Sioeau teithiol diwydiant Croeso Cymru 2023 – Cynnwys ar gael nawr!
Diolch i'r holl fusnesau a'r sefydliadau hynny a ddaeth i’n cyfres ddiweddar o sioeau teithiol lle rhanwyd gwybodaeth ar y canlynol:
- Y prosiectau buddsoddi diweddaraf
- Cynlluniau marchnata strategol ac offer hawdd eu defnyddio i randdeiliaid
- Sut y gall Digwyddiadau Cymru weithio gyda'r diwydiant i sicrhau amrywiaeth o ddigwyddiadau
- Y canfyddiadau ymchwil a mewnwelediadau diweddaraf
Clywsom hefyd gan Cadeirydd pob Fforwm Twristiaeth Ranbarthol, a rhoddodd y siaradwyr gwadd isod gyflwyniadau rhagorol yr oeddem yn falch o'u recordio, gan bydd y cynnwys o ddiddordeb i lawer o randdeiliaid ledled Cymru:
- Martin Astley, Bike Park Wales
- Joe Bickerton, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Aled Rhys Jones, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
- Marten Lewis, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Helen John, Rheolwr Academi, Cyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone
Mae’r cyflwyniadau, ffilmiau a’r gwybodaeth a rannwyd yn y sioeau teithiol ar gael bellach a gellir eu lawrlwytho yma: Sioeau Teithiol Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant – hydref 2023 | Drupal (Llyw.cymru)
Mae ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid yn y digwyddiadau wyneb yn wyneb yma yn rhan allweddol o'n gwaith ac rydym bob amser yn gwerthfawrogi eich adborth.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|