Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

21 Medi 2023


beach family

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Diweddariad ymgyrch yr Hydref a Llwybrau; Cymru Wales yn ennill yng Ngwobrau Cyfryngau’r Byd; Sioeau teithiol diwydiant Croeso Cymru: cofrestrwch nawr; Ymateb i ddata sydd wedi’u cyhoeddi am deithiau domestig dros nos yng Nghymru; 20mya diofyn i Gymru: rhowch wybod i'ch ymwelwyr/gwesteion; Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023; Diwrnod Twristiaeth y Byd 2023 – 27 Medi 2023; Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022: canllawiau; CNC yn cyhoeddi dyddiadau ymgysylltu ar gyfer pedwerydd Parc Cenedlaethol arfaethedig yng Nghymru; Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 – lansiad 25 Medi 2023; Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2023; Enwebwch rhywun ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2024


Diweddariad ymgyrch yr Hydref a Llwybrau

‌Ar hyn o bryd mae Croeso Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru ar ymgyrch i ymestyn y tymor ac annog ymweliadau â rhai cyrchfannau poblogaidd ar y trên fel Aberystwyth, Dinbych-y-pysgod, Cas-gwent a Chonwy. Mae’r negeseuon yn canolbwyntio ar hyrwyddo eu bod yn hawdd i’w cyrraedd, teithio am ddim i blant ar wasanaethau TrC a mynediad 2 am bris 1 ar safleoedd Cadw. Mae'r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion cymdeithasol, hysbysebion arddangos digidol, posteri mewn lleoliadau allweddol, a gweithgarwch dylanwadwyr.

Mae ymgyrch yr hydref Croeso Cymru hefyd wedi bod yn rhedeg drwy fis Awst a mis Medi gyda hysbysebu digidol, ar y teledu ac ar fideo ar alw a phartneriaethau gyda’r wasg mewn cyhoeddiadau fel The Guardian, Simple Things a Wonderlust. Mae'r ymgyrch hon wedi bod yn targedu pobl sy’n archebu ar y funud olaf, ymwelwyr â dinasoedd, ymwelwyr sy’n chwilio am foethusrwydd, teuluoedd, pobl sy’n mwynhau’r awyr agored, a theithwyr hŷn. Dysgwch fwy am ein‌ cynulleidfa ar:‌ Asedau: Canllawiau ar y Gynulleidfa | Croeso Cymru.

Dyma’r ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch graddio a/neu wedi'ch achredu a bod eich cynnyrch wedi'i restru ar ‌‌croesocymru.com‌‌, lle rydym yn gyrru traffig.
  2. ‌Sicrhewch fod‌ eich ‌tudalen cynnyrch yn gyfredol‌‌ gyda delweddau wedi'u hadnewyddu, fideos - popeth y mae angen i ymwelydd posibl ei wybod am eich busnes.‌
  3. Rhowch wybod inni hefyd os oes gennych unrhyw gynigion arbennig neu os ydych yn cynnal digwyddiadau ; e-bostiwch productnews@llyw.cymru ac fe wnawn ni ei rannu gyda’n cysylltiadau yn y cyfryngau. Hefyd tynnwch sylw os ydych yn cynnig rhywbeth gwahanol neu newydd a fyddai'n apelio at ymwelwyr, y gallem ei ddefnyddio fel bachyn ar gyfer straeon cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol i Gymru.
  4. Cymerwch ran yn ein ‌‌thema Llwybrau yr hydref hwn: darllenwch ein canllaw Llwybrau ar gyfer y diwydiant ar‌ gyfer awgrymiadau a syniadau, lawrlwytho'r logo i'w ddefnyddio ar eich deunyddiau marchnata eich hun a defnyddio rhai o'n delweddau o ansawdd uchel am ddim ar gyfer hyrwyddo Cymru. Mae'r rhain i gyd ar gael ar ein Pecyn cymorth: Llwybrau ‌Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn tagio'ch negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ‌gyda #Llwybrau #WalesByTrails ‌fel y gallwn ni helpu i rannu'ch cynnwys.

Cymru Wales yn ennill yng Ngwobrau Cyfryngau’r Byd

Enillodd marchnata Cymru Wales ddwy wobr o fri yng Ngwobrau Cyfryngau’r Byd ar 7 Medi.

‌Roedd y gwobrau'n cydnabod darpariaeth ryngwladol ‘Mynd â Chymru i'r Byd’ ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 a daethant o ganlyniad i Lywodraeth Cymru a phartneriaid cydweithio o dan ddull Tîm Cymru.

‌Wedi'i feirniadu'n annibynnol gan banel y diwydiant, mae Grŵp Cyfryngau’r Byd yn cynnig cynrychiolaeth o Newyddion y BBC, The Economist, Forbes, National Geographic, The New York Times, Reuters a The Wall Street Journal. Enillodd Cymru Wales y categori ‘Teithio a Thwristiaeth’ yn erbyn‌ ‌prif gyrchfannau rhyngwladol: ‌Abu Dhabi, Llundain a Manitoba, Canada.

Enillodd yr ymgyrch hefyd y Grand Prix ‘Enillydd yr Enillwyr’ yn gyffredinol gan guro brandiau rhyngwladol mawr gan gynnwys Adidas, Audi, Visa a Volkswagen.

Mae rhagor o wybodaeth am ‌‌y Gwobrau ar wefan World Media Group (world-media-group.com)‌.‌


Sioeau teithiol diwydiant Croeso Cymru: cofrestrwch nawr

Dewch draw i sioe deithiol diwydiant Croeso Cymru yn eich rhanbarth yr hydref hwn, i ‌‌‌glywed gan y tîm a chwrdd â chydweithwyr yn y diwydiant‌. Gellir dod o hyd i fanylion llawn, dyddiadau a chofrestru ar Digwyddiadur Busnes Cymru - Sioeau Teithiol Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant – hydref 2023, Digwyddiadau (business-events.org.uk)

Bydd y digwyddiadau yn dechrau am 10:00am (gyda chofrestru o 9.15am ymlaen) ac yn gorffen am 4.00pm. Bydd cinio ysgafn yn cael ei ddarparu. Mae sesiynau Digwyddiadau Cymru a TXGB yn ddewisol ond mae angen archebu lle ymlaen llaw (3.00pm - 4.00pm).


Ymateb i ddata sydd wedi’u cyhoeddi am deithiau domestig dros nos yng Nghymru

Gan ymateb i ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd ar 12 Medi, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi darlun o arosiadau dros nos yng Nghymru o farchnad ddomestig y DU, sef prif ffynhonnell ymwelwyr i Gymru. 

“Mae’n galonogol gweld y canlyniadau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y duedd bositif yn parhau.”

Darllenwch y datganiad llawn ar Ymateb i ddata sydd wedi’u cyhoeddi am deithiau domestig dros nos yng Nghymru | LLYW.CYMRU.


20mya diofyn i Gymru: rhowch wybod i'ch ymwelwyr / gwesteion

Ar 17 Medi 2023, daeth 20mya yn derfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle ceir nifer o bobl. Mae goleuadau stryd arnynt yn aml, heb fod yn fwy na 200 lath ar wahân.

Gwnaed y newid hwn i:

  • leihau nifer y gwrthdrawiadau a’r niwed difrifol o ganlyniad iddynt (gan hefyd leihau’r effaith ar y GIG o drin pobl sydd wedi’u niweidio)
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein iechyd a’n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar:


Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023:

‌Gŵyl Gomedi Aberystwyth, 29 Medi - 1 Hydref

Mae Gŵyl Gomedi‌ Aberystwyth, ‌‌sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn denu miloedd o bobl sy’n mwynhau comedi stand-yp i Aberystwyth‌. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal eleni o ddydd Gwener 29 Medi tan ddydd Sul 1 Hydref.‌‌

Mae'r ŵyl yn cynnwys tua 100 o berfformiadau a gynhelir mewn gwahanol leoliadau yn Aberystwyth.

Gŵyl Llais, 11‌ ‌- 15 Hydref

Gŵyl gelfyddydau ryngwladol flynyddol Caerdydd yw Llais‌‌, sydd wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy'n ein cysylltu ni i gyd, sef y llais.‌

Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim a digwyddiadau â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiadau sy’n procio’r meddwl a phrofiad chwareus i bawb roi cynnig arno.

Gŵyl Sŵn‌‌‌‌‌, 20 - 22 Hydref‌‌

Mae ‌Gŵyl Sŵn‌‌‌ ‌‌yn ŵyl gerddoriaeth aml-leoliad arobryn sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl yng nghanol dinas Caerdydd ers 2007.‌‌ Mae'r ŵyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac artistiaid lleol.


Diwrnod Twristiaeth y Byd 2023 – 27 Medi 2023

Mae ‌Diwrnod Twristiaeth y Byd (WTD)‌‌ ‌yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei ddathlu ledled y byd ar 27 Medi.‌‌‌ Mae'r diwrnod yn canolbwyntio ar hyrwyddo twristiaeth a chodi ymwybyddiaeth o'i effaith ddiwylliannol, gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Diwrnod Twristiaeth y Byd 2023 | Busnes Cymru (gov.wales).


Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022: canllawiau

Canllawiau ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn diwygio’r Gorchymyn.

Mae’r canllawiau hyn yn esbonio pa gyfrifoldebau newydd sydd gennych o ran diogelwch tân. Daw’r gofynion newydd hyn i rym ar 1 Hydref 2023.

Mae rhagor o wybodaeth ar Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022: canllawiau | LLYW.CYMRU.


CNC yn cyhoeddi dyddiadau ymgysylltu ar gyfer pedwerydd Parc Cenedlaethol arfaethedig yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel yr Awdurdod Dynodi, i werthuso'r achos dros greu pedwerydd Parc Cenedlaethol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Dyma fydd y datblygiad Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron i 70 mlynedd.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023 ar fap cychwynnol yr Ardal Chwilio.

I weld sut y gallwch gymryd rhan ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / CNC yn cyhoeddi dyddiadau ymgysylltu ar gyfer pedwerydd Parc Cenedlaethol arfaethedig yng Nghymru (naturalresources.wales).


Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 – lansiad 25 Medi 2023

Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datblygu y Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 gyda’r weledigaeth o greu economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri. Bydd y cynllun yn cael ei lansio mewn digwyddiad hybrid i’w gynnal ar 25 Medi 2023 (9:30am-12:30pm), ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog.

Mae rhagor o wybodaeth ar Lansiad Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035.


Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2023

Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales, sy’n dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth, ar agor ar gyfer ceisiadau. Y dyddiad cau yw 9 Hydref 2023.


Enwebwch rhywun ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2024

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru ac fe gydnabyddir llwyddiannau eithriadol pobl o gefndiroedd gwahanol o Gymru a thu hwnt. Os ydych chi'n adnabod rhywun haeddiannol o’r wobr, ewch ati i’w henwebu.


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram