Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau

Rhagfyr 2023

 
 

Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladu yng Nghymru - sydd wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau yng Nghymru.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter gan ddefnyddio @NewidHinsawdd

Neges gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James

Rwy'n falch o rannu diweddariad ar gynnydd ar y camau yr ydym yn eu cymryd, ynghyd â Phlaid Cymru, i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Mae cynllun i fynd i'r afael â risgiau diogelwch tân yng Nghymru ar gyfer pob adeilad 11 metr a throsodd yng Nghymru.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cynllun nawr i fynd i'r afael â materion diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl 11 metr a throsodd.

Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i adeiladau sydd â chladin. Cymru yw'r unig wlad yn y DU i wneud yr ymrwymiad hwn.

Ym mis Rhagfyr 2023, bydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer prisio cladin fydd yn cynnwys Cymru.

Mae hwn yn gam mawr o ran sicrhau bod y broses brisio ar gyfer fflatiau mewn blociau sydd â phroblemau cladin yn gyson ac agored.

Bydd y canllawiau diwygiedig yn helpu priswyr a benthycwyr i wneud penderfyniadau a bydd hynny wedyn yn lleihau'r gwrthdaro a'r oedi i brynwyr a gwerthwyr cartrefi ac i lesddeiliaid sydd am werthu neu ail-forgeisio eu cartrefi.

Bydd y canllawiau'n adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau i briswyr a benthycwyr fod llwybrau wedi'u hariannu i wneud y gwaith cyweirio o ran materion diogelwch tân, heb unrhyw gost i lesddeiliaid, ar bob adeilad preswyl yng Nghymru 11 metr neu fwy o uchder. Mae hyn p'un a yw'r gwaith atgyweirio'n gyfrifoldeb partneriaid yn y sector cymdeithasol, datblygwyr neu'n adeiladau amddifad, lle nad oes datblygwr atebol ar gael i wneud y gwaith.

Valuation approach for properties in residential buildings with cladding
Cladding External Wall System (EWS) FAQs

Contract y Datblygwr

Mae deg o brif ddatblygwyr y DU eisoes wedi arwyddo contract Llywodraeth Cymru.

Mae'r datblygwyr hyn yn parhau i drafod â Llywodraeth Cymru yn y cyfarfodydd monitro contractau chwarterol, yn ogystal ag yn anffurfiol, i fynd i'r afael â phryderon penodol y mae lesddeiliaid a phreswylwyr yn eu dwyn i'n sylw.

Ar hyn o bryd mae gwaith cyweirio yn mynd rhagddo mewn 34 o adeiladau, ar safleoedd fel Aurora, Davids Wharf, Prospect Place a Century Wharf.

Amcangyfrifir y bydd gwaith yn dechrau ar 34 adeilad arall yn 2024.

Mae swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio gyda datblygwyr eraill na chafodd eu cynnwys yn y garfan gyntaf o ddatblygwyr i lofnodi'r contract.
Rydym yn falch o gadarnhau bod Lendlease bellach wedi llofnodi Contract y Datblygwr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym mewn trafodaethau cadarnhaol gyda Watkin Jones.

Datblygwyr llai

Gallwn hefyd gadarnhau bod gennym ddull cytunedig o weithio gyda datblygwyr llai.

Rydym wedi ystyried sut rydym yn cefnogi'r cwmnïau hynny na allant dalu costau cyweirio llawn, trwy Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru, tra'n sicrhau y bydd y rhai sy'n gallu talu, yn talu.

Bydd hyn yn diogelu'r buddion cymdeithasol ac economaidd y mae'r datblygwyr hyn yn eu cynnig i'r cymunedau lle maent yn gweithio.

Cynllun Adeiladau Amddifad

Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gadarnhau ein bod wedi lansio ein cynllun Adeiladau Amddifad, sy'n darparu llwybr i gyweirio materion diogelwch tân ar gyfer adeiladau amddifad a nodwyd hyd yma.

Mae'r gwaith o baratoi amserlenni gwaith ar gyfer yr adeiladau hyn ar y gweill, ac rydym yn falch bod y gwaith eisoes wedi dechrau mewn nifer o'r adeiladau hyn, fel Kings Court, Casnewydd.

Mae gwaith yn parhau i sicrhau bod unrhyw adeiladau amddifad eraill a nodwyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru.

Felly, mae gan bob adeilad 11 metr a throsodd gynllun i fynd i'r afael â risgiau diogelwch tân yng Nghymru.

Datganiad o ddiddordeb i Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru yw'r porth i gymorth Llywodraeth Cymru o hydRydym yn annog yr holl Bersonau Cyfrifol nad ydynt eto wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i wneud hynny. Gellir cofrestru Datganiad o Ddiddordeb drwy dudalennau gwe Llywodraeth Cymru.

Cynllun y Sector Cymdeithasol

Er mwyn sicrhau bod pob adeilad 11 metr a throsodd mor ddiogel rhag tân â phosibl, mae ein cynllun sector cymdeithasol yn cwblhau'r darlun. Ar ôl rownd llwyddiannus o geisiadau am gyllid i'n Cronfa Diogelwch Adeiladu bresennol, gallwn gadarnhau bod £39 miliwn yn rhagor o gyllid wedi'i gymeradwyo.

Bydd cyfanswm o 131 o adeiladau yn elwa o'r gronfa hon, gyda'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym.

Cyngor cyfreithiol i lesddeiliaid

Rydym yn falch o ddweud, yn ogystal â'n cynnydd o ran diwygio'r drefn diogelwch adeiladu ac, yn allweddol, cyweirio adeiladau yng Nghymru, rydym yn darparu cymorth i aelwydydd unigol y mae pryderon diogelwch tân yn effeithio arnynt.

Rydym yn cydnabod cymhlethdod a chost proses gyfreithiol a chael y cyngor cywir i lesddeiliaid, felly rydym yn darparu cyngor cyfreithiol annibynnol i lesddeiliaid yng Nghymru sydd â phryderon am ddiogelwch tân eu hadeilad, neu'r gwaith sy'n cael ei wneud i'w cyweirio.

Bydd lesddeiliaid yn gallu cael gafael ar y cyngor cyfreithiol hwn drwy'r gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau, a fydd, lle bo'n briodol, yn cyfeirio lesddeiliaid at gyngor cyfreithiol arbenigol am ddim. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu i atal anghydfodau ac oedi costus. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn y broses o benodi cynghorydd cyfreithiol annibynnol arbenigol ac edrychwn ymlaen at rannu rhagor o fanylion am lansio'r gwasanaeth hwn yn fuan.

Diwygio'r drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru

Cytunwyd ar y set gyntaf o reoliadau ac mae'r rhain yn disgrifio beth yw adeilad risg uwch.

Bydd adeiladau sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hyn yn destun rheolaeth dynnach o ran pwy gaiff oruchwylio a chymeradwyo'r gwaith sy'n cael ei wneud. Bydd yna drefn newydd a gwell hefyd yn ystod y cyfnodau dylunio, adeiladu ac adnewyddu.

O fis Ebrill 2024 ymlaen, byddwn yn cyfyngu'r gwaith o oruchwylio adeiladau risg uchel newydd i'r corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol, gan gyflwyno system ddosbarthu newydd ar gyfer archwilwyr adeiladau cofrestredig. Gwneir hyn er mwyn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad perthnasol angenrheidiol sy'n cael cynghori'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau.

Fel rhan o'r amodau cofrestru, bydd yn rhaid i archwilwyr a chymeradwywyr gydymffurfio â safonau, codau a rheolau newydd. Bydd gofyn dilysu cymhwysedd archwilwyr adeiladu trwy gynllun trydydd parti.

Rydym yn bwriadu agor y broses gofrestru ym mis Ionawr 2024; fodd bynnag byddwn yn annog y rhai sydd angen cofrestru i ennill y blaen a threfnu bod eu cymhwysedd yn cael ei ddilysu ac yna'n gwneud cais i gofrestru cyn gynted â phosib."

Mae rhagor o wybodaeth am yr amodau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy'r newyddlen hon.

Mae gwaith yn parhau i ddiwygio gwaith cynllunio, adeiladu ac adnewyddu adeiladau risg uwch a'r system rheoli adeiladau yng Nghymru.

Cwestiynau cyffredin

Cwestiwn: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod datblygwyr yn gwneud gwaith i fynd i'r afael â risgiau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl 11 metr a throsodd yn unol â'r safonau gofynnol:
Ateb: Yn unol â chontract cyweirio'r datblygwr, bydd y datblygwr yn gyfrifol am sicrhau bod asesiad cymhwyso yn cael ei gynnal i'r safon briodol gan asesydd cymhwyso cymwys, annibynnol, sydd â phrofiad priodol. Er mai'r datblygwr fydd yn comisiynu'r asesydd, yr asesydd yn y pen draw fydd â'r cyfrifoldeb dros yr Asesiad Cymhwyso, yn hytrach na'r datblygwr.

Mae'r contract hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu'r asesiad cymhwyso i Weinidogion Cymru o fewn 20 diwrnod gwaith iddynt ei dderbyn. Gall Gweinidogion Cymru gynnal archwiliad o'r asesiad cymhwyso i benderfynu ei fod yn bodloni'r safon ofynnol.

Cwestiwn: Mae Llywodraeth Cymru wedi arolygu fy adeilad, felly pam fod y datblygwr yn gwneud hynny eto?
Ateb: Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu syrfewyr i gynnal Asesiad Risg Tân mewnol o'r adeilad, ac os oes cladin gan yr adeilad, i gynnal archwiliad ymwthiol ohono.

Ar gyfer rhai adeiladau mwy a chymhleth, efallai y bydd angen rhagor o waith arolygu i nodi maint llawn y gwaith.

Cwestiwn: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y deunyddiau a'r crefftwaith ar gyfer gwaith cyweirio'r Datblygwr yn bodloni'r safonau gofynnol?
Ateb: Yn ogystal â chwrdd â'r safonau ar gyfer asesu ac amserlennu gwaith, mae Contract Datblygwyr Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr ddefnyddio cwmnïau cymwys ac achrededig sydd ag yswiriant addas i ymgymryd â'r gwaith diogelwch tân.

Fel rhan o'r gwaith monitro a wnaed gyda Llywodraeth Cymru, rhaid i ddatblygwyr ddarparu manylion y cwmnïau y maent wedi'u penodi. Mae hawl gan Lywodraeth Cymru i archwilio'r wybodaeth hon i sicrhau bod y cymwysterau, yr achrediadau a'r yswiriant gan y contractwyr.

Os yw'r gwaith yn ddarostyngedig i Reoliadau Adeiladu, bydd yn rhaid iddynt hefyd fodloni'r safonau perthnasol.

Cwestiwn: Mae cladin ar fy adeilad, ond nid yw fy natblygwr yn ei newid?
Ateb: Mae'r safon ar gyfer nodi'r risg o ddiogelwch tân gyda system wal allanol (cladin) a'r gwaith sydd ei angen i leihau'r risgiau hyn yn cael ei wneud trwy Arfarniad Risg Tân o'r Wal Allanol ac asesiad PAS9980:22. Bydd yr asesydd yn ymgymryd â'r rhain ac yn cynnig gwaith i fynd i'r afael â'r risgiau. Mae'n bosibl na fydd y gwaith yn cynnwys newid y cladin, ond yn hytrach yn awgrymu mesurau a gwaith derbyniol i leddfu'r risg.

Mae'n bosibl y bydd gwahanol aseswyr yn cynnig atebion gwahanol i fynd i'r afael â risgiau tân. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na fydd pob dull arfaethedig yn cyflawni'r amcan o wneud yr adeilad mor ddiogel â phosibl pe bai tân. Er mwyn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth a chysondeb pellach wrth gymhwyso PAS 9980, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp arbenigol. Bydd y grŵp hwn yn cynhyrchu ystod eang o astudiaethau achos, a fydd yn edrych ar wahanol fathau o waith adeiladu a gwahanol lefelau o risgiau, er mwyn gallu hyrwyddo arferion gorau.

Deddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022

Dim ond rhai rhannau o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 sy'n gymwys i Gymru. Mae adran 1 y Ddeddf yn cynnwys trosolwg ac mae'r Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf hefyd yn ddefnyddiol wrth nodi pa adrannau sy'n gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cwestiwn: Pa rannau o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 nad ydynt yn gymwys i Gymru?

Er gwybodaeth yn unig y mae'r wybodaeth isod ac nid yw'n rhestr gyflawn. Sylwch fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno Deddf Diogelwch Adeiladau i Gymru cyn diwedd tymor y Senedd hon, a bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu pan fyddant ar gael.

  • Cofrestru adeiladau uchel iawn
    Mae rhai o'r dyletswyddau a osodir ar bersonau atebol yn Lloegr yn cynnwys y gofyniad i gofrestru'r adeilad. Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys i Gymru.
  • Gofyniad am dystysgrif Landlord
    Yn Lloegr, mae'n ofynnol i'r landlord ddarparu tystysgrif sy'n dangos nad yw'n bodloni'r amod cyfrannu cyn gallu trosglwyddo costau i lesddeiliaid. Mae'r gofyniad hwn wedi'i gynnwys yn Atodlen 8 i'r Ddeddf ac nid yw'r Atodlen honno'n gymwys i Gymru.
  • Y cysyniad o lesddeiliaid cymwys ac anghymwys
    Dim ond i Loegr y mae'r term 'prydles gymwys' yn gymwys. Mae adran 119 o'r Ddeddf yn amlinellu'r meini prawf y mae'n rhaid i'r brydles eu bodloni er mwyn cael ei hystyried yn 'gymwys' ac nid yw adran 119 yn gymwys i Gymru.
 
 
 

AMDANOM NI

Diwygio’r system bresennol ynghylch diogelwch adeiladau fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Dilynwch ni ar Twitter:

@NewidHinsawdd