Cymraeg 2050 - 1 Mawrth 2024

1 Mawrth 2024

 
 

Dydd Gŵyl Dewi hapus a chroeso i gylchlythyr cyntaf 2024!

Oes sylwadau gennych am gynnwys ein cylchlythyrau? Rhowch wybod i ni.

Fel y Gymraeg, mae’r cylchlythyr yma yn perthyn i ni i gyd - darllenwch, trafodwch, rhannwch!

Daffodils

Neges Dydd Gŵyl Dewi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd ysgolion ledled Cymru yn dathlu mewn gwahanol ffyrdd. Gwyliwch neges fer gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, sy'n nodi’r ddiwrnod arbennig hwn.

Click to edit this placeholder text.

Llysgenhadon Diwylliannol

Lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymru

 

Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru.

Rôl y rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yw cefnogi pobl sy’n ymgartrefu yng Nghymru i ddysgu mwy am ein gwlad, ein hiaith a’i phwysigrwydd i’r gymuned; rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg; a gweithio’n lleol i gynnal a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol.

Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i ddod yn llysgennad a hynny drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol byr am hanes y Gymraeg a’i sefyllfa heddiw. Ar ôl cwblhau’r modiwlau ar wefan Llysgennad Cymru, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn tystysgrif, bathodyn, sticer ffenest, a phecyn gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael fel gwasanaeth cyfieithu am ddim i gymunedau, unigolion a sefydliadau trydydd sector.

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yw’r unigolyn cyntaf i ddod yn y llysgennad diwylliannol. Wrth lansio’r cynllun, dywedodd:

“Rwy’n falch iawn o ddod yn Llysgennad Diwylliannol a lansio’r cynllun ar Ddydd Gŵyl Dewi. ‘Gwnewch y pethau bychain’ oedd neges Dewi Sant, ac mae dod yn llysgennad yn ffordd syml ac ymarferol o gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, helpu pobl i integreiddio i’w cymunedau newydd, croesawu ymwelwyr, a chodi ymwybyddiaeth o’n treftadaeth a’n diwylliant.

“Os ydych chi eisiau cefnogi’r Gymraeg yn eich ardal chi, neu’n gwybod am rhywun delfrydol yn eich cymuned all ddod yn llysgennad, yna ewch amdani a lledaenwch y neges.”

Modiwlau lefel Efydd sy'n cael ei lansio heddiw. Bydd lefelau Arian ac Aur yn cael eu hychwanegu ar blatfform Llysgennad Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. I ddysgu mwy am y cynllun a sut i ddod yn llysgennad, ewch i Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol – Llysgenhadon Cymru (ambassador.wales)

Mae’r modiwlau Efydd yn cymryd tua 20 munud i’w cwblhau, a gall y llysgenhadon benderfynu beth fyddant yn ei wneud i gefnogi’r Gymraeg yn eu cymuned. 

Menyw yn edrych ar gyfrifiadur

Dathlu gwaith Technoleg a'r Gymraeg 

 

Wrth gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg nôl yn 2018, ein bwriad oedd creu datblygiadau technolegol a fyddai’n galluogi ni i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bellach wedi cyhoeddi’r adroddiad terfynol ar y Cynllun hwn, sy’n edrych nôl ar y cynnydd ry’n ni wedi ei wneud. 

Un o uchafbwyntiau’r Cynllun oedd galluogi ChatGPT yn y sgwrsfot Macsen, a gafodd ei ddatblygu gan Brifysgol Bangor gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu i Macsen gynhyrchu cynnwys gwreiddiol yn ogystal ag ymateb i dasgau syml. Mae’r Brifysgol bellach yn gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae ChatGPT yn gweithio yn Gymraeg.

Rhan fawr o’r Cynllun oedd gwella profiad pobl wrth ddefnyddio technoleg yn Gymraeg. Enghraifft o hyn oedd newid rhyngwyneb Office365 i’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (78,086 defnyddiwr), a’i gwneud hi’n haws felly i ddysgwyr ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn addysg. 

Fel rhan o’n partneriaeth ni â Microsoft, ry’n ni wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd Microsoft Teams. Mae hwn ar gael heb gost ychwanegol i ddefnyddwyr cyfredol Teams. Mae gwaith yn parhau gyda Microsoft i ddatblygu’r cyfleuster hwn ymhellach gyda’r gobaith y bydd hyn yn arwain at greu adnoddau tebyg a newydd ar gyfer ieithoedd sy’n cael eu siarad ledled y byd, yn seiliedig ar ein gwaith yma yng Nghymru. Roedd gan y Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg rôl sylweddol wrth annog creu, defnyddio a gwella technoleg Cymraeg. Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o’r cynnydd hyd yn hyn.  

Hoffech chi wybod mwy am y gwaith? Dyma’r adroddiad llawn.

Os hoffech chi ddysgu mwy fyth am dechnoleg Cymraeg, mae ein gwefan Helo Blod wastad yma i helpu. 

 

Athrawes

Awydd addysgu yn y Gymraeg?

Ry’n ni yma i dy gefnogi – cer amdani heddiw.

Mae Addysgu Cymru yn rhedeg ymgyrch ar hyn o bryd sydd yn ffocysu ar recriwtio athrawon Cymraeg. Mae’n cynnwys hysbysebion teledu, radio ac ar-lein, a chynnwys cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram a TikTok) yn targedu siaradwyr Cymraeg.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Addysgwyr Cymru

Dydd Miwsig Cymru 9 Chwefror 2024 ar gefndir oren

Cymru'n dod at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru

Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, a hynny yn Gymraeg. Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror, cefnogodd Llywodraeth Cymru cyfres o gigiau Cymraeg mewn tafarndai cymunedol ledled Cymru.

yr Athro Colin Williams

Dathlu cyfraniad Yr Athro Emeritws Colin H, Williams i bolisi iaith

Ddydd Iau 8 Chwefror daeth arbenigwyr rhyngwladol ynghyd i drafod llwyddiannau a heriau gwarchod ieithoedd lleiafrifol, ac i ddiolch i’r Athro Emeritws Colin H Williams am ei gyfraniad i bolisi iaith. Byddwn ni’n cyhoeddi fideos o’r gynhadledd yn fuan.

Newyddion Diweddaraf

Cyhoeddiadau diweddaraf Cymraeg 2050:

Datganiad Llafar: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg

Y Gymraeg yn fwy parod am ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial, diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru

I weld pob datganiad am y Gymraeg: Hysbysiadau | LLYW.CYMRU

Ystadegau ac Ymchwil

Ystadegau ac ymchwil diweddar am y Gymraeg:

Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch: Medi 2021 i Awst 2022

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Hydref 2022 i Fedi 2023

 I weld yr holl ystadegau ac ymchwil am y Gymraeg: Ystadegau ac ymchwil | LLYW.CYMRU

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf am Cymraeg 2050 gan Lywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd mewn un llais.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Facebook:

Cymraeg

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@Cymraeg

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Cymraeg