Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar gael nawr!

Mawrth 2024

 
 

CYNNWYS

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw'n iawn wrth i'r Gwanwyn nesáu.

Roedd yn wych gweld cymaint o weithwyr ieuenctid a phobl ifanc yn ddiweddar yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid a gynhaliwyd yn Llandudno. Roedd hi'n arbennig bod llawer wedi ymuno i wylio a gwrando'n fyw wrth i'r gwobrau gael eu ffrydio mewn lleoliadau gwaith ieuenctid a chlybiau ieuenctid ledled Cymru.

Umaira Chaudhary

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac i'r enillwyr. Mae'r digwyddiad wir yn dangos yr amrywiaeth yn y gwaith ieuenctid yng Nghymru a sut y mae gwasanaethau'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc bob dydd.

Yn ddiweddar, cefais y pleser o gwrdd â llawer o fyfyrwyr Gwaith Ieuenctid a Chymunedol sy'n astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Trafodais waith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a buom yn siarad am bwysigrwydd datblygu polisi yng nghyd-destun arfer gwaith ieuenctid. Anogais y myfyrwyr i ystyried cyfrannu at ymgynghoriad y bwrdd ar y datblygiadau i'r canllawiau deddfwriaethol sy'n digwydd i gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae mor bwysig bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr ieuenctid yn cyfrannu at y gwaith o lunio polisi a deddfwriaeth i helpu i weithredu'r strategaeth wrth i ni symud ymlaen.

Roedd cysylltu â'r myfyrwyr yn fy llenwi â'r fath obaith – roedden nhw mor angerddol am rôl gwaith ieuenctid ac roedd eu huchelgais yn fy ysbrydoli. Rhannwyd rhai heriau ynghylch dysgu a chyflogaeth a byddaf yn ystyried hyn fel Cadeirydd ac yn rhannu'r sylwadau gyda'r Bwrdd i sicrhau eu bod yn cyfrannu at ein ffordd o feddwl.

Hoffwn ddiolch i'r sector am ymgysylltu â'r gwaith hyd yma ar ddatblygu a llunio'r cynigion i gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith Ieuenctid a rwy’n eich annog i barhau i ymgysylltu a ni yn ystod y camau nesaf.

Byddwch wedi gweld bod nifer o weminarau wedi eu cynnal i gefnogi'r Grwpiau Cyfranogi ar Weithredu. Rwy'n eich annog i fod yn rhan o'r rhain i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a'r cynnydd sy'n digwydd. Bydd y gweminarau nesaf, a gynhelir ym mis Ebrill, yn canolbwyntio ar ddatblygu'r gweithlu.

Mwynhewch y rhifyn hwn a diolch am eich ymrwymiad parhaus.

Llais Person Ifanc

Dathlu Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yng Ngwobrau 2023 Gan: Rebecca Jackson, Prentis Modern Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Umaira Chaudhary

Ar 22 Chwefror, cefais fynd i’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn Venue Cymru, Llandudno.

 

Digwyddiad yw hwn sy’n cydnabod ac yn dathlu ymroddiad a llwyddiannau gweithwyr a mudiadau ieuenctid sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

Bûm yn dyst i ddoniau, creadigrwydd ac ymroddiad eithriadol gweithwyr ieuenctid, gan weld eu heffaith gadarnhaol ar gymdeithas a sut y maen nhw’n ysbrydoli pobl eraill. 

Gwelais o lygad y ffynnon sut y mae’r Gwobrau’n rhoi bri ar lwyddiannau unigolion, a phwysleisio pwysigrwydd cefnogi a grymuso pobl eraill.

Fy ngwaith i yn y Gwobrau oedd croesawu ymwelwyr i stondin yn y cyntedd a oedd yn cynrychioli fy sefydliad, sef Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cefais gyfle i sgwrsio â phobl a chwrdd â chynrychiolwyr a gwirfoddolwyr o fudiadau eraill. Roedd hi’n wych gweld pawb yn sgwrsio â’i gilydd ac yn dod draw i’n stondin. Cefais drafod gwaith Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a sôn am sut yr ydyn ni’n cefnogi elusennau lleol. Roeddwn wrth fy modd pan ddaeth Mirain Iwerydd, cyflwynydd y gwobrau, i’r llwyfan, gyda’r ystafell yn llawn cyffro. Gydol y noson, clywais straeon personol pobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan y gweithwyr ieuenctid a oedd wedi cael eu henwebu, a chlywed straeon y gweithwyr ieuenctid eu hunain. Dangosodd i mi bwysigrwydd eu gwaith yn eu cymunedau.

Pan ddechreuodd y seremoni wobrwyo, cafodd pawb swper bendigedig. Dyma gyfle arall i mi gwrdd â rhagor o bobl a chefais amser gwerth chweil yn dod i ddysgu mwy am y sector gwaith ieuenctid. Roeddwn mor hapus dros enillwyr pob categori, ac roedd pob un o’r rheini a gafodd eu henwebu’n haeddu’r gydnabyddiaeth a gawson nhw drwy’r gwobrau.

Cefais gyfle i feddwl am rym trawsnewidiol gwaith ieuenctid a’r cyfraniad amhrisiadwy y mae’n ei wneud at lywio bywydau’r genhedlaeth nesaf. Ar ddiwedd y noson, perfformiodd y gantores Bettie J Williams ar y llwyfan. Cefais fy nghyffwrdd wrth glywed ei chaneuon sy’n sôn am bynciau fel hawliau ffoaduriaid.

Cefais y fraint o weld sut yr oedd pob un o’r categorïau yn adlewyrchu natur amrywiol gwaith ieuenctid, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio, arloesi ac eirioli wrth greu canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc. Dangosodd yr holl bobl a gafodd eu henwebu eu hymroddiad a’u heffaith ar y sector gwaith ieuenctid.

Meddai Mirain Iwerydd, cyflwynydd BBC Radio Cymru a chyflwynydd y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid, “Roedd hi’n gymaint o bleser bod yma yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023, gan allu dathlu llwyddiannau anhygoel pawb a theimlo bod pawb yn yr ystafell yn dathlu cyfraniad pob unigolyn sy’n gweithio yn y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru.”

Gweithio Gyda’n Gilydd wrth wneud Gwaith Ieuenctid

Dathlu rhagoriaeth: cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gwaith Ieuenctid 2023

Umaira Chaudhary

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu’r gwaith ieuenctid rhagorol sy’n mynd rhagddo ledled Cymru. Mae’r gwobrau’n adlewyrchu natur amrywiol gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn dangos effaith gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid ar bobl ifanc ac ar y cymunedau o’u cwmpas.

Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

 “Mae gwaith ieuenctid yn gwneud cyfraniad hollbwysig at greu amgylcheddau diogel a chynhwysol i bobl ifanc, lle byddan nhw’n cael cymorth i wireddu’u llawn botensial.

Mae’n ysbrydoledig gweld enghreifftiau niferus o waith ieuenctid rhagorol yn cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni. Dyma bobl a sefydliadau sy’n cydweithio i sicrhau bod Cymru yn wlad lle gall pob plentyn, pob unigolyn ifanc a phob teulu ffynnu.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £13m o gyllid uniongyrchol eleni i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol a sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cefnogi pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol. Mae’r cyllid hwn wedi treblu ers 2018, gan adlewyrchu’r cyfraniad hollbwysig y mae’n ei wneud er mwyn helpu pobl ifanc i wireddu’u potensial.

Cyhoeddwyd rhestr lawn yr enillwyr yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru ar 22 Chwefror yn Venue Cymru yn Llandudno:

  • Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol - Ei Llais Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid y Fro
  • Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel ranbarthol neu genedlaethol - Urdd Gobaith Cymru
  • Gwobr arloesi digidol - Creuwyr Cynnwys Caerdydd, Cyngor Caerdydd
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid - Cydweithredu ar Gyfoedion Cymru, Media Academy Cymru
  • Arweinyddiaeth - Jo Sims, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol - Kelly Powell, YMCA Abertawe
  • Gwaith gwirfoddol eithriadol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid - Molly Fenton, Ymgyrch Caru'ch Mislif
  • Seren y Dyfodol - Dominique Drummond, NYAS Cymru
  • Arloesedd yn y Gymraeg – GISDA

Mae rhagor o wybodaeth am yr enillwyr a’r rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol fan hyn: Gwobrau 2023 | LLYW.CYMRU

Gwyliwch ffrwd fyw’r seremoni wobrwyo fan hyn: Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023 (youtube.com)

Newyddion Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru

Grwpiau Cyfranogi ar Weithredu: Ymuno â'r sgwrs

Sefydlwyd pum Grŵp Cyfranogi ar Weithredu (GCG) llynedd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

WG logo

Mae'r grwpiau hyn yn edrych yn fanwl ar y meysydd a ganlyn:

  • Ymgysylltu Strategol a Chyfathrebu
  • Gwybodaeth Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid Digidol
  • Y Gymraeg
  • Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu
  • Datblygu’r Gweithlu

Caiff pob grŵp ei gadeirio gan aelod o'r Bwrdd ac maent yn ystyried tystiolaeth ac yn cynghori ar y camau nesaf o ran datblygu argymhellion y bwrdd dros dro. Mae rhagor o wybodaeth am y grwpiau ar gael yma.

Hoffem wahodd rhagor o ddatganiadau o ddiddordeb i ymuno â'r grwpiau hyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o Grŵp Cyfranogi ar Weithredu, anfonwch e-bost i GwaithIeuenctid@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn datganiadau o ddiddordeb yw dydd Gwener 12 Ebrill 2024.

Ymgysylltu â phobl ifanc – cyfle cyffrous!

Un o brif agweddau ffocws Grŵp Cyfranogi ar Weithredu 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu' y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid yw datblygu model llywodraethu a arweinir gan bobl ifanc. Cafodd rhai enghreifftiau o wahanol fodelau eu rhannu yn y weminar ym mis Ionawr 2023 (bydd recordiad yn cael ei rannu yn fuan).

Ein bwriad yn awr yw cynnull grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Gymru ar gyfer sesiwn breswyl yn ystod mis Awst 2024. Byddant yn edrych ar hyn yn fanylach er mwyn deall yn well sut y maent yn rhan o wneud penderfyniadau, beth sy'n gweithio'n dda a beth yw'r rhwystrau.

Hoffem benodi sefydliad (neu bartneriaeth o sefydliadau) i fod yn gyfrifol am gydlynu a chyflwyno'r sesiwn breswyl hon, gan weithio'n agos gyda'r Grŵp Cyfranogi ar Weithredu 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu' i lunio cynnwys y sesiwn. Os hoffech ddysgu rhagor am hyn, anfonwch e-bost i GwaithIeuenctid@llyw.cymru.

banner

Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru

15 Ebrill 2024, 1-3yp

Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad ar Weithredu Datblygu'r Gweithlu, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Fel rhan o'r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, 'Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru', rydym ni, fel GCG, yn cydnabod yr angen i ddeall yn well pan fydd angen gwaith pellach i helpu ddatblygu'r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol i greu gweithlu medrus iawn sydd yn gallu bodloni anghenion cymhleth a chyfnewidiol cynyddol pobl ifanc ledled Cymru.

Fel sydd yn wir i'r mwyafrif o broffesiynau, mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a chadw Gweithwyr Ieuenctid. Mae aelodau'r GCG yn ymdrechu i ddatblygu strategaethau sydd yn mynd i'r adael â'r materion yma. Yn y gweminar yma, cewch glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill a chewch gyfle i ofyn cwestiynau a chynnig syniadau.

Bydd y gweminar yn cynnwys:

  • Cipolwg ar waith yr GCG
  • Sesiynau ymgysylltu cynulleidfa ar: - Ydy'r model cyflenwi gweithlu presennol yn addas i'w ddiben? - Ble gellir dyrannu cyllid datblygu'r gweithlu? - Sut gallwn ni hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel opsiwn gyrfa?

Gobeithiwn y gallech ymuno â ni am sgwrs ddifyr dros gyfnod o ddwy awr gydag aelodau'r GCG - os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi o flaen llaw wrth i chi gadw eich lle.

Mae'r cyflwynwyr yn cynnwys:

  • Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent - Cadeirydd GCG Datblygu'r Gweithlu
  • Steve Drowley, Cadeirydd ETS Cymru Wales
  • Emma Chivers, Ymgynghorydd Gwaith Ieuenctid
  • Darryl White, Swyddog Datblygu'r Gweithlu
  • Donna Robins, Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru

Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i'r drafodaeth yma. 

Cofrestrwch am ddim heddiw: https://lu.ma/lmkr04fv

Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael.

WG logo

Strategaeth iechyd meddwl a lles Llywodraeth Cymru a Strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd i'n helpu i lunio ein strategaethau yn y dyfodol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddyliol, ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi ein strategaethau blaenorol, ac rydym bellach wedi cyhoeddi Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, a Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd i Gymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 16 wythnos o hyd. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 11 Mehefin 2024. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth:

Iechyd meddwl a llesiant meddyliol

Atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Mae adnoddau ar gael i'ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i'w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i'r ymgyngoriadau. Mae adnoddau ar gael ar gyfer oedolion a phobl ifanc.

Cysylltwch â'r Blwch Post Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed i ofyn am becynnau ymgysylltu ar gyfer y strategaethau.

Os ydych chi'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac os hoffech gael pecyn ymgysylltu neu gymorth i gynnal sesiwn ar y strategaethau newydd, cysylltwch â mhstrategy@copronet.wales

Mae'n bwysig inni fod adborth yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, felly mae croeso ichi rannu'r neges hon ag eraill.

Cymorth a chefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl eich hun.

Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch iechyd meddwl, gallwch ffonio Llinell Gymorth CALL: 0800 132 737

Nyth

 

Fframwaith NYTH

Mae fframwaith NYTH yn fframwaith sy’n cefnogi sefydliadau i gydweithio i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles cydgysylltiedig i fabanod, plant a phobl ifanc. Mae fframwaith NYTH yn darparu set o egwyddorion allweddol sy’n alinio’n agos â gwerthoedd craidd gwaith ieuenctid, ac mae gweithwyr ieuenctid yn cael eu henwi fel oedolion pwysig a gwerthfawr ym mywydau pobl ifanc y gellir ymddiried ynddynt.

Er mwyn cefnogi sefydliadau i roi fframwaith NYTH ar waith, mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-gynhyrchu hyfforddiant NYTH (dwy sesiwn 30 munud i’w cwblhau ar amser sy’n gyfleus i chi) ac offeryn hunanasesu NYTH gyda phobl ifanc. Mae’r hunanasesiad yn arf adfyfyriol i dimau ei ddefnyddio i ymgorffori egwyddorion allweddol NYTH yn eu gwaith ac i gysylltu gyda phartneriaid eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu ‘system gyfan’ o gymorth ar gyfer eu pobl ifanc.

Rydym yn chwilio am sefydliadau gwaith ieuenctid i ddefnyddio'r offeryn hunanasesu ac adborth ar eu profiad. Gellir defnyddio adborth a ddarperir hefyd fel enghraifft o arfer da i'w rannu'n genedlaethol gyda gwasanaethau eraill yn ogystal â gyda Gweinidogion.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig adborth ar yr adnoddau hyn, e-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Yng Nghymru

Lleisiau ifanc yn llywio’r Siarter Plant

Umaira Chaudhary

Yn ddiweddar, bu Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn cydweithio â’r tîm Profiad Cleifion CAMHS i greu Siarter Plant ar gyfer y bwrdd iechyd.

 

Bu’r pobl ifanc yn y clybiau ieuenctid wrthi’n weithgar yn rhannu eu safbwyntiau a’u syniadau, gan wneud cyfraniad hollbwysig at ddylunio’r ddogfen.

 

Nod y cydweithio hwn oedd grymuso pobl ifanc i rannu’u syniadau a chyfrannu’n ystyrlon at greu’r Siarter Plant.

Drwy fynd ati’n bwrpasol i ymwneud â phobl ifanc, gall y Siarter Plant adlewyrchu’n well eu hanghenion a’u dyheadau. Bydd eu gwaith dylunio’n cael ei ddangos ar wefannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’u cynnwys yn y eu sianeli cyfathrebu.

Roedd Becca Lloyd, Gweinyddwr Cyfranogi ac Ymgysylltu CAMHS, yn ddiolchgar tu hwnt i’r gweithwyr ieuenctid a’r cyfranogwyr ifanc:

 “Fe wnaethon ni wir fwynhau gweithio gyda phawb, ac rydyn ni’n hynod o falch o’r collage a luniwyd gan ddefnyddio gwaith celf anhygoel y bobl ifanc. Bydd hwn yn cael ei ddangos yn amlwg ar wefan y Siarter Plant. Diolch i bawb a gymerodd ran!”

O Amgylch y Byd

Dathlu canrif o alw am heddwch: Neges yr Urdd 2024

Umaira Chaudhary

Bydd neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni yn dathlu canrif ers Deiseb Heddwch ryfeddol menywod Cymru yn 1923-24, gan ddangos bod angen galw am heddwch o hyd, gan mlynedd yn ddiweddarach.

Ganrif yn ôl, ar 19 Chwefror 1924, agorwyd cist Deiseb Heddwch Menywod Cymru ac arni 390,296 o lofnodion, a hynny gerbron 600 o fenywod o’r Unol Daleithiau yn y Baltimore Hotel yn Efrog Newydd.

Roedd y ddeiseb yn mynegi gobaith am heddwch yn y byd, ac mae’r stori wedi ysbrydoli’r Urdd i annog grŵp o fenywod ifanc i ddod ynghyd i greu neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.

Mae’r neges yn pwysleisio pwysigrwydd gweithredu a galw’n gyson am heddwch. Mae’n mynnu bod yn rhaid stopio cyflafanau, rhyfeloedd a thrais, ac mai cydweithio, angerdd a gobaith yw’r grymoedd a all arwain tuag at well dyfodol.

Gweithdy neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024: Paratowyd Neges Heddwch 2024 mewn gweithdy yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, a hwnnw wedi’i arwain gan fenywod. Dan arweiniad Elan Evans a Casi Wyn, trafodwyd heddwch a deiseb menywod Cymru yn 1923-24. Cafodd y menywod ifanc eu hysbrydoli gan westeion arbennig fel Mererid Hopwood, gan fynd ati i lunio neges sy’n galw am heddwch, am gydweithio ac am obaith.

Bydd y neges ym ymddangos mewn fideo ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd ar 17 Mai 2024.

Cefnogwch yr ymgyrch bwysig hon, os gwelwch yn dda.

Heart

 

Wythnos Dim Iaith Casineb

17 – 20 Mehefin 2024

Mae'r alwad am gyfranogwyr ar gyfer rhifyn cyntaf Wythnos Dim Iaith Casineb, bellach ar agor. Trefnir yr wythnos tua 18 Mehefin, Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Iaith Casineb, a bydd yn cael ei gynnal yn Strasbwrg rhwng 17 a 20 Mehefin 2024.

Nod Wythnos Dim Iaith Casineb yw darparu lle i drafod datblygiadau cyfreithiol a pholisi diweddar ac arferion da gweithredu, arloesi a meithrin cefnogaeth rhwng partneriaid allweddol ym maes brwydro yn erbyn iaith casineb. Mae presenoldeb gwahanol randdeiliaid yn darparu cyfleoedd rhwydweithio a all alluogi dull cynhwysfawr o atal a brwydro yn erbyn iaith casineb mewn gwledydd.

Sut i wneud cais i'r alwad hon

Rhaid i bob ymgeisydd wneud cais drwy lenwi'r ffurflen gais sydd ar gael yma - https://forms.office.com/e/trUANeVtXC 

Rhaid cyflwyno'r ffurflen gais ar-lein erbyn 1 Ebrill 2024, 23.59 CET. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Stefan Manevski yn anti-discrimination@coe.int 

Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Umaira Chaudhary

Mae Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid Cymru yn adnodd unigryw i sefydliadau gwaith ieuenctid ar gyfer hunanasesu eu hansawdd ar sail tair lefel, Efydd, Arian ac Aur, cyn gwneud cais am asesiad allanol ar gyfer y safon Marc Ansawdd.

Dros y tair blynedd diwethaf, Cyngor y Gweithlu Addysg sydd wedi dal y cytundeb i redeg y Marc Ansawdd ar ran Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gweld nifer o sefydliadau newydd yn gwneud cais llwyddiannus am y Marc Ansawdd, ac maent wedi dweud wrthym pa mor werth chweil yw’r broses.

Yn dilyn proses aildendro ar gyfer y cytundeb, gallwn gyhoeddi bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi bod yn llwyddiannus eto yn eu cais am y gwaith hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y Marc Ansawdd a sut i wneud cais, cliciwch yma!

Gwobrau’r Marc Ansawdd

Llongyfarchiadau i’r rheini sydd wedi cael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd neu a adnewyddodd eu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ddiweddar. Mae’n wych gweld eich holl waith caled yn dwyn ffrwyth ac yn cael ei gydnabod.

QM Efydd

Efydd:

  • Promo Cymru
  • Urban Circle
  • MAD Abertawe
  • Youth Cymru

Arian:

  • Ymddiriedolaeth y Tywysog
  • Youth Cymru
  • YMCA Abertawe
  • Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd
QM Arian
QM Aur

Aur:

  • Gwasanaethau Ieuenctid Castell-nedd  Port Talbot
  • Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili

Cyngor y Gweithlu

Addysg yn rhagori ar y disgwyliadau ar gyfer Ansawdd Gwaith Ieuenctid

Umaira Chaudhary

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn falch o gyhoeddi llwyddiant y cynllun Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Er bod y prosiect wedi bod yn un heriol, mae’n sicr wedi gwella sicrwydd ansawdd mewn gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae adroddiad gwerthuso a luniwyd yn dangos sut y rhagorwyd ar ddisgwyliadau gwreiddiol Cyngor y Gweithlu Addysg o’r contractau. Drwy gydweithio â phartneriaid a gweithwyr ieuenctid proffesiynol, mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi gwreiddio’r Marc Ansawdd yn llwyddiannus yn y sector.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn dal wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Marc Ansawdd fel symbol o ragoriaeth, ac mae’n edrych ymlaen at lwyddiant cyson drwy barhau i gydweithio ac ysbrydoli pobl.

Mae’r adroddiadau gwerthuso ar gael i’w lawrlwytho:

Cymraeghttps://www.ewc.wales/site/index.php/cy/achredu/y-marc-ansawdd-ar-gyfer-gwaith-ieuenctid-yng-nghymru/ynghlch-y-marc-ansawdd

Glywsoch chi?

Umaira Chaudhary

Cyrsiau Hyfforddiant am ddim i Ymarferwyr Gwaith Ieuenctid yng Nghymru!

Mae Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant am ddim i ymarferwr gwaith ieuenctid yng Nghymru. Efallai fod gennych chi ddiddordeb mewn gwella’ch sgiliau ym maes iechyd meddwl a lles, mewn dysgu am iechyd rhywiol yn y gymuned, neu mewn gwybod sut i oruchwylio mewn cyd-destun gwaith ieuenctid. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, bydd cwrs addas i chi.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gwrs, ewch i https://www.eventbrite.com/cc/professional-learning-for-youth-workers-2884249

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hyfforddiant, neu i gynnig awgrymiadau am hyfforddiant, cysylltwch â ni yn:  ets@wlga.gov.uk neu anfonwch neges ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Hyfforddiant am ddim i gyflawni eich cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith ieuenctid!

 

Umaira Chaudhary

Efallai eich bod yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim i gael eich cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. Mae hyn yn wir os ydych chi yn gweithio â phobl ifanc o fewn sefydliad gwaith ieuenctid ar hyn o bryd ac nad oes gennych Dystysgrif Ymarfer Gwaith Ieuenctid Lefel 3, neu os ydych wedi cofrestru â Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar hyn o bryd gyda chymhwyster Lefel 2 sy’n golygu na allwch gadw eich cofrestriad o 31 Mai 2025 –am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

I gael mynediad at hyfforddiant am ddim trwy gydol 2024, cofrestrwch eich diddordeb drwy gysylltu â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru drwy e-bostio ets@wlga.gov.uk neu drwy gyflwyno datganiad o ddiddordeb yma.

Mae’r cyllid ar gyfer yr hyfforddiant hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi anghenion hyfforddiant a datblygu gweithwyr proffesiynol gwaith ieuenctid. Bydd hyfforddiant arall ar gael gydol y flwyddyn a gallwch gael i newyddion diweddaraf am gyfleoedd drwy gofrestru â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.

NAEL

Cynhadledd Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050

Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050 ar ddydd Mercher 1 Mai 9yb-4yp yn Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB.

Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle i arweinwyr addysgol o bob lleoliad ddathlu eu llwyddiannau wrth ddatblygu’r Gymraeg yn eu sefydliadau ac archwilio’r camau nesaf i wireddu’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn cynnwys:

  • Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin
  • Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr, Mentrau Iaith
  • Angharad Lloyd Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau (Cenhedloedd), Grŵp City and Guilds
  • Yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
  • Natalie Jones, Gweithredwr Cynnwys Addysg i S4C
  • Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg

Bydd y gynhadledd hon drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd cyfieithiad byw ar gael.

Rhad ac am ddim, cofrestru’n hanfodol. Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050 - National Leadership Wales (nael.cymru)

Umaira Chaudhary

Arolygon sgiliau a hyfforddiant ar y ffordd yn fuan!

 

Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn anfon arolygon at ymarferwyr gwaith ieuenctid ac arweinwyr sefydliadau gwaith ieuenctid i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am anghenion hyfforddiant yn y sector, er mwyn eu galluogi i ddarparu hyfforddiant lle mae angen hwnnw fwyaf.

Mae dau sefydliad wrthi’n treialu’r arolwg.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ym mis Mawrth.

Cadwch olwg ar eu gwefan am y diweddaraf: www.wlga.gov.uk

Umaira Chaudhary

Cyngor y Gweithlu Addysg yn lansio ymgynghoriad am gynlluniau drafft

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi lansio dau ymgynghoriad sy’n gofyn barn pobl am eu fersiynau drafft o’u Cynllun Strategol 2024-27 a’u Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28. Mae’r dogfennau pwysig hyn yn dangos beth fydd blaenoriaethau a chyfeiriad y sefydliad.

Mae modd rhoi adborth nawr.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 12:00 ddydd Llun 25 Mawrth 2024.

Achredu ac arolygu – y berthynas berffaith?

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, ar y cyd ag Estyn, wedi ysgrifennu blog am sut y gall achrediadau’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid gyd-fynd ag arolygiadau.

Darllenwch i weld beth sydd gan Andrew Borsden (Cyngor y Gweithlu Addysg) a Paul O’Neill (Estyn) i’w ddweud yn y blog ar wefan  Cyngor y Gweithlu Addysg.

Canllawiau arferion da Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi diweddaru ei ganllawiau arferion da er mwyn adlewyrchu’r tueddiadau a’r arferion gorau diweddaraf o bob rhan o’r byd addysg.

Maen nhw’n rhoi canllawiau i gofrestreion am bynciau amrywiol, o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a threchu hiliaeth i berthnasau gweithio cadarnhaol, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol, ac iechyd meddwl a lles.

Mae’r canllawiau wedi’u datblygu i gyd-fynd â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n cyflwyno’r safonau sy’n ddisgwyliedig gan gofrestreion.

Mae’r canllawiau i'w gweld ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Umaira Chaudhary

Sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol, Gwanwyn 2024: Digwyddiad tegwch a chynwysoldeb ar-lein

Bydd y sgwrs ar-lein hon gan y Rhwydwaith Cenedlaethol yn canolbwyntio ar helpu ymarferwyr i gnoi cil am sut y gall y Cwricwlwm i Gymru hybu tegwch a chynwysoldeb, gan oresgyn y rhwystrau sy’n gallu cyfyngu ar gynnydd dysgwyr, a sicrhau bod pwyslais cyfartal ar addysg pob dysgwr drwy’r continwwm 3-16.

Dydd Mawrth 23 Ebrill 9:15am – 12:30pm

Sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol, Gwanwyn 2024: Tegwch a chynwysoldeb | Freshwater (eventscase.com)

Addysgwyr Cymru

Gwefan Addysgwyr Cymru (sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan Gyngor y Gweithlu Addysg) yw’r wefan berffaith i’r rheini sy’n hysbysebu’r cyfleoedd swyddi diweddaraf. Mae modd i sefydliadau gwaith ieuenctid hysbysebu ar Addysgwyr Cymru yn rhad ac am ddim, gan arbed miloedd o bunnoedd i chi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i greu eich proffil cyflogwr, ewch i'r wefan heddiw.

Byddwch yn Rhan o'r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru ar Twitter i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Meic CYM Gif

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddir y cylchlythyr bob 4 mis i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@IeuenctidCymru