O’n bro i’r byd – helpwch ni i droi’r byd yn Gymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi
Byddwn ni’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol eleni trwy gael bach o hwyl a rhannu rhai o’r Pethau Bychain unigryw Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ymgyrch hon yn gyfle wych i chi ymuno â’r hwyl a gwneud ein diwrnod cenedlaethol yn un cofiadwy i’ch partneiriaid, eich rhwydweithiau a’ch cwsmeriaid.
Os oes gennych unrhyw gysylltiadau rhyngwladol byddem yn gwerthfawrogi eich help i ledaenu’r neges – fel ein bod yn gallu annog pobl ar draws y byd i wneud y Pethau Bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi!
Mae’r Pethau Bychain yn:
- Hawdd i’w gwneud, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr.
- Dathlu ein pobl a’n traddodiadau.
- Ac, yn fwy na dim, mae’n gwneud diwrnod rhywun ychydig yn well.
Dyma pecyn wybodaeth gyda manylion ychwanegol a fideo i’ch ysbridoli.
Sut i gymryd rhan …
-
Dewiswch un o’r Pethau Bychain o’r rhestr llawn ar ein wefan
-
Dilynwch @cymraeg / @Walesdotcom ar y cyfryngau cymdeithasol
-
Rhannwch y Pethau Bychain ar Ddydd Gwyl Dewi gan ddefnyddio #pethaubychain a #randomactsofwelshness
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â lowri.jones37@llyw.cymru
Wythnos Cymru yn Llundain: 22 Chwefror - 6 Mawrth 2024
Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru.
Dathliad Bwyd a Diod Cymru yn Llundain
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, bydd Bwyd a Diod Cymru yn mynd â chynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru i farchnad fywiog yn Llundain. Os ydych chi yn ardal marchnad enwog Spitalfields, dewch i brofi bwyd Cymreig – o bice ar y maen traddodiadol, I charcuterie sydd wedi ennill gwobrau a llawer mwy. Dewch i weld dros eich hun beth sydd gan Gymru i’w gynnig. Rhowch gynnig ar samplau am ddim o’u tryc bwyd neu wylio arddangosfa goginio. Bydd llwyth o gynnyrch Cymreig ar gael wrth i ni ddathlu ein nawddsant mewn steil!
Dewch i ymweld â Stryd Lamb, Spitalfields, E1 6EA:
- Dydd Sadwrn 2 Mawrth 10yb – 6yp
- Dydd Sul 3 Mawrth 10yb – 4yp
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r ymgyrch bwyd a diod ehangach #CaruCymruCaruBlas, sy’n ymroddedig i arddangos y gorau ym myd gastronomeg Cymru ar draws y DU. Felly nodwch eich calendrau a blaswch flasau cyfoethog Cymru!
Bwyd a Diod Cymru - Gwerth “Cymreictod”
Cred 9/10 o westeion ei bod hi’n bwysig bod gan leoliadau ddewis da o brydau gyda chynhwysion Cymreig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o ymchwiladau i ddeall yn well "Gwerth Cymreictod" i siopwyr a gwesteion yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr. Mae pob darn o ymchwil yn dangos bod siopwyr a gwesteion yn dymuno cael mwy o Fwyd a Diod o Gymru mewn lleoliadau manwerthu a lleoliadau allan o'r cartref.
Edrychwch ar yr uchafbwyntiau yma i weld sut y gallwch chi fanteisio ar “Werth Cymreictod” Gwerth “Cymreictod” | Busnes Cymru
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|