Bwletin Newyddion: Sioeau teithiol Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant 2023 – cyfnod cofrestru ar agor

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

8 Medi 2023


Roadshow

Sioeau teithiol Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant 2023 – cyfnod cofrestru ar agor

Dewch draw i un o sioeau teithiol Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant, a fydd yn cael eu cynnal yn eich rhanbarth yn yr hydref, er mwyn ichi gael clywed gan y tîm a chyfarfod â chydweithwyr yn y maes. 

  • De Ddwyrain: 12 Hydref – Coldra Court Hotel, Casnewydd
  • Gogledd:  18 Hydref – Pafiliwn Llangollen
  • Canolbarth:  25 Hydref – Prifysgol Aberystwyth
  • De Orllewin:  8 Tachwedd - Stadiwm Swansea.com

Bydd y digwyddiadau’n dechrau am 10:00 am (Cofrestru o 9:15 am ymlaen) ac yn gorffen am 3:00 pm – bydd cinio ysgafn ar gael.

Bydd Croeso Cymru yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am farchnata a datblygu, gan gynnwys ymchwil a chipolwg ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.  Bydd Digwyddiadau Cymru yno hefyd i roi’r newyddion diweddaraf ichi a bydd cyfle i glywed gan gadeirydd eich Fforwm Rhanbarthol. Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y rhaglen yn cynnwys siaradwr gwadd o’r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth dan sylw.

Bydd digon o gyfleoedd i holi ac ateb, yn ogystal â chyfle yn yr ardal stondinau masnach i fwynhau cyfleoedd gwych i rwydweithio ac i ddysgu am y cymorth diweddaraf sy’n cael ei gynnig gan Croeso Cymru a sefydliadau allweddol eraill. 

Ac, i'r rheini yn eich plith sydd â diddordeb penodol mewn digwyddiadau neu sydd am ddysgu mwy am Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) - y platfform sy'n cysylltu systemau archebu twristiaeth y DU neu rhestr eiddo eich hun â rhwydwaith byd-eang o ddosbarthwyr - gallwch ddewis aros yn y prynhawn ar gyfer sesiwn fanwl am y meysydd perthnasol hynny. 

Am ragor o wybodaeth am y sioe deithiol a sut i archebu lle, ewch i Digwyddiadur Busnes Cymru - Sioeau Teithiol Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant – hydref 2023, Digwyddiadau (business-events.org.uk)

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram