Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Chwefror 2024

Chwefror 2024 • Rhifyn 031

 
 

Newyddion

Cynhadledd Mewnwelediad 2024: O Her i Lwyddiant

Cynhadledd Fewnwelediad 2024

Bydd Cynhadledd Flynyddol Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru 2024, "O Her i Lwyddiant", yn cael ei chynnal ar 12, 13, 19 a 20 Mawrth.  Bydd y Gynhadledd yn cynnwys prif siaradwyr o blith arweinwyr byd-eang enwog a chanddynt wybodaeth graff am ddefnyddwyr a marchnadoedd a byddant yn trafod pynciau fel yr economi, sgiliau, manwerthu, allan o'r cartref a datblygu cynhyrchion newydd. Archwiliwch sut y mae busnesau Bwyd a Diod Cymru wedi wynebu heriau busnes yn llwyddiannus, gyda thrafodaethau panel ac astudiaethau achos.

Mae'r digwyddiad hwn ar agor i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Cliciwch yma am fanylion cofrestru.

12 Mawrth 9.30am - 11am - Economi a Sgiliau 13 Mawrth 9.30am - 11.30am - Cynllunio ar gyfer y Dyfodol a Datblygu Cynhyrchion Newydd 19 Mawrth 9.30am - 11.30am - Yn y Cartref/ Manwerthu 20 Mawrth 9.30am - 11.30am Allan o'r Cartref/ Gwasanaethau Bwyd

Bwyd a Diod Cymru - Gwerth “Cymreictod”

Bwyd a Diod Cymru - Gwerth “Cymreictod”

Cred 9/10 o westeion ei bod hi’n bwysig bod gan leoliadau ddewis da o brydau gyda chynhwysion Cymreig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o ymchwiladau i ddeall yn well "Gwerth Cymreictod" i siopwyr a gwesteion yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr. Mae pob darn o ymchwil yn dangos bod siopwyr a gwesteion yn dymuno cael mwy o Fwyd a Diod o Gymru mewn lleoliadau manwerthu a lleoliadau allan o'r cartref.

Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Penodi Aelodau o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Mae chwech wedi cael eu penodi'n aelodau o fwrdd diwydiant sydd am ddatblygu a hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru ac ennill enw hyd yn oed yn well ar ei gyfer.

Bydd aelodau Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn cysylltu ac yn ymwneud â busnesau ledled y wlad a chyda Llywodraeth Cymru i helpu i gefnogi twf parhaus wrth i fwyd a diod o Gymru ffynnu gartref a thramor.

BlasCymru/TasteWales 2024

Blas llwyddiant o £38 miliwn ar fwyd a diod Cymru

Fe wnaeth BlasCymru/TasteWales 2023 gyrraedd y lefel uchaf erioed ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymru fel y cadarnhawyd bod gwerthiant posibl wedi cyrraedd £38 miliwn, yn ol cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Yn y digwyddiad bob dwy flynedd, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICCW) yng Nghasnewydd, gwelwyd cwmnïau yn y sector yn arddangos eu cynhyrchion o ansawdd uchel i brynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant gartref a thramor.

Strategaeth Cwrw Cymru a Strategaeth Gwirodydd Cymru

Cwrw a gwirodydd Cymreig yn cynllunio ar gyfer dyfodol cadarn

Mae cynhyrchwyr o bob rhan o sectorau cwrw a gwirodydd Cymru wedi ymgynnull i lansio eu strategaethau priodol i wella cydweithredu rhwng sectorau a sbarduno twf yn y dyfodol.

Bydd Strategaeth Cwrw Cymru a Strategaeth Gwirodydd Cymru, a gynhelir yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, yn helpu’r diwydiant diodydd i gwrdd â’r heriau presennol, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a chostau cynyddol ynni, y gadwyn gyflenwi a deunyddiau crai.

Mallows Bottling yng Nghoedelái

Mae Mallows Bottling yng Nghoedelái yn mynd o nerth i nerth

Mae Mallows Bottling, cyfleuster teuluol yng Nghoedelái yn mynd o nerth i nerth ers i'r busnes agor yn 2021, ac mae'r cwmni'n canolbwyntio ar allforion er mwyn tyfu yn y dyfodol.

Derbyniodd Mallows Bottling, grant gan gynllun Cyflymu Busnes, Arloesi a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ei llinell botelu, ac mae bellach yn rhedeg 3 llinell gyda chynlluniau ar gyfer pedwaredd. Mae'r cwmni'n potelu pob math o ddiodydd alcoholig ac wedi sicrhau contractau mawr gydag archfarchnadoedd a brandiau blaenllaw yn fyd-eang.

Labelu 'Nid i'r UE' ar gyfer cynhyrchion manwerthu ledled Prydain Fawr

Labelu 'Nid i'r UE' ar gyfer cynhyrchion manwerthu ledled Prydain Fawr (Saesneg yn unig)

"Fel rhan o'i phecyn mesurau Diogelu'r Undeb," mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar gyflwyno ei pholisi o labelu gorfodol "nid i'r UE" ar gyfer nwyddau manwerthu. Efallai yr hoffech ddarllen ac ymateb i’r ddogfen ymgynghori ar sut y gallai hyn effeithio ar eich busnes.

Digwyddiadau

#CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste

#CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste

Mae Bwyd a Diod Cymru wedi creu pecyn cymorth ar gyfer cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru i hyrwyddo eu brandiau ar Ddydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.

Mae'r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn ôl eleni i gefnogi bwyd a diod o Gymru a bydd yn ymgyrch undydd ar Ddydd Gŵyl Dewi ddydd Gwener 1 Mawrth.

Fel gydag ymgyrchoedd blaenorol, mae pecyn cymorth digidol newydd i gynhyrchwyr ei ddefnyddio yn eu cyfathrebiadau cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.

I ymuno â'r ymgyrch, lawrlwythwch y pecyn cymorth a chynlluniwch eich postiadau cyfryngau cymdeithasol - fel bob amser, byddai'n wych llifo'r rhyngrwyd yn GOCH ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Dathliad Bwyd a Diod Cymru yn Llundain

Dathliad Bwyd a Diod Cymru yn Llundain
Pethau Bychain unigryw Cymreig

O’n bro i’r byd – helpwch ni i droi’r byd yn Gymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi

Byddwn ni’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol eleni trwy gael bach o hwyl a rhannu rhai o’r Pethau Bychain unigryw Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r ymgyrch hon yn gyfle wych i chi ymuno â’r hwyl a gwneud ein diwrnod cenedlaethol yn un cofiadwy i’ch partneiriaid, eich rhwydweithiau a’ch cwsmeriaid.

Os oes gennych unrhyw gysylltiadau rhyngwladol byddem yn gwerthfawrogi eich help i ledaenu’r neges – fel ein bod yn gallu annog pobl ar draws y byd i wneud y Pethau Bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi!

Mae’r Pethau Bychain yn:

  • Hawdd i’w gwneud, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr.
  • Dathlu ein pobl a’n traddodiadau.
  • Ac, yn fwy na dim, mae’n gwneud diwrnod rhywun ychydig yn well.

Dyma pecyn wybodaeth gyda manylion ychwanegol a fideo i’ch ysbridoli.

Sut i gymryd rhan …

  1. Dewiswch un o’r Pethau Bychain o’r rhestr llawn ar ein wefan  
  2. Dilynwch @cymraeg / @Walesdotcom ar y cyfryngau cymdeithasol
  3. Rhannwch y Pethau Bychain ar Ddydd Gwyl Dewi gan ddefnyddio #pethaubychain a #randomactsofwelshness

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â lowri.jones37@llyw.cymru

Bwyd a Diod Expo

Expo Bwyd a Diod

Hoffech chi arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Food & Drink Expo, Birmingham 29 Ebrill - 1 Mai 2024? Brysiwch! Gan mai dim ond ychydig o leoedd sydd gennym ar ôl. Ebostiwch am ffuflen gais neu am fwy o wybodaeth i shirley.mcgilvray@llyw.cymru 

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Gweithdy Cychwyn Busnes

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Gweithdy Cychwyn Busnes: Ar gyfer busnesau bwyd a diod newydd

Bydd y gweithdy cychwyn busnes yn mynd â chi drwy'r camau allweddol a'r ystyriaethau ar gyfer dechrau busnes bwyd a diod.
Bydd y gweithdy hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a all eich helpu i droi eich syniadau yn realiti.

Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd

Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd

A ydych chi’n bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion newydd neu gynhyrchion wedi'u hailfformiwleiddio sy'n bodloni gofynion defnyddwyr, sy'n hyfyw yn ariannol, sy'n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf?

Os felly, bydd cyfres ZERO2FIVE o Weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn eich tywys drwy'r dull Porth Llwyfan ar gyfer ddatblygu cynhyrchion newydd o’r cysyniad i’r lansiad.

Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn, a ariennir yn llawn, yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.

 

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr chwarterol ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

Newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales