Bwyd a Diod Cymru - Newyddion Diweddaraf - Awst 2023

Awst 2023

 
 

BlasCymru/TasteWales 2023

Blas Cymru/TasteWales

Mae’r wefan yn fyw a’r tocynnau ar gael i’w prynu

Mae’r paratoadau yn mynd rhagddynt gyda llai na 60 diwrnod nes bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn dychwelyd.

Mae gwefan BlasCymru/TasteWales bellach yn fyw (www.tastewales.com/) ac mae tocynnau cynnar ar gael tan 31 Awst – prynwch eich tocynnau nawr!

Cynhelir yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru), Casnewydd ar 25-26 Hydref, bydd y digwyddiad deuddydd yn croesawu prynwyr bwyd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o dan yr un to i gwrdd â busnesau bwyd a diod blaenllaw Cymru.

Thema digwyddiad eleni yw ‘Pwerus gyda’n gilydd: O her i lwyddiant. Rôl gwytnwch, arloesedd ac optimistiaeth.’

Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa o’r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, ac yn:

  • Arddangos cynhyrchwyr a'u cynnyrch i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol
  • Broceru perthnasau rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr trwy gyfarfodydd partneru
  • Cynnwys ardaloedd â themâu sy’n arddangos arloesedd, technoleg a chynaliadwyedd, ynghyd â rhaglen seminarau ddifyr gydag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.

Pam ddylai cynhyrchwyr/rhanddeiliaid fynychu?  

Coco Pzazz

Mae cwmni siocled y canolbarth, Coco Pzazz, wedi blasu llwyddiant o fynychu digwyddiadau BlasCymru/TasteWales blaenorol.

Dywedodd y perchennog, Lori Whinn, “Mae’n ddigwyddiad hynod o drefnus, ac mae ein profiad o’r sioe wedi bod yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn bendant yn argymell bod busnesau eraill yn mynychu. Mae wastad wedi bod yn werth chweil. Os oes un digwyddiad i fynd iddo mewn blwyddyn, BlasCymru/TasteWales yw hwnnw.”

Darllenwch blog llwyddiant Coco Pzazz, ymhlith eraill yma.

I gael gwybod mwy, ac i sicrhau eich tocyn i fynychu, ewch i www.tastewales.com/

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr chwarterol ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

Newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales