Bwletin Newyddion: Ffarwel i ddau lysgennad twristiaeth gwych

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

08 Chwefror 2024


Cymru Wales

Ffarwel i ddau lysgennad twristiaeth gwych

Gyda chalon drom rydym yn nodi colli dau lysgennad gwych o ddiwydiant twristiaeth Cymru.

Jonathan Jones CBE

Roedd Jonathan (Jo) Jones yn gyfaill a chydweithiwr uchel ei barch ac yn arwr i'r rhai yn y diwydiant twristiaeth.

Bu Jo, a fagwyd yng Nghrymych, Sir Benfro, yn arwain tîm Bwrdd Croeso Cymru ar y pryd fel Prif Weithredwr rhwng 1999 a 2006 ac yna fel Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru) rhwng Ebrill 2006 a Gorffennaf 2012. Oddi yno daeth yn Gyfarwyddwr swyddfa Llywodraeth Cymru, Llundain ac ymddeolodd ym mis Awst 2013, er iddo barhau i fod yn rhan o'r diwydiant twristiaeth fel Ymgynghorydd Twristiaeth Annibynnol, tan heddiw. 

Yn 2012 derbyniodd Jo y CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines a dywedodd ar y pryd ei fod yn derbyn yr anrhydedd ar ran "pawb sy'n gweithio mor galed yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.  Heb eu cefnogaeth, byddai'n amhosib cyflawni'r hyn rwy'n ei wneud".

I'r rhai ohonom yn y sector a fu'n ffodus i adnabod a gweithio gyda Jo, yng Nghymru a thu hwnt, byddwn yn ei gofio nid yn unig fel gweithiwr proffesiynol a llysgennad penigamp dros ein gwlad, ond fel un o'r unigolion cynhesaf a mwyaf diffuant gyda sgiliau cyfathrebu cynhenid a hiwmor gwych.

Paul Loveluck CBE, JP

Bu Paul yn was cyhoeddus am dros 50 mlynedd ac yn ynad am 30 mlynedd yng Nghaerdydd a Sir Drefaldwyn.  Dyfarnwyd y CBE iddo am wasanaethau i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac ymroddodd ei fywyd i wasanaethu eraill yn ei deulu, ei gymuned a'i wlad.

Wedi ei eni a'i fagu ym Maesteg, graddiodd Paul ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd ac ymunodd â'r Swyddfa Gymreig yn 1969 o'r Bwrdd Masnach, Whitehall, Llundain. Bu'n Brif Weithredwr Bwrdd Croeso Cymru rhwng 1984 a 1996 cyn dod yn Brif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru rhwng 1996 a 2002.  Ar ôl ymddeol yn 2002, daeth Paul yn Llywydd Amgueddfa Cymru rhwng 2002 a 2011 ac roedd yn aelod o Gomisiwn Ffiniau Seneddol Cymru rhwng 2011 a 2020.

 

Bydd colled fawr ar eu holau.

Mae'n siŵr y byddwch yn dymuno ymuno â Llywodraeth Cymru i anfon ein cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a ffrindiau Jo Jones a Paul Loveluck.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitterInstagram