Arloesi gyda cherbydau gwyrdd
Y dyddiad cau am geisiadau ar gyfer Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford yw 29 Medi. Nod y gronfa yw annog busnesau i symud i (a gwella) technolegau cerbydau carbon isel. Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais yma.
|
|
|
|
|
Gwobr Ewropeaidd i Arloeswyr Benywaidd
Mae'r wobr hon yn dathlu'r entrepreneuriaid benywaidd y tu ôl i rai o brosiectau arloesi mwyaf Ewrop. I gael gwybod mwy am sut y gallwch gystadlu cliciwch yma.
|
Cymorth gofal yn y cartref
Mae her newydd yr SBRI ynghylch gofal cartref bellach yn derbyn ceisiadau. Mae pwyslais ar gynaliadwyedd gwasanaethau, fforddiadwyedd a hefyd y gallu i bennu’r datrysiadau.I ddysgu mwy cliciwch yma.
|
|
|
Horizon Ewrop
Mae Cymru'n croesawu cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglen Horizon Ewrop gwerth €100 biliwn yr UE.
Rhagor o wybodaeth yma.
Gwobrau Dewi Sant 2023
Rydyn ni angen eich help chi i ddod o hyd i enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant, gwobrau cenedlaethol Cymru.
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n torri tir newydd neu yn gwneud gwahaniaeth go-iawn yn eich diwydiant neu sefydliad?
I enwebu, ewch i wefan Gwobrau Dewi Sant
Wythnos Technoleg Cymru
16 Hydref – 18 Hydref, Canolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd.
Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos cymwysiadau technolegau arloesol newydd a ddatblygwyd gan gwmnïau o Gymru, yn ogystal â bod yn gyfle i gysylltu a rhwydweithio â'r gymuned dechnoleg fyd-eang.
Rhagor o wybodaeth yma.
Cyllid a chefnogaeth Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth a chyfleoedd ariannu i sefydliadau sydd ag awydd i arloesi. I ddod o hyd i gymorth ar-lein a mwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Gwobrau Arloesi Myfyrwyr 2023
Hydref 9fed a 10fed Gerddi Sophia, Caerdydd. Hydref 16eg Prifysgol Bangor.
Mae'r arddangosfa a gynhelir gan CBAC a Llywodraeth Cymru yn arddangos prosiectau arloesol gan bobl ifanc yng Nghymru. Mae'r digwyddiad yn ddathliad o Ddylunio a Thechnoleg, gan gydnabod y genhedlaeth nesaf o Arloeswyr.
Mae seminarau ar gael hefyd ar gyfer athrawon a myfyrwyr. Rhagor o wybodaeth yma.
|