Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

8 Mawrth 2024


Saundersfoot

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN:  Lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymru; Twristiaeth a Diwylliant ym Mhowys – lleisia dy farn!; Arolwg tracio teimladau defnyddwyr domestig; Baromedr Twristiaeth Ton Chwefror, 2024; Arolwg Teithwyr Rhyngwladol; Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls; Atal Camfanteisio ar Blant #EdrychynAgosach – canllaw i fusnesau Twristiaeth; Cynhadledd a Sioe Fasnach Mentrau Diwylliannol – 13-14 Mawrth 2024; Sioe Fasnach Cyflenwyr i Brynwyr – De Orllewin Cymru: 13 Mawrth; Cofiwch: Ailgylchu yn y gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn; Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha; Pecyn Cymorth Deunydd a Rheoli Gwastraff Cynaliadwy ar gyfer gwyliau; Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024; Newyddion diweddaraf Busnes Cymru.


Lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymru

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, lansiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru.

Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i ddod yn llysgennad a hynny drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol byr am hanes y Gymraeg a’i sefyllfa heddiw.

Gall defnyddio ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr a chynnig manteision pwysig i’ch busnes.  Mae Helo Blod yn cynnig gwasanaeth cyfieithu i’r Gymraeg sydd am ddim, yn gyflym a chyfeillgar.  Cewch wybod mwy ar Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)


Twristiaeth a Diwylliant ym Mhowys – lleisia dy farn!

Mae Anian Ltd yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i lunio cynllun i ddod â straeon diwylliannol yr ardal yn fyw - a'u gwneud nhw'n fwy hygyrch i bobl leol, ac yn fwy perthnasol i ymwelwyr yfory. Os ych chi’n byw, yn gweithio neu’n mwynhau ymweld â Phowys, hoffai’r tîm eich barn!

Rhannwch eich syniadau am brofiadau diwylliannol a threftadaeth gorau'r sir, ac am sut y gellid datblygu'r rhain mewn ffyrdd arloesol a difyr er budd ymwelwyr a chymunedau lleol. Mynegwch eich barn trwy gwblhau’r holiadur: http://tinyurl.com/anianpowys

Neu ymunwch â un o’r gweithdai rhyngweithiol ar 13 Mawrth:

Bydd coffi, cacen a thaith dywys gan y perchnogion wedi’w gynnwys . Mae croeso i bawb, ond dim ond nifer fechan o lefydd sydd ar gael. Am fwy o wybodaeth ebostiwch tourism@powys.gov.uk.

Ariennir y prosiect trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Du.


Ymchwil a Mewnwelediadau:

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr domestig

Mae Croeso Cymru yn cyfrannu at arolwg tracio teimladau defnyddwyr i ddeall hyder, bwriad a rhwystrau i gymryd gwyliau byr dros nos yn y DU a Chymru.  Bob mis, mae canfyddiadau'r DU yn cael eu cyhoeddi ar wefan VisitBritain.

Ar 21 Mawrth, bydd adroddiad proffil Cymru yn cael ei gyhoeddi sy'n archwilio'n fanwl fwriadau'r bobl hynny sy'n bwriadu mynd ar deithiau yn ystod cyfnod y gwanwyn a'r haf ac yn benodol y rhai sy'n bwriadu dod i Gymru. Ei fwriad yw cefnogi gwaith llunio polisïau, marchnata'r diwydiant a gweithgareddau cynllunio. Gellir gweld adroddiad proffil Cymru o 21 Mawrth yma.

Baromedr Twristiaeth Ton Chwefror, 2024

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a sectoraidd. Bydd yr arolwg diweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2024, yn cynnwys edrych yn ôl ar 2023, asesu hyder busnesau, ystadegau meddiannaeth, ac edrych ar y defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Bydd ar gael i'w weld o 12 Mawrth: Baromedr Twristiaeth: adroddiad Ton Chwefror, 2024 | LLYW.CYMRU

Arolwg Teithwyr Rhyngwladol

Mae'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS) yn casglu gwybodaeth am deithwyr sy'n dod i mewn ac yn gadael y DU, ac mae wedi bod yn rhedeg yn barhaus ers 1961. Mae'r ffigurau dros dro diweddaraf ar gyfer data Chwarter 1, 2 a 3 ar gyfer 2023 wedi'u cyhoeddi gan yr ONS.

Bydd data blwyddyn lawn 2023 yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mai. Bydd Croeso Cymru yn diweddaru'r cyhoeddiad IPS presennol gyda chrynodeb o'r data hwn ar ôl 17 Mai: Ymweliadau a gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol â Chymru | LLYW.CYMRU


Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls

Mae Cyngor Abertawe yn gwella ac yn adnewyddu amddiffynfeydd môr arfordirol y Mwmbwls. Bydd y gwaith yn lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau sy'n cael eu bygwth gan lefelau'r môr yn codi a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Sicrhawyd cyllid ar gyfer yr amddiffynfeydd newydd drwy Lywodraeth Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls - Abertawe


Atal Camfanteisio ar Blant #EdrychynAgosach – canllaw i fusnesau twristiaeth

Yn anffodus, mae darparwyr llety, gan gynnwys gwersylla, parciau carafanau, llety hunanarlwyo, gwestai a llety gwely a brecwast, yn aml yn cael eu defnyddio fel lle i ecsbloetio a cham-drin plant a phobl ifanc.

Cyfrifoldeb deiliaid trwydded safle, a’u rheolwyr, yw sicrhau bod mesurau priodol ar waith yn eu lleoliadau i amddiffyn plant rhag niwed.

Dysgwch sut i adnabod arwyddion camfanteisio ar blant gydag adnoddau #EdrychynAgosach rhad ac am ddim sy’n benodol ar gyfer busnesau twristiaeth: Atal Camfanteisio ar Blant – canllaw i fusnesau twristiaeth | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Cynhadledd a Sioe Fasnach Mentrau Diwylliannol – 13-14 Mawrth 2024, ICC Cymru

Digwyddiad sy'n dod â dysgu, profiad ac arfer gorau ynghyd o bob math o leoliadau diwylliannol ar draws pob maes o weithgarwch masnachol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i helpu lleoliadau i wneud mwy o arian gyda chamau profiad ymarferol ac ysbrydoliaeth i dyfu a datblygu eich ffrydiau incwm.

Er bod angen tocyn i fynychu'r digwyddiad, mae'r sioe fasnach, sy'n cynnwys dros 100 o arddangoswyr, yn rhad ac am ddim i'w mynychu.  Am ragor o fanylion, ewch i Cynhadledd Mentrau Diwylliannol – The Association for Cultural Enterprises


Sioe Fasnach Cyflenwyr i Brynwyr – De Orllewin Cymru: 13 Mawrth

Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cywain a Visit Pembrokeshire, cynhelir y Sioe Fasnach Cyflenwyr i Brynwyr yn Ardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru 13 Mawrth. Tocynnau i brynwyr yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb ewch i Digwyddiad rhwydweithio bwyd yn gwahodd masnachwyr o bob rhan o'r de-orllewin (sir-benfro.gov.uk)


Cofiwch: Ailgylchu yn y gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Mannau addoli
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU

Mae canllawiau pellach ar gael i'ch helpu i wella'ch casgliad gwastraff presennol a sicrhau bod eich gweithle yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau newydd o fis Ebrill 2024:  Canllawiau'r Busnes o Ailgylchu ar gyfer pob gweithle yng Nghymru (wrapcymru.org.uk) 

Yn ei rôl fel rheoleiddiwr, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am oruchwylio’r gofynion gwahanu a’r gwaharddiadau ar wastraff sy’n mynd i gael ei losgi neu’n mynd i safleoedd tirlenwi.  Mae'r tîm yn CNC wrth law i helpu gweithleoedd i gydymffurfio â’r rheoliadau newydd a rheoli eu gwastraff yn y ffordd gywir: Cyfoeth Naturiol Cymru / Casgliadau gwastraff ar wahân ar gyfer gweithleoedd


Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha

Mae ymgyrch gwastraff bwyd Bydd Wych. Ailgylcha. nawr yn fyw, a’i nod yw ysbrydoli dinasyddion Cymru i arbed arian drwy wneud i’w bwyd fynd ymhellach ac ailgylchu’r bwyd na allant ei fwyta i greu ynni adnewyddadwy ar gyfer eu cymunedau.

Gallwch ddysgu mwy am yr ymgyrch yma: Arbed arian a chreu pŵer i Gymru | Cymru yn Ailgylchu (walesrecycles.org.uk)

Gallwch lawrlwytho adnoddau a phecyn cymorth yr ymgyrch am ddim yma a helpu Cymru fod yn genedl ailgylchu orau’r byd. 


Pecyn Cymorth Deunydd a Rheoli Gwastraff Cynaliadwy ar gyfer gwyliau

Y mis hwn, lansiodd Vision 2025 becyn Cymorth Deunyddiau Cynaliadwy a Rheoli Gwastraff ar gyfer Gwyliau.  Mae'r Pecyn Cymorth - sy'n cynnwys 10 cam - yn darparu canllawiau ac adnoddau ymarferol gam wrth gam i'r rhai sy'n gyfrifol am reoli gwastraff mewn gwyliau maes glas.

Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r Pecyn Cymorth ewch i Becyn Cymorth Deunyddiau Cynaliadwy a Rheoli Gwastraff - Gweledigaeth 2025


Digwyddiadau gan Digwyddiadau Cymru a ariennir sydd ar y gweill ar gyfer 2024:

  • Penwythnos Talacharn – 15-17 Mawrth - Dathlu Dylan Thomas mewn amryfal ffyrdd.  Eleni bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw.  
  • Gŵyl Crime Cymru 17–19 & 22-24 Ebrill - gŵyl llenyddiaeth trosedd ryngwladol gyntaf Cymru, sy'n dathlu ysgrifennu trosedd yn ei ffurfiau niferus – o ffuglen a ffeithiol i deledu a ffilm.


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitterYoutubeInstagram