Bwletin Newyddion: Cyfleoedd i Arddangos mewn Arddangosfeydd Digwyddiadau Busnes Byd-eang 2024

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

10 Ionawr 2024


Business Events

Cyfleoedd i Arddangos mewn Arddangosfeydd Digwyddiadau Busnes Byd-eang 2024

Mae tîm Cwrdd yng Nghymru (rhan o Ddigwyddiadau Cymru) yn arddangos gyda stondin â brand Cymru Wales mewn pedwar digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes yn 2024:

  • IMEX, Frankfurt 14–16 Mai 2024
  • The Meetings Show, ExCel, Llundain 19–20 Mehefin 2024
  • IMEX America, Las Vegas 08–10 Hydref 2024
  • IBTM World, Fira, Barcelona 19–21 Tachwedd 2024

Er mwyn cefnogi cyflenwyr Digwyddiadau Busnes sydd eisoes wedi ennill eu plwyf yng Nghymru a'r rheiny sydd yn datblygu eu cynnyrch, cynnigir hyd at 10 o leoedd ym mhob arddangosfa a'r cyfle i arddangos ar bafiliwn Cwrdd Yng Nghymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 4pm, 22 Ionawr 2024.

Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Cwrdd yng Nghymru CwrddyngNghymru@llyw.cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram