Briff Arloesi, Rhifyn 64

Mawrth 2024

English

 
 
 
 
 
 
Glowyr yr economi a newid hinsawdd

£5.9 miliwn yn cael ei roi i sefydliadau sy'n buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi

Mae dau o'r sefydliadau a gefnogir yn cynnwys cyllid i Wasanaeth Gwaed Cymru ar gyfer offer i wella gofal i gleifion, a menter i ddatblygu ffermio dofednod yn fwy cynaliadwy yn Fferm Wern Heulog.

Darllenwch fwy am sut mae dros 50 o sefydliadau wedi elwa o gronfa offer cyfalaf SMART.

Darganfyddwch fwy am gymorth a chyllid Arloesi ar gyfer eich sefydliad yma.

Gwell Seiberddiogelwch ar gyfer BBaChau

Mae Partneriaeth Glyfar rhwng PureCyber, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru yn anelu at helpu i wella seiberddiogelwch ar gyfer mentrau Bach a Chanolig. Darllenwch fwy am sut y gall eich sefydliad gymryd rhan.

A fyddai eich sefydliad yn elwa o Bartneriaeth Glyfar? Cewch wybod rhagor yma.

Cyfrifiadur gyda data arno
Cychod mewn Bae

Hwb o £1 miliwn i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru

Nod y cynllun yw sicrhau twf amgylcheddol ac economaidd cynaliadwy yn y sector. Mae 11 categori gwahanol gydag uchafswm grant o £100,000 ac isafswm o £500. 

I gael rhagor o wybodaeth Ynglŷn â'r cynnig hwn cliciwch yma.

Tanysgrifiwch i Advances Wales yma

Digwyddiadau

Sesiwn Sbotolau SBRI

12th Mawrth – Spark Caerdydd – 8:30 – 12:00 

Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach yn cynnig cyfle i sefydliadau weithio'n uniongyrchol gyda'r sector cyhoeddus i ddatblygu technolegau a phrosesau newydd.

Ymunwch â'r digwyddiad i ddarganfod mwy am waith SBRI, a'r cyfleoedd sydd ar gael i'ch sefydliad yma.

Cyllid ar gael ar gyfer Cyngres y Byd IoT Solutions 2024

21st - 23rd Mai - Barcelona

Bydd y gyngres yn caniatáu i sefydliadau yng Nghymru ddatblygu partneriaethau a chysylltiadau rhyngwladol gyda'r potensial i gynyddu cydweithrediad ym maes Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I).

 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sefydliadau gael mynychu. Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bost arloesedd@llyw.cymru

Cymorth a newyddion arloesi

20th Mawrth - Ar-lein - 10:00 - 11:30

Ymunwch â’r gweminar yma i ddysgu am y newyddion diweddaraf am arloesi yng Nghymru yn ogystal â chyfleoedd sydd ar ddod i’ch sefydliad

Cronfa Ymchwil ac Arloesi

I gael gwybod am y cyfleoedd cyllido diweddaraf gan Ymchwil ac Arloesi yn Y DU, chwiliwch am eu darganfyddwr cyllid yma.

.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: