Bwletin Newyddion: Ymgyrch y gwanwyn Croeso Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

19 Ionawr 2024


London

Ymgyrch y gwanwyn Croeso Cymru

Rydym yn gobeithio y bydd llawer ohonoch erbyn hyn wedi gweld ein negeseuon a'n hysbyseb newydd ar gyfer ymgyrch y gwanwyn, boed ar deledu / drwy ffrydio, y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed ar uchder o 20m ar oleuadau eiconig Piccadilly yn Llundain!  Dechreuodd Croeso Cymru 2024 gyda gweithgaredd newydd beiddgar i sefyll allan yn y farchnad ddomestig gystadleuol, ar yr adeg dyngedfennol hon o'r flwyddyn, pan fydd darpar ymwelwyr yn dechrau gwneud cynlluniau.

Mae ymgyrch Awydd Antur yn rhan fawr o weithgarwch y gwanwyn sy'n adeiladu ar Llwybrau ac wedi ei lansio ar Ŵyl San Steffan. Gan ddangos lleoliadau a chynhyrchion o bob cwr o Gymru gan gynnwys Rheilffordd Ucheldir Ffestiniog, y pwll sba yng Ngwesty Sba St Brides, hwyl ar y traeth yng Ngheredigion a gweithgareddau yng Nghaerdydd a Phortmeirion.

Caiff yr ymgyrch ei rhedeg ar deledu llinol, ar alw/dal i fyny, tu allan i'r cartref a sianeli ffrydio gan gynnwys Disney Plus - 'cartref' y DU i Welcome to Wrexham.

Wrth gwrs, dim ond un rhan o ystod eang o weithgareddau yw'r hysbyseb a fydd yn gyrru traffig i'r wefan lle gall ymwelwyr ddarganfod mwy am gynhyrchion a chyrchfannau ledled Cymru.

Beth arall sy'n digwydd?

Yn ogystal a teledu mae’r ymgyrch hefyd yn cynnwys gweithgarwch digidol  helaeth â thâl, partneriaethau cyfryngau (e.e. o Conde Nast i Mumsnet) a gweithgarwch Tu Allan i'r Cartref (OOH). Eleni, yn ogystal â Goleuadau Piccadilly, bydd teithwyr rhyngwladol sy’n ymweld a Llundain yn ogystal â chymudwyr yn mwynhau blas ar Gymru drwy weithgarwch mewn gorsafoedd ar y brif linell (danddaearol ac uwchddaearol) a lleoliadau ffyrdd allweddol.

Edrychwch ar y ffilm trosolwg o weithgawch goleuadau Llundain a rhowch wybod inni os ydych chi wedi gweld goleuadau Llundain â'ch llygaid eich hun hefyd. Aeth Gwesty a Sba St Brides (perchennog Andrew Evans) ar daith i weld yr OOH yn Llundain a dywedodd:

“Pan wnaethon ni brynu'r gwesty 25 mlynedd yn ôl, ni allem fod wedi dychmygu y byddai'r ddelwedd yma ar sgrin fwyaf eiconig y byd a sgrin fwyaf Ewrop yn lleoliad mwyaf cydnabyddedig y byd. Mae ein tîm yng Ngwesty a Sba @StBrides mor falch o gael ein sba arbennig, unigryw wedi'i gynnwys yn ymgyrch hyrwyddo presennol Croeso Cymru yn Piccadilly Circus...mae Saundersfoot bendant ar y map. Mae'r ymateb a'r adborth wedi bod ar unwaith ac yn anhygoel gartref ac yn rhyngwladol.”

Pwy sy'n cael eu targedu?

Mae cynulleidfaoedd ledled y DU, yng Nghymru yn cael eu targedu ac am ddadansoddiad llawn o fathau o gynulleidfaoedd gallwch weld ein Canllaw ar y Gynulleidfa. Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu'n rhyngwladol yn yr Almaen ac Iwerddon ac yn cyflwyno i'r cyfryngau yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae teitlau Unol Daleithiau gan gynnwys y New York Times, Forbes a Travel and Leisure wedi cyhoeddi erthyglau am Gymru. 

Hynt yr ymgyrch

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r ymgyrch wedi bod yn gyrru traffig i croeso.cymru sy'n cynnig llawer o wybodaeth am gynnyrch a chyrchfannau ledled Cymru. Byddwn yn adrodd yn ôl ar y canlyniadau yn ddiweddarach yn y gwanwyn ac yn diweddaru pedwar fforwm twristiaeth rhanbarthol ar hynt yr ymgyrch. Yn ogystal â hynny, yn hollbwysig, byddwn yn cael adborth ychwanegol gan y gynulleidfa drwy ein rhaglen arolwg defnyddwyr. Mae ein holl waith yn cael ei lywio gan syniadau ac adborth defnyddwyr a'r diwydiant, fel y gallwn addasu negeseuon a sut y caiff yr ymgyrch ei chyflenwi. 

Ac yn olaf...

... os ydych chi'n pendroni beth yw'r gerddoriaeth ar yr hysbyseb, mae Croeso Cymru wedi cydweithio gydag Adwaith, Enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Cymru o Sir Gaerfyrddin gyda'u trac "Lan y Môr" sy'n darparu trac sain addas i weithgarwch yr ymgyrch. 

“Pan ofynnwyd i ni fod yn rhan o ymgyrch newydd Croeso Cymru, roedden ni wrth ein bodd. Rydyn ni mor falch o’r ffaith ein bod ni’n creu trwy’r Gymraeg ei bod hi’n wych i ni arddangos ein cân Lan y Môr ochr yn ochr â rhai o lefydd gorau Cymru a mae pobl wastad yn gweld cerddoriaeth Gymraeg yn ddiddorol.” (Adwaith)

A pheidiwch ag anghofio, os colloch chi ni yn cyflwyno yn Sioeau Teithiol yr Hydref, gallwch barhau i gael mynediad at gyflwyniad llawn y trosolwg marchnata yn ogystal ag ystod o wybodaeth sy'n ymddangos ym mhob un o'r digwyddiadau.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram