|
|
Cymru'n Arloesi – cynllun cyflawni wedi'i gyhoeddi.
Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni gweledigaeth y Strategaeth Arloesi i greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach Gallwch ddarllen y cynllun cyflawni yma.
|
Grantiau offer cyfalaf gwerth hyd at £250k.
Mae Cronfa Cyfarpar Cyfalaf SMART yn cynnig grantiau sy'n werth hyd at £250k i gefnogi sefydliadau i brynu cyfarpar sy'n arwain at gynnydd yn y canlynol:
- Buddsoddi mewn gallu a chapasiti ym maes ymchwil a datblygu
- Mabwysiadu economi gylchol
- Cynhyrchiant drwy fabwysiadu technolegau arloesol.
Dyddiad cau – 30 Tachwedd 2023. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais yma
|
|
|
|
|
Ymgynghoriad sgiliau sero net
Rydym am glywed pa sgiliau rydych chi'n meddwl y bydd eu hangen yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a symud tuag at ein nod sero net. Cliciwch yma i ddweud eich dweud.
|
Gwybodaeth am y cyfleoedd cyllido diweddaraf gan Innovate UK
Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd cyllido i fusnesau yng Nghymru ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi. Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael gafael ar y cyllid hwn a'ch cefnogi i atgyfnerthu eich cais. Gallwch weld y cyfleoedd cyllido a chofrestru ar gyfer un o'n sesiynau cymorth yma.
Lansiad: y diwydiant sero net De-orllewin Cymru
9 Tachwedd 2023 - 10:00 - 11:00 - Ar-lein
Mae rownd newydd o fuddsoddiadau, gyda chyfanswm gwerth hyd at £2 miliwn, yn cael ei lansio yng nghlwstwr diwydiannol De Cymru. I ddarganfod sut i gystadlu am grantiau ar gyfer prosiectau arloesol i gefnogi polisi sero net y rhanbarthau, cliciwch yma.
Wythnos Hinsawdd Cymru: Gadewch inni siarad am newid hinsawdd
Cynhadledd Ar-lein 4 – 8 Rhagfyr
Thema Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yw tegwch, a'r angen i ddatrysiadau ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, a datblygu mwy o wytnwch iddo, ganolbwyntio ar y prif egwyddor, sef na ddylid gadael neb ar ôl.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Gweminar arloesi
20th Rhagfyr 2023 - 10:00 - 11:30 - Ar-lein
Gweminar chwarterol sy'n edrych ar newyddion arloesi o'r chwarter diwethaf yn ogystal â chymorth arloesi posibl fydd ar gael.
Cofrestrwch yma.
Cyfarfod cymorth ariannu ar-lein
10 Ionawr 2024 - 10:00 - 17:00 - Ar-lein
Cyfarfod cymorth i helpu busnesau a chwmnïau o Gymru i baratoi eu hunain yn well ar gyfer Ymchwil a Datblygu.
Darganfyddwch fwy am y digwyddiad yma.
|