Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Ebrill 2024

Ebrill 2024 • Rhifyn 032

 
 

Newyddion

Cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i ddatblygu cynllun lleihau carbon

Cynllun lleihau carbon

Mae menter newydd wedi'i lansio i helpu busnesau bwyd a diod yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau lleihau carbon. Mae'r cynlluniau hyn yn gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau ac yn amlinellu strategaethau i gyflawni'r nodau hyn.

Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys mesurau fel hybu effeithlonrwydd ynni, mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy, a hyrwyddo arferion cynaliadwy i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn chwilio am fusnesau bwyd a diod o bob rhan o Gymru i ymuno â'r cyfnod peilot a fydd yn rhedeg o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025. Fel rhan o'r rhaglen, bydd busnesau'n cael cymorth i sefydlu llinell sylfaen ar gyfer eu hôl troed carbon a datblygu cynllun lleihau carbon. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 3 Mai 2024.

Ailgylchu yn y gweithle

Ailgylchu yn y gweithle, mae’n bryd i ni sortio hyn

O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith yn mynnu bod pob busnes, sefydliad sector cyhoeddus ac elusen yn didoli eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn.

Dysgwch sut bydd hynny’n effeithio ar eich gweithle chi: www.llyw.cymru/ailgylchuynygweithle

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â workplacerecycling@llyw.cymru

Cynhadledd Mewnwelediad 2024

Cynhadledd Mewnwelediad 2024

Cynhaliwyd Cynhadledd Mewnwelediad Blynyddol Bwyd a Diod Cymru "O Her i Lwyddiant" mis diwethaf ac roedd yn cynnwys sesiynau ar yr economi, sgiliau, manwerthu, tu allan i'r cartref a datblygu cynnyrch newydd.

Cafodd y rhai a fynychodd fynediad unigryw i fewnwelediadau o'r radd flaenaf gan Kantar Consulting, Kantar Worldpanel, IGD, thefoodpeople, CGA, FOUR Communications, WorkL a Brookdale Consulting.

Os gwnaethoch golli allan, mae recordiadau a deunyddiau cyflwyno bellach ar gael ar ardal Aelodau Bwyd a Diod Cymru. Gallwch gofrestru i ardal aelodau ar wefan Bwyd a Diod Cymru yma.

Dathliadau ar gyfer mis B Corp

Stad y Rhug yn cynnal dathliadau yn y siop ar gyfer mis B Corp gyda chwmnïau bwyd a diod o Gymru

Ymunodd stad fferm organig flaenllaw ger Corwen, gogledd Cymru â Chlwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru i ddathlu Mis B Corp yn ystod mis Mawrth.

Fel rhan o’r dathliad, cynhaliodd Ystâd Rhug digwyddiad hyrwyddo yn eu siop fferm, yn cynnwys detholiad o gwmnïau bwyd a diod B Corp Cymreig. Roedd yr hyrwyddiad yn y siop yn amlygu ymrwymiad cwmnïau Cymreig i arferion busnes cynaliadwy a moesegol, a rhoddodd gyfle i gwsmeriaid ddarganfod a chefnogi B Corps lleol.

Cysylltiadau newydd yn Asia

Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn creu cysylltiadau newydd yn Asia

Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru wedi dychwelyd o Japan yn ddiweddar, lle maent wedi bod yn hyrwyddo’r gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn arddangosfa bwyd a diod fwyaf Asia.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mynychodd saith cynhyrchydd bwyd a diod o Gymru Foodex Japan, o dan faner Cymru/Wales, gyda llawer yn dychwelyd wedi gwneud cysylltiadau newydd pwysig, a fydd, gobeithio, yn arwain at archebion proffidiol.

Gronfa Paratoi at y Dyfodol

Hyd at 2,500 o fusnesau i elwa ar Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru

Cyn bo hir, bydd cannoedd o fusnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i leihau eu costau rhedeg.

Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden.

Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol, sy'n gronfa gwerth £20 miliwn, yn helpu busnesau i gryfhau eu sefyllfa fasnachu yn y dyfodol. A hynny trwy gynyddu proffidioldeb wrth fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwelliannau i adeiladwaith eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.

 

Digwyddiadau

Dydd Gŵyl Dewi 2024 / St David’s Day 2024

Dydd Gŵyl Dewi 2024

Roedd ymgyrch digidol CaruCymruCaruBlas LoveWalesLoveTaste 2024 ar gyfer y diwydiant cyfan, yn ôl yn ei anterth ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2024.

Creodd ymgyrch digidol eleni, a gynhaliwyd am un diwrnod, ymdeimlad cryf o gydweithio o fewn y diwydiant bwyd a diod.

  - Fe wnaeth 186 o fusnesau gymryd rhan, gan ddenu ystod eang o gyflenwyr bwyd a diod o Gymru a phartneriaid masnachu – a phob un yn defnyddio’r asedau digidol newydd wedi’u symleiddio.

- Ymgysylltodd llawer iawn ar y cyfryngau cymdeithasol gyda 4.8 miliwn o argraffiadau, 285 wedi crybwyll, 5,200 wedi hoffi a 3,300 wedi rhannu postiadau gan ddefnyddio’r hashnodau #carucymrucarublas #lovewaleslovetaste.

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda manwerthu a gwasanaeth bwyd

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda manwerthu a gwasanaeth bwyd

Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau datblygu masnach Bwyd a Diod Cymru gan Lywodraeth Cymru o fewn y sector manwerthu a gwasanaeth bwyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ymhlith y rhain oedd digwyddiadau a gynhaliwyd ym mhencadlys y manwerthwyr mawr gyda thros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod yn cymryd rhan. Cyfarfu cynhyrchwyr â gwahanol aelodau o staff yn y pencadlysoedd, fel Prif Swyddogion Gweithredol, uwch-gyfarwyddwyr a rheolwyr categori.

Yn ogystal, mynychwyd sioeau masnach cyfanwerthu gwasanaeth bwyd yng Nghymru gydag Arddangosiadau yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys ystod eang o’r cynnyrch rhestredig. Rhannwyd gwybodaeth ynghylch ymchwil Gwerth Cymreictod ar gyfer gwasanaeth bwyd i’r prynwyr lletygarwch yn ystod y digwyddiadau.

Cysylltwyd â thros 13,000 o brynwyr a rhanddeiliaid manwerthu a gwasanaeth bwyd yn ystod holl ddigwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi.

Cymorth Allforio

Cymorth Allforio

Mae gan allforio y pŵer i drawsnewid eich busnes a dyna pam mae cefnogaeth ar gyfer cynyddu a datblygu allforio yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru. P'un a ydych yn edrych ar allforio am y tro cyntaf neu'n awyddus i gynyddu eich allforion presennol, gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yng Nghymru eich helpu i lwyddo.

A oeddech yn bresennol yn un o gynadleddau Archwilio Allforio Cymru Llywodraeth Cymru yn ddiweddar? Os fethoch eleni, mae’r llyfryn allforio sydd ar gael yn y ddolen isod yn rhoi manylion am gynnig cymorth allforio Llywodraeth Cymru.

Llyfryn Archwilio Allforio 2024: Archwilio Allforio Cymru (gov.wales)

Mae ymweld â marchnad dramor neu arddangos mewn arddangosfa dramor yn hanfodol wrth ennill busnes allforio newydd a chadw'r busnes allforio presennol. Mae ein rhaglen o deithiau ac arddangosfeydd masnachu tramor yn galluogi cwmnïau o Gymru i greu cysylltiadau, archwilio marchnadoedd newydd, meithrin perthnasoedd a sicrhau archebion allforio newydd.

Rhaglen Digwyddiadau Tramor 2024/25: Digwyddiadau tramor | Drupal (llyw.cymru)

Mae amrywiaeth o adnoddau ar-lein hefyd ar gael ar Barth Allforio Busnes Cymru i'ch cefnogi gyda'ch gweithgareddau allforio, waeth ar ba gam rydych o'ch taith allforio.

Barth Allforio Busnes Cymru: Archwilio Allforio Cymru (gov.wales)

Ymweliad Marchnad Allforio i India

Ymweliad Marchnad Allforio i India

Mae gan India farchnad defnyddwyr sy'n tyfu'n gyflym, sy’n gynyddol gefnog ac sy’n awyddus i gael cynhyrchion a gwasanaethau premiwm.

Bydd yr ymweliad hwn â Mumbai a Bangalore, a gynhelir rhwng 11 – 17 Mai, yn gyfle i chi arddangos eich cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr ac adeiladu eich allforion yn y farchnad hon.

Dysgwch fwy a gwnewch gais: Ymweliad marchnad allforio â Mumbai & Bangalore, India | Drupal (llyw.cymru)

Rhaglen Cyfoedion Cyngor Allforio Bwyd a Diod

Rhaglen Cyfoedion Cyngor Allforio Bwyd a Diod

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth rhwng yr Adran Busnes a Masnach a Llywodraeth Cymru, ymunwch â’r Cyngor Allforio Bwyd a Diod (FDEC) ar 23 Ebrill ar gyfer digwyddiad rhwydweithio rhad ac am ddim i allforwyr bwyd a diod sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.

Clywch o arweinwyr busnes, cymheiriaid ac arbenigwyr yn y sector bwyd a diod gan gynnwys y prif siaradwr Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Distyllfa Penderyn, ar sut i adeiladu eich brand mewn marchnadoedd rhyngwladol a goresgyn rhwystrau i allforio.

Bydd cynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus yn ogystal â phreifat wrth law trwy gydol y dydd i ddweud wrthych am y gwasanaethau cymorth allforio gallent eu cynnig. Bydd cyfle hefyd i rwydweithio gyda chyfoedion, siaradwyr, ac arddangoswyr trwy gydol y dydd.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru i fynychu:

Cliciwch yma

Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng Saesneg.

Cymorth lleihau gwastraff

Cymorth lleihau gwastraff wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod Cymru

Trwy Brosiect HELIX, gall arbenigwyr lleihau gwastraff ZERO2FIVE gynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Archwiliadau gwastraff - nodi meysydd gwastraff ac atebion posibl i leihau neu ddileu gwastraff
  • Adolygu a dilysu targedau gwastraff
  • Dod o hyd i ddefnyddiau amgen ar gyfer cynhyrchion gwastraff
Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd

Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd

A ydych chi’n bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion newydd neu gynhyrchion wedi'u hailfformiwleiddio sy'n bodloni gofynion defnyddwyr, sy'n hyfyw yn ariannol, sy'n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf?

Os felly, bydd cyfres ZERO2FIVE o Weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn eich tywys drwy'r dull Porth Llwyfan ar gyfer ddatblygu cynhyrchion newydd o’r cysyniad i’r lansiad.

Mae’r sesiynau lefel rhagarweiniol hyn wedi'u targedu at fusnesau cyfnod cynnar a busnesau newydd.

Gweithdy Cychwyn Busnes

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Gweithdy Cychwyn Busnes: Ar gyfer busnesau bwyd a diod newydd

Bydd y gweithdy cychwyn busnes yn mynd â chi drwy'r camau allweddol a'r ystyriaethau ar gyfer dechrau busnes bwyd a diod.
Bydd y gweithdy hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a all eich helpu i droi eich syniadau yn realiti.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr chwarterol ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

Newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales