Bwletin Newyddion: Ymateb i ddata sydd wedi’u cyhoeddi am deithiau domestig dros nos yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Medi 2023


Aberystwyth seafront, houses and hills.

Ymateb i ddata sydd wedi’u cyhoeddi am deithiau domestig dros nos yng Nghymru

Gan ymateb i ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

" Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi darlun o arosiadau dros nos yng Nghymru o farchnad ddomestig y DU, sef prif ffynhonnell ymwelwyr i Gymru. 

" Mae’n newyddion ardderchog, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 a 2022, y bu cynnydd o 13% yn nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru, a chynnydd o 35% yn yr arian a wariwyd yn ystod yr un cyfnod yn 2022. Bu cynnydd yn y gwariant fesul taith ar draws pob un o wledydd Prydain Fawr, er y bydd hynny, wrth gwrs, wedi’i sbarduno’n rhannol gan gostau uwch.

" Yn ogystal, mae’r amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 hefyd yn edrych yn obeithiol. Mae’r ffigurau amcangyfrifedig yn dangos y bu 1.74 miliwn o deithiau a bod £341 miliwn wedi cael ei wario yng Nghymru yn ystod tri mis cyntaf 2023 gan ymwelwyr o’r DU sydd wedi aros dros nos yng Nghymru.

" Mae’n gadarnhaol, o gymharu â’r cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth yn 2022, fod amcangyfrifon yn dangos bod nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru yn 2023 4% yn uwch, a bod y gwariant 35% yn uwch.

“Mae’n galonogol gweld y canlyniadau hyn ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y duedd bositif yn parhau.

" Mae ymwelwyr domestig dros nos wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr economi ymwelwyr yng Nghymru erioed, gyda mwy na 90% o ymwelwyr yn dod o leoedd o fewn Cymru a gweddill y DU.

" Mae Croeso Cymru wedi ymrwymo i farchnata ystwyth, wedi’i lywio gan wybodaeth am gwsmeriaid ac yn rhoi sylw i’r diwylliant, y tirweddau a’r anturiaethau unigryw a gynigir yng Nghymru. Eleni, mae hynny’n cynnwys bachu ar gyfleoedd ar lefel ryngwladol i fanteisio ar yr ymwybyddiaeth gynyddol o Wrecsam, a Chymru yn sgil hynny, yn ogystal â chyfleoedd ar lefel genedlaethol, i roi sylw i hyd a lled y profiadau sydd ar gael i ymwelwyr â Chymru, a’i thrigolion."



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram