Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar gael nawr!

Tachwedd 2023

 
 

CYNNWYS

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Sharon Lovell

Gobeithio eich bod yn cadw’n dda.

Fe wnaeth y Bwrdd gyfarfod yn ddiweddar i ddechrau edrych ar rôl a chylch gwaith corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Roedd hyn yn flaenoriaeth i ni eleni, ynghyd â chynnal adolygiad ariannu a gwaith i gryfhau’r ddeddfwriaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Cafodd aelodau’r Bwrdd hefyd y pleser o gwrdd â phobl ifanc mewn gwahanol ddarpariaethau ieuenctid yng Nghwmbrân. Gobeithio y bydd cyfleoedd eraill i gynnal rhagor o ymweliadau yn y dyfodol!

Sharon chair word
p

Mae’r adroddiad ar gam cyntaf yr adolygiad annibynnol o ariannu gwaith ieuenctid wedi ei gyhoeddi.

Mae modd darllen yr adroddiad cychwynnol yma:

Adolygiad ariannu gwaith ieuenctid: adroddiad cychwynnol | LLYW.CYMRU

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu yn yr wythnosau nesaf a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hyd yma i ddatblygu a bwrw ymlaen ag argymhellion y Bwrdd Dros Dro, ynghyd â’r ffocws ar gyfer gwaith dros y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser, mae’n bleser gen i ddweud bod y broses beirniadu nawr wedi gorffen yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023. Derbyniwyd nifer fawr o enwebiadau gwych o bob cwr o Gymru. Canmolodd y bierniaid safon y prosiectau a’r enwebiadau. Cyhoeddir y teilyngwyr fis nesaf, felly byddwch yn barod am y newyddion ddechrau Rhagfyr!

Bydd cyfres o weminarau, yn canolbwyntio ar drafodaethau pob un o’r pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu, yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Bydd y cyntaf o’r rhain yn canolbwyntio ar waith y Grŵp ‘Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu’. Cadwch lygad am ragor o fanylion ynghylch y sesiynau hyn.

Roeddwn yn falch o glywed bod disgyblion lleol o Ysgol Bro Preseli wedi eu gwahodd i agoriad Pentre Ifan – gwersyll amgylcheddol a lles yr Urdd. Cewch ddarllen rhagor am hyn yn y rhifyn hwn o’r bwletin. Gall gwybodaeth a newyddion digidol ein llethu ar brydiau, felly mae cwrdd â’n gilydd wyneb yn wyneb mor bwysig. Gyda hynny mewn golwg, edrychaf ymlaen at weld cynifer â phosibl ohonoch dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Cadwch lygad am ddiweddariadau’r Bwrdd, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r cylchlythyrau hyn. Bydd ein diweddariad nesaf yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf gwaith y Bwrdd.

Llais Person Ifanc

"Bwli yn dy Boced"

Pobl ifanc yn creu ffilm wedi’i hanimeiddio am fwlio ar-lein

p

Yn ystod gwyliau’r haf, bu pobl ifanc o Ganolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghenydd yn cydweithio â’r cwmni animeiddio Gritty Realism er mwyn creu ffilm fer wedi’i hanimeiddio am fwlio ar-lein. 

Mae plot y ffilm yn dilyn merch sy’n cael ffôn symudol yn anrheg Nadolig ac wedi cyffroi o gael y ddyfais newydd. Ond cyn hir, mae hi’n dysgu bod rhai plant yn gallu defnyddio’r ffôn i’w bwlio ar-lein hefyd.

Mae’r ffilm yn edrych ar sut y mae negeseuon a phethau sy’n cael eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu mynd y tu hwnt i bob rheolaeth, a sut y gall negeseuon sy’n dechrau drwy ‘dynnu coes’ droi’n gas ac achosi llawer o boen.

Meddai Ellie, Hope a Gracie, a gymerodd ran yn y prosiect: “Fe gymeron ni ran yn y gweithdai animeiddio yn ystod gwyliau’r haf. Yn y sesiwn gyntaf, fe wnaethon ni greu byrddau stori i gynllunio’r ffilm. Fe helpodd i ni i benderfynu pwy oedd y cymeriadau a pha bropiau oedd angen eu creu. Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn gweithdy gyda’r elusen “Bullies Out”, a ddysgodd i ni sut i ganfod arwyddion bwlio a sut i roi gwybod am fwlio i oedolyn. Fe wnaethon nhw hefyd ein dysgu beth i’w wneud wrth anfon negeseuon neu chwarae gemau ar-lein; eu harwyddair oedd “Stopia, meddylia, ydy hyn yn garedig?”

Dros y diwrnodau nesaf, fe wnaethon ni greu cymeriadau, propiau a silwetau. Mae’r ffilm yn defnyddio animeiddio stop-symud, felly fe dynnwyd nifer o ffotograffau o symudiadau bach. Fe gawson ni wneud rhywfaint o olygu hefyd, a helpu i ysgrifennu cerdd am fwlio ar-lein.”

Bydd y ffilm yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio, sy’n dechrau ddydd Llun, 13 Tachwedd 2023. Mae’r bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect yn gobeithio cael digwyddiad lansio yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter, Caerdydd, ac maen nhw ar bigau’r drain i weld y ffilm ar y sgrin fawr ar ôl yr holl waith caled!

Mae pobl ifanc o Ganolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon yng Nghaerdydd hefyd wedi cyfrannu at y prosiect drwy helpu gyda’r animeiddio a’r gerddoriaeth.

p

Newyddion Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid, gweithwyr ieuenctid, pobl ifanc, a'r bobl eithriadol sy’n rhan o’r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Diolch i BAWB ohonoch chi a gyflwynodd enwebiadau i #GwobrauGwaithIeuenctid23.

Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiad yn cael eu rhannu'n fuan.

Chwilio am bobl ifanc i lywio dyfodol Cymru!

p

Ydych chi’n adnabod unigolion ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth? Ydyn nhw eisiau codi llais a helpu i lywio dyfodol eu gwlad? Os hynny, rydyn ni eisiau clywed ganddyn nhw!

Mae Cymru Ifanc eisiau recriwtio gwirfoddolwyr ifanc i ymuno â Bwrdd Cynghori Ieuenctid y Warant i Bobl Ifanc.

 

Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru yw’r Warant i Bobl Ifanc i sicrhau bod gan bob unigolyn ifanc rhwng 16 a 24 oed y cymorth y mae ei angen arno i gael addysg, hyfforddiant neu swydd, neu i ddod yn hunan-gyflogedig.

Fel aelod o’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid, bydd cyfle iddyn nhw wneud y canlynol:

  • Cwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl
  • Cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru
  • Datblygu sgiliau newydd a chael hyfforddiant
  • Mynychu digwyddiadau blynyddol a chenedlaethol
  • Cryfhau eu CV a/neu gais UCAS
  • Cael cymorth ariannol i fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau preswyl

Dyma gyfle unigryw i bobl ifanc gael effaith uniongyrchol ar bolisïau a’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan, gofynnwch iddyn nhw gofrestru fel un o wirfoddolwyr Cymru Ifanc heddiw!

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes rhwystrau rhag cymryd rhan, cysylltwch â: volunteer@childreninwales.org.uk

Penodiadau newydd yn y sector gwaith ieuenctid

Mae penodiadau newydd wedi’u gwneud yn y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru: mae Darryl White wedi’i benodi yn Swyddog Datblygu’r Gweithlu yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, tra bo Gethin Jones wedi cael secondiad o Gyngor Sir Ceredigion i weithio fel Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddeddfwriaeth a gweithio rhanbarthol.

Mae Darryl wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers 15 mlynedd ac mae’n frwd dros ddatblygu gweithlu sy’n ateb anghenion pobl ifanc. Meddai, “Rwy’n rhan o’r gweithlu ac yn fy ngweld fy hun fel y sment rhwng y brics sy’n cysylltu’r holl gynlluniau gwych â’i gilydd.”

Mae Gethin wedi gweithio mewn amryw o swyddi gwaith ieuenctid drwy’r sector, gan gynnwys ym meysydd gwaith ieuenctid allgymorth ac mewn ysgolion, canolfannau ieuenctid, unedau cyfeirio disgyblion, rhaglenni gweithgareddau yn ystod y gwyliau, cyfiawnder ieuenctid, cyfranogi ac ymgysylltu ymhlith pobl ifanc, a chyfnewidfeydd ieuenctid. Mae Gethin yn “edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r tîm a’r sector i edrych ar y cyfleoedd i gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.”

Mae modd cysylltu Darryl a Gethin drwy e-ebost:

Gethin: Gethin.Jones046@gov.wales

Darryl: Darryl.White@wlga.gov.uk

Cyngor y Gweithlu Addysg – dweud eich dweud!

p

Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn barn pobl am gynigion i ddiwygio’r Rheoliadau sy’n ymwneud ag aelodaeth Pwyllgor Ymchwilio a Phwyllgor Addasrwydd i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Cyngor benodi aelodau panel o grŵp ehangach o ymarferwyr cofrestredig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan y pwyllgorau aelodau sydd â’r sgiliau a’r profiad iawn i ystyried yr achosion sydd o’u blaenau.

Os ydych chi’n ymarferydd cofrestredig, neu os oes gennych chi ddiddordeb yng ngwaith CGA, mae Llywodraeth Cymru yn eich annog i gyflwyno eich barn am y newidiadau arfaethedig erbyn 1 Rhagfyr 2023. Mae modd gwneud hyn drwy fynd i: https://www.llyw.cymru/aelodaeth-o-bwyllgorau-ymchwilio-phwyllgorau-addasrwydd-i-ymarfer-cyngor-y-gweithlu-addysg

Yng Nghymru

Grymuso Arweinwyr Gwaith Ieuenctid

Mae Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (AGAAC) yn adnodd gwych i arweinwyr gwaith ieuenctid sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae Emma Chivers, y Cynghorwr Arwain ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn yr Academi, yn gweithio gyda’r sector gwaith ieuenctid i helpu i gynrychioli llais y sector a hyrwyddo materion perthnasol yn yr Academi ac mewn systemau addysg eraill. Mae Emma’n gweithio gydag arweinwyr i sicrhau bod cynifer o gyfleoedd â phosibl ar gael i arweinwyr ac i hyrwyddo arferion da drwy’r sector.

Mae’r Academi hefyd yn falch o groesawu dau aelod cyswllt newydd o’r sector gwaith ieuenctid, sef Loren Henry (Urban Circle Casnewydd, Cymru gyfan) a Mel Ryan (Cymru Ifanc, Cymru gyfan).

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut y gall yr Academi eich helpu, ewch i’r wefan:

NAEL Cymru

neu cysylltwch ag Emma Chivers yn uniongyrchol am sgwrs anffurfiol:

emma@ec-consultancy.co.uk

p

Galw ar holl arweinwyr y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru!

Mae Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CCGIG) a’r AGAAC wedi trefnu gweminarau ar-lein i drafod holl elfennau arweinyddiaeth yn y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r gweminarau hyn yn gyfle i arweinwyr ddysgu, rhannu arferion gorau, a rhwydweithio gydag arweinwyr eraill yn y maes:

  • Problemau a heriau wrth arwain yn y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru 27 Tachwedd 2023, 2-3pm
  • Camu i dir anghyfarwydd: Cymorth a chyfleoedd i arweinwyr yn y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru 12 Rhagfyr 2023, 2-3pm.

Mae’r gweminarau i gyd yn rhad ac am ddim.

I gofrestru, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Chivers drwy Emma@ec-consultancy.co.uk neu Paul Glaze drwy paul@cwvys.org.uk

Arolwg Cenedlaethol i Arweinwyr – Dweud eich dweud!

Mae’r AGAAC yn gofyn i arweinwyr drwy’r system addysg yng Nghymru rannu eu barn, eu safbwyntiau a’u profiadau yn yr Arolwg Cenedlaethol i Arweinwyr – y cyntaf o’i fath. Mae’n berthnasol i arweinwyr mewn ysgolion, yn y sector gwaith ieuenctid a’r sector hyfforddiant addysg ôl-orfodol. 

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth y mae’r Academi yn ei chreu i roi sail i bolisïau ac ymarfer drwy’r system addysg, ac i herio’r rheini. Bydd yr arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut y mae arweinwyr yn ymwneud â’r Academi ar hyn o bryd, er mwyn gallu gwella’r modd  y mae’n cefnogi ac yn datblygu arweinyddiaeth addysgol ledled Cymru. 

p

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na tua 10 munud i’w gwblhau. Mae modd dweud eich dweud a chwblhau’r arolwg fan hyn.

Chwilio am aseswyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn recriwtio aseswyr i’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.  

Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch chi i ddod yn asesydd. Ond mae bod yn frwd dros ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru yn helpu, ac felly hefyd ddiddordeb mewn sicrwydd ansawdd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn asesydd, ewch i wefan CGA.

p

Y Gronfa Gwaddol Ieuenctid – Tystiolaeth ar waith  

Mae’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid (CGI) yn falch o lansio ffrwd waith newydd a fydd yn helpu cydweithwyr yn y sector ieuenctid a chymunedol sy’n gweithio mewn swyddi oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw, neu sy’n darparu gweithgareddau cadarnhaol sy’n ceisio lleihau trais ymhlith pobl ifanc.  

p

Bydd caffi dysgu rhithwir ar-lein ar gael hefyd, a hynny’n cynnwys siaradwyr gwadd a gwybodaeth am ymyriadau a allai helpu eich gwaith i leihau trais ymhlith pobl ifanc.

Mae’r holl fanylion yn eu cylchlythyr ‘Evidence in Practice’ fan hyn.

Partneriaeth i agor drysau newydd i Wirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu yn y de 

Mae Heddlu De Cymru wedi creu partneriaeth â CCGIG i agor drysau newydd i Wirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu (GIH). Bydd y cytundeb pedair blynedd, sy’n cael ei ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn gwella cynllun Gwirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu yn y llu, ac yn rhoi mwy fyth o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a thyfu.

p

Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu wedi datblygu’n sylweddol ers ei lansio yn 2014, gyda dros 100 o wirfoddolwyr rhwng 14 ac 17 oed bellach yn cymryd rhan ledled y de. Mae’r gwirfoddolwyr yn rhan o grŵp ifanc sy’n cael ei gydnabod drwy’r Deyrnas Unedig. Nod y cynllun yw ysbrydoli aelodau i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau, annog dinasyddiaeth dda, a meithrin ymdeimlad o antur. Bydd y gwirfoddolwyr yn aml yn cymryd rhan mewn gwaith sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau plismona lleol, ac yn dysgu sgiliau newydd sy’n gwella’u gwaith yn y gymuned.

Gyda’r bartneriaeth newydd, bydd CCGIG yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid megis Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Prifysgol Metripolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) er mwyn darparu rhaglen arbennig ar gyfer GIH.

I gael rhagor o wybodaeth ymweliad: https://www.cwvys.org.uk/cwvys-partnership-to-open-new-doors-for-police-youth-volunteers-in-south-wales

neu cysylltwch ag Amanda@cwvys.org.uk

O amgylch y Byd

Gweithiwr ieuenctid yn rhan o raglen ryngwladol nodedig ym maes arweinyddiaeth

p

Mae Cara Jones, Cyngor Sir Ceredigion, wedi dychwelyd o brofiad bythgofiadwy lle bu’n cymryd rhan yn y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Gwaith Ieuenctid Gwledig yn Herrsching, yr Almaen.

Dewiswyd Cara i gymryd rhan yn y rhaglen bythefnos o hyd, a drefnwyd gan Weinyddiaeth Bwyd ac Amaethyddiaeth Ffederal yr Almaen (BMEL). Roedd y rhaglen yn dwyn ynghyd 77 o weithwyr ac arweinwyr ieuenctid o 46 o wledydd i ddysgu, rhannu a chynllunio.

Arwyddair y rhaglen oedd: “Meddyliwch yn fyd-eang – Dewch ynghyd a gweithredu yn lleol”. Bu’r cyfranogwyr yn trin a thrafod pynciau fel arweinyddiaeth a chymhelliad, datrys gwrthdaro, gwaith tîm, creadigrwydd a chyfathrebu. Dysgwyd hefyd am wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau, a’r heriau niferus sy’n wynebu gweithwyr ieuenctid o amgylch y byd.

Meddai Cara Jones, “Roedd y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Gwaith Ieuenctid Gwledig yn brofiad anhygoel, bythgofiadwy. Fe ges i gyfle i ddysgu gan weithwyr ieuenctid o bob cwr o’r byd, ac i rannu syniadau. Fe ges i’r fraint hefyd o gynllunio a darparu sesiwn i dros 60 o gyfranogwyr, a oedd yn brofiad heriol ond gwerth chweil. Rwyf bellach yn gallu defnyddio fy sgiliau a fy ngwybodaeth newydd wrth fy ngwaith yma yng Ngheredigion i helpu mwy fyth o bobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial.”

Meddai’r Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant, “Rydyn ni’n hynod o falch o Cara ar ôl iddi gynrychioli Cymru yn y rhaglen ryngwladol nodedig hon. Mae’r ffaith ei bod wedi cymryd rhan yn dyst i’w hymroddiad i’w gwaith ac i bobl ifanc Ceredigion. Rydyn ni’n ddiolchgar i BMEL am ariannu’r cyfle hwn, a alluogodd Cara i brofi rhywbeth gwirioneddol arbennig.”

Drwy gymryd rhan yn y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Gwaith Ieuenctid Gwledig, mae Cara’n ysbrydoliaeth i ni i gyd. Mae hi’n enghraifft lachar o’r gwaith anhygoel y mae gweithwyr ieuenctid yn ei wneud bob dydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. 

Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ar gael yma: Hafan: Seminar Ryngwladol Herrsching (international-herrsching-seminar.de)

p

Taith – Cyfleoedd ariannu yn y sector ieuenctid!

Mae Llwybr 2 Taith yn ymwneud â chydweithio â phartneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â phroblem neu flaenoriaeth mewn sector.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno arferion arloesol mewn addysg drwy greu allbwn, a hwnnw’n cael ei rannu drwy Gymru a’r tu hwnt.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm, dydd Iau 30 Tachwedd 2023.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i Gwefan Taith neu cysylltwch â enquiries@taith.wales

Glywsoch chi hyn?

Urdd Gobaith Cymru yn creu dihangfa o’r byd digidol i bobl ifanc

p

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi agor ei bedwerydd gwersyll. Pentre Ifan | Urdd Gobaith Cymru Gwersyll Amgylcheddol a Lles Pentre Ifan yng ngogledd Sir Benfro yw’r mwyaf o’i fath yng Nghymru. Bydd yn blaenoriaethu’r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc, a’r Gymraeg mewn un profiad preswyl hudolus.

Gwahoddwyd myfyrwyr lleol o Ysgol Bro Preseli i’r agoriad, ynghyd â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Meddai Jeremy Miles: “Rwy’n falch o agor y prosiect unigryw hwn yn swyddogol. Mae’r Urdd wedi gwneud gwaith gwych yn gwrando ac yn creu canolfan sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, lles pobl ifanc a’r Gymraeg. Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â gwrando ar ddisgyblion a dysgu mewn ffordd sy’n ennyn eu diddordeb.

Mae’r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â lles, yn ganolog i’r Cwricwlwm ac yn rhan o addysg pob dysgwr. Rwy’n falch iawn y bydd Pentre Ifan yn helpu dysgwyr i barchu a chysylltu â natur, cefnogi eu hiechyd meddyliol a chorfforol a datblygu perthnasoedd iach â thechnoleg.”

https://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/pentre-ifan/

Academi Lwyddiant Merthyr Tudful yn dathlu pobl ifanc

Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, cynhaliodd Academi Lwyddiant Merthyr Tudful ei seremoni wobrau yng Nghlwb Pêl-droed Merthyr Tudful. Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiannau pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

p

Mae gwobrau’r Academi Lwyddiant yn ffordd wych o ddathlu cyflawniadau pobl ifanc Merthyr Tudful. Mae’r bobl ifanc sy’n rhan o’r gwobrau hyn yn ysbrydoliaeth lwyr i’r holl gymuned ehangach. Maen nhw’n dangos beth yw ystyr bod yn ddinasyddion annibynnol a gweithgar, ac maen nhw’n gwneud gwir wahaniaeth yn eu cymunedau.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ewch i Noson Ddathliad 2023 Gwobrau Cyfranogiad Dinesydd Gweithgar | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Sgwrsio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Gwrandewch! Mae trydydd podlediad newydd Cyngor y Gweithlu Addysg bellach ar gael. Mae’n anhepgor i unrhyw un sydd eisiau deall a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg.

Gwrandewch a thanysgrifiwch nawr

p
Meic CYM Gif

Byddwch yn Rhan o'r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf.

Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkinWales #GwaithIeuenctidCymru ar Twitter i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

Rydyn wedi symud i gyhoeddi’r e-gylchlythyr bob 3 wythnos, mwy neu lai, er mwyn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@IeuenctidCymru