2024.
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau VisitBritain, a ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer y digwyddiadau nad ydynt wedi agor eto ar gael yma.
Gallwch hefyd cofrestru nawr ar gyfer Gweminarau'r Farchnad Ryngwladol VisitBritain 2024 am ddim
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Flavia.Messina@visitbritain.org (Rheolwr Ymgysylltu â'r Diwydiant VisitBritain) ac am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru ar traveltradewales@llyw.cymru.
Gweminar Ragarweiniol Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr – 28 Awst 2024
Oeddech chi'n gwybod y gall llety, atyniadau, teithiau a digwyddiadau gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy ystod eang o sianeli dosbarthu ac ymgyrchoedd unigryw, sy'n cael eu dwyn at ei gilydd ar un platfform?
Y platfform hwnnw yw Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB), ond beth ydyw a sut mae'n gweithio? Beth yw'r buddion i'ch busnes?
Cynhelir gweminar fer am TXGB, gan gynnwys astudiaethau achos ac atebion i gwestiynau cyffredin, ddydd Mercher 28 Awst rhwng 10:30am a 11:00am.
Os ydych chi am alluogi mwy o archebion ar-lein, neu roi system archebion ar-lein ar waith am y tro cyntaf, mae'r weminar 30 munud hon ar eich cyfer chi, ac mae'n rhad ac am ddim.
Cofrestrwch yma: Cofrestru ar gyfer y Cyfarfod - Zoom
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|