Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Tachwedd 2023

Tachwedd 2023 • Rhifyn 030

 
 

Newyddion

Statws gwarchodedig ar gyfer dau fusnes bwyd a diod o Sir Benfro

Statws gwarchodedig gan dau cwmni bwyd a diod

Mae'r Pembrokeshire Beach Food Company a Velfrey Vineyard yn dathlu ar ôl ymuno â rhestr o gynhyrchwyr o Gymru i weld eu cynnyrch yn cael statws gwarchodedig.

Mae Velfrey Vineyard wedi derbyn Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) am ei gwinoedd Velfrey NV Traditional Method Sparkling Brut a 'Rhosyn' 2021 Traditional Method Vintage Sparkling Brut Rosé.

Wedi'i leoli yn The Old Point House ym Mae East Angle, mae'r Pembrokeshire Beach Food Company wedi derbyn statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig (PDO) am ei Bara Lawr Cymreig.

Enillwyr Cymru yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC

Enillwyr Cymru yn cael lle amlwg yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC

Fe wnaeth cynhyrchwyr o Gymru mwynhau llwyddiant yn seremoni fawreddog Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ar 25ain Hydref 2023.

Roedd yr enillwyr yn cynnwys y cynhyrchydd caws ac iogwrt o’r gogledd, Cosyn Cymru, a gipiodd brif wobr y noson, gan ennill gwobr ‘Cynhyrchydd Bwyd Gorau’ y DU.

Yr enillwyr eraill o Gymru oedd caffi Maasi’s Caerdydd, a gafodd ei enwi’n ‘Bwyd Stryd, Tecawê neu Fwyty Bach Gorau’ yn y DU. Yn y cyfamser, curodd Peterston Tea o Fro Morgannwg gystadleuaeth frwd gan ei gyd-gynhyrchwyr Cymreig, Pembrokeshire Lamb a Velfrey Vineyard, i ennill gwobr ‘Cynhyrchydd Bwyd a Diod Gorau Cymru gyda BBC Cymru Wales’.

Sêr Y Dyfodol Blas Cymru

Sêr Y Dyfodol Yn Disgleirio Yn BlasCymru/TasteWales 2023

Bu grŵp o ‘Sêr y Dyfodol’ o ddiwydiant bwyd a diod Cymru yn arddangos eu cynnyrch ym mhrif ddigwyddiad bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023.

Wedi'i gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd (25-23 Hydref 2023), daeth BlasCymru/TasteWales â phrynwyr, cyflenwyr a busnesau o'r diwydiant bwyd a diod a oedd yn awyddus i rwydweithio a darganfod cynnyrch newydd ynghyd. 

Wisgi Cymreig Brag Sengl

Wisgi Cymreig Brag Sengl Distyllfa Aber Falls yn cael ei warchod

Mae Distyllfa Aber Falls yng Ngogledd Cymru wedi ymuno â'r rhestr o gynhyrchwyr o Gymru sydd wedi cael statws gwarchodedig y DU am ei Wisgi Cymreig Brag Sengl.

Ymwelodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths â'r cwmni yn Abergwyngregyn ddydd Iau i longyfarch y tîm ar ennill y statws mawreddog.

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru a sicrhaodd statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU ym mis Gorffennaf.

Cofrestrwch gyda Cywain

Cofrestrwch am fwy o gefnogaeth!

Mae'r prosiect Cywain a ariennir gan Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cymorth o ansawdd uchel i gynhyrchwyr bwyd a diod, o fusnesau newydd i fusnesau maint micro, busnesau bach a rhai o faint canolig. Mae tîm Cywain, o phob cwr o Gymru, yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i bob cam o daith twf eich busnes, gan eich helpu i gyflawni eich potensial twf llawn. P’un a ydych yn newydd i Cywain, neu wedi gweithio gyda ni yn y gorffennol, cofrestrwch nawr gan ddefnyddio’r ddolen isod:

https://menterabusnes.my.salesforce-sites.com/registration

Digwyddiadau

FoodEx Japan

FoodEx Japan

Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Foodex, Japan rhwng 5 – 8 Mawrth 2024. 

Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw 6 Rhagfyr 2023.

Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â’ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin.

Gulfood Dubai 2023

Gulfood Dubai

Os hoffech arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Bwyd a Diod Cymru yn Gulfood, Dubai rhwng 19 Chwefror a 23 Chwefror 2024. Brysiwch! Gan mai dim ond ychydig o leoedd sydd gennym ar ôl. E-bostiwch ffurflen gais neu fwy o wybodaeth nawrshirley.mcgilvray@llyw.cymru 

Sgiliau Bwyd a Diod Cymru

Prosiect newydd yn cefnogi digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru o fewn ysgolion

Mae ymgysylltu efo pobl ifanc yn chwarae rhan amlwg o fewn prosiect newydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac arweinir gan Menter a Busnes. 

Darganfyddwch sut mae’r prosiect wedi bod yn gweithio efo ysgolion yn ystod y cyfnod cyn Wythnos Hinsawdd Cymru (4ydd-8fed Rhagfyr) i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, hyrwyddo rhinweddau cynaliadwyedd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ac annog myfyrwyr i ystyried gyrfa o fewn y sector.

Wythnos Hinsawdd Cymru

Wythnos Hinsawdd Cymru

Hyrwyddo Wythnos Hinsawdd Cymru o fewn eich sefydliad a’ch rhwydweithiau

Byddem wrth ein bodd yn rhannu manylion Wythnos Hinsawdd Cymru â chynifer â phosibl o bobl, er mwyn i bobl a sefydliadau ledled Cymru allu cymryd rhan.

FareShare Cymru

FareShare Cymru – Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan

Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan yn darparu cyllid i fusnesau bwyd a diod leihau bwyd dros ben, gan helpu i droi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol. Trwy gymorth ariannol, mae busnesau sy’n gweithio gyda FareShare Cymru yn gallu ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau, grwpiau cymunedol lleol a phobl fregus ledled Cymru.

Mae'r rhaglen nid yn unig yn lleihau gwastraff ond hefyd yn meithrin effaith gymdeithasol gadarnhaol, gan helpu gyda chynaeafu, llafur ar gyfer prosesu a phecynnu a chostau sy'n gysylltiedig â thrin a storio diogel a chludo.

Mae cyllid ar gael tan fis Mawrth 2025, felly ymunwch â FareShare Cymru i ail-lunio tirwedd y diwydiant bwyd drwy gofleidio cynaliadwyedd a chymorth cymunedol.

Rhaglen Twf: Credydau Treth - Ymchwil a Datblygu

Rhaglen Twf: Credydau Treth - Ymchwil a Datblygu

Os ydych chi’n fusnes bwyd neu ddiod sy’n buddsoddi mewn cynhyrchion a phrosesau newydd, yna mae'n bosib for credydau treth ymchwil a datblygu yn berthnasol i chi. 

Ond sut ydych chi'n hawlio a pha gofnodion sydd ei angen ar CThEM i gefnogi hawliadau?

Ymunwch â gweminar @Food & Drink Wales Scale Up Programme. Credydau Treth - Ymchwil a Datblygu: A yw’n werth eich amser a’ch trafferth?’ ar Zoom am 8:30yb ddydd Iau 7fed o Ragfyr.

Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/

tZMrdO2grD0uHt12F3Min4aZid5I-030_5jF#/registration

BlasCymru/TasteWales 2023: Arddangosfa fwyaf blaenllaw Cymru o fwyd a diod

Blas Cymru/TasteWales 2023

Wedi’i drefnu gan Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru), a’i gynnal unwaith bob dwy flynedd, BlasCymru/TasteWales yw prif ddigwyddiad
masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru. Mae’n tynnu ynghyd gynhyrchwyr bwyd a diod, prynwyr, cyflenwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a hynny o bob rhan o’r byd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW), Casnewydd (25-26 Hydref 2023).

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr chwarterol ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

Newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales