Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

2 Chwefror 2024


Arcade

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Profiadau ar gyfer y Diwydiant Teithio; Rhaglen Digwyddiadau VisitBritain are gyfer y Diwydiant Teithio Hamdden; Cynllun Sicrwydd Gweithgaredd Antur Croeso Cymru – Adolygiad; Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn; Ymgyrch Bydd Wych. Ymgyrch Ailgylchu – Gweminar ar gyfer Partneriaid, 8 Chwefror; Rhif ffôn newydd – Sicrhau Ansawdd; Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’r logo/au electronig cywir ar eich gwefan?; Helpu ymwelwyr i archwilio ein treftadaeth grefyddol; Galw am: y newyddion a'r cynigion diweddaraf gan atyniadau ledled Cymru; Dydd Miwsig Cymru 2024; Wythnos Prentisiaethau 2024, 5-11 Chwefror; Wythnos Awyr Dywyll,  9–18 Chwefror; Ymunwch â grŵp newydd Aurora Mynyddoedd Cambria ar WhatsApp; Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru; Cronfa Buddsoddi i Gymru – Sioeau Pen Ffordd; Digwyddiad ar-lein gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni – gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn y diwydiant Twristiaeth; Newyddion diweddaraf Busnes Cymru.


Profiadau ar gyfer y Diwydiant Teithio

Mae tîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru yn cyfarfod â gweithredwyr yn rheolaidd mewn arddangosfeydd a gweithdai neu drwy gyswllt o'n mewnflwch ymholiadau.  Un o'r ceisiadau rheolaidd yw'r rhai gan weithredwyr sy'n chwilio am brofiadau trochi neu bethau i'w gwneud.  Gall y rhain gynnwys gweithgaredd fel dosbarth coginio, profiadau moethus / VIP, mynd ar daith y tu ôl i'r llwyfan gydag arbenigwr neu fynd ar daith pan fydd y lleoliad fel arfer ar gau i'r cyhoedd e.e. teithiau preifat gyda'r nos.  Mae gweithredwyr yn aml yn hoffi cynnig hwn fel cyfle sy'n unigryw iddyn nhw eu hunain neu rywbeth na all y defnyddiwr archebu'n annibynnol. Maent yn aml yn barod i dalu premiwm am hyn a gallent fod ar gyfer naill ai grwpiau neu deithiau Cwbwl Annibynnol e.e. unigolion, cyplau, ffrindiau neu deuluoedd

Cynigir un enghraifft o'r fath yng Nghwm Elan, lle mae teithiau argae Pen-y-Garreg ar gael i'r cyhoedd ar ddiwrnodau agored dethol yn unig ond gellir trefnu taith breifat ar gyfer y Fasnach Deithio, gan gynnig profiad gwych 'tu ôl i'r llenni'.

Hoffem glywed gennych os ydych yn cynnig 'profiadau' ar gyfer y Diwydiant Teithio.  Anfonwch fanylion am eich profiad neu'r hyn y gallwch ei gynnig i'r Diwydiant Teithio i traveltradewales@llyw.cymru fel y gallwn ymateb i Ymholiadau.


Rhaglen Digwyddiadau VisitBritain are gyfer y Diwydiant Teithio Hamdden

Mae VisitBritain wedi rhannu eu rhaglen ddigwyddiadau arfaethedig gyda ni ar gyfer 2024 a 2025. Mae cyfle i chi gofrestru eich diddordeb i fynychu rhai sy'n fwyaf addas ar gyfer eich busnes.  Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Events@visitbritain.org


Cynllun Sicrwydd Gweithgaredd Antur Croeso Cymru - Adolygiad

Darparwyr Gweithgareddau - rydym angen eich adborth!

Ar hyn o bryd, mae Croeso Cymru yn cynnal adolygiad o'n Cynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur. Os ydych chi'n rhedeg busnes gweithgareddau yng Nghymru, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn fodlon ein helpu drwy gwblhau'r arolwg byr hwn (oddeutu 5 munud). Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r arolwg yw dydd Gwener 16 Chwefror: Cynllun Sicrwydd Gweithgaredd Antur Croeso Cymru - Adolygiad Survey (surveymonkey.com)

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad neu am Gynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru, e-bostiwch regionaltourism@llyw.cymru


Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Mannau addoli
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU

 Mae rhagor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ar gael hefyd: Newidiadau i ailgylchu yn y gweithle: canllawiau ar gyfer gweithleoedd | LLYW.CYMRU.

Er mwyn helpu eich sefydliad i baratoi ar gyfer y gyfraith newydd, mae WRAP Cymru yn cynnal cyfres o weminarau sy'n benodol i'r sector. Mae'r gweminarau hyn wedi'u cynllunio i ddarparu cyflwyniad cynhwysfawr i'r rheoliadau gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth am y gweminarau ar gael yma: Gweminarau: Cofleidiwch y newidiadau deddfwriaethol sydd ar y gorwel yng Nghymru | Busnes Cymru

Yn ei rôl fel rheoleiddiwr, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am oruchwylio’r gofynion gwahanu a’r gwaharddiadau ar wastraff sy’n mynd i gael ei losgi neu’n mynd i safleoedd tirlenwi.  Mae'r tîm yn CNC wrth law i helpu gweithleoedd i gydymffurfio â’r rheoliadau newydd a rheoli eu gwastraff yn y ffordd gywir: Cyfoeth Naturiol Cymru / Casgliadau gwastraff ar wahân ar gyfer gweithleoedd


Ymgyrch Bydd Wych. Ymgyrch Ailgylchu – Gweminar ar gyfer Partneriaid, 8 Chwefror 2024

Ymgyrch Bydd Wych ddiweddaraf gan WRAP Cymru. Bydd ymgyrch i ailgylchu gwastraff bwyd yn cael ei lansio ddydd Llun 26 Chwefror. Bydd Rownd 3 o'r ymgyrch yn para am bedair wythnos tan 18 Mawrth, a bydd yr wythnos derfynol yn cyd-fynd ag Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd (18–24 Mawrth).

I ddysgu sut y gall eich sefydliad helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymunedau, i Gymru a'r blaned, cofrestrwch ar gyfer y weminar cyn-lansio a gynhelir ar ddydd Iau 8 Chwefror am 11am: Cofrestru ar gyfer Gweminar – Zoom


Rhif ffôn newydd – Sicrhau Ansawdd

Mae rhif ffôn adran Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru bellach wedi'i newid i 0300 062 2418.  Mae hyn yn disodli'r rhif blaenorol, sef 0845 010 8020. Ni fydd y cyfeiriad e-bost yn newid quality.tourism@llyw.cymru.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am sicrhau ansawdd ar gael yma Sêr Graddio Ansawdd | Busnes Cymru (llyw.cymru).

I gael cyngor a chymorth busnes gan Busnes Cymru, y rhif yw 03000 6 03000 o hyd.


Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’r logo/au electronig cywir ar eich gwefan?

Os ydych yn arddangos hen arwyddion ar eich safle neu/ar lein gyda’r logo/au electronig anghywir ar eich gwefan mae hyn yn gallu gwneud eich busnes edrych yn hen ffasiwn a dangos nad ydych yn rhan o frand Croeso Cymru. I ddarganfod gwybodaeth ynglyn a newid eich arwydd hen ffasiwn, plis cyfeirwch at Sêr Graddio Ansawdd | Drupal.

Hyd yn oed wrth aros am yr arwydd cywir, gallwch newid y logo/au ar eich gwefan – e-bostiwch quality.tourism@llyw.cymru  a gallwn anfon y logo/au cywir atoch, er mwyn i chi rhoi’r gwaith celf newydd ar ei eich gwefan.

Visit Wales brand versions bilingual

Helpu ymwelwyr i archwilio ein treftadaeth grefyddol 

Mae gan Gymru dreftadaeth grefyddol hynod ddiddorol, gyda llawer ohoni ar gael i'w mwynhau. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, gyda chymorth Croeso Cymru wedi cyflawni'r prosiect 'Profi Cymru Gysegredig' (Saesneg yn unig), gan weithio gyda phartneriaid twristiaeth a threftadaeth ffydd i groesawu ymwelwyr drwy greu profiadau a llwybrau sy'n cysylltu safleoedd ffydd a threftadaeth ehangach.

Mae cymaint i'w ddysgu drwy agor drysau eglwysi, capeli ac addoldai hynafol Cymru. Gall addoldai helpu ymwelwyr i ddarganfod mannau cysegredig rhyfeddol Cymru gyda chefnogaeth ac awgrymiadau gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol (Saesneg yn unig).

Yn ddiweddar, mae'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol hefyd wedi penodi swyddog cymorth penodol i Gymru fel rhan o'r arian Cherish (Saesneg yn unig) a ddyfarnwyd iddyn nhw gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae hyn yn rhoi cyngor a hyfforddiant ynghylch grantiau a chynnal a chadw i sicrhau bod addoldai yn parhau i fod mewn cyflwr da. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch Gareth Simpson.


Galw am: y newyddion a'r cynigion diweddaraf gan atyniadau ledled Cymru

Os ydych yn atyniad sydd â chynigion a/neu rhywbeth newydd yn digwydd dros y gwanwyn neu Pasg, rhowch wybod i ni heddiw. Rydym am ychwanegu'r wybodaeth ddiweddaraf at Croeso.Cymru a rhannu manylion gyda'n cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau. Rydym hefyd eisiau gwybod beth mae busnesau twristiaeth a lletygarwch wedi'i gynllunio ar gyfer yr Haf a'r hyn sy'n newydd ar gyfer 2024. Anfonwch ebost heddiw: productnews@llyw.cymru


Dydd Miwsig Cymru 2024

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 9 Chwefror 2024. P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

Os bydd dy fusnes yn dathlu o'r gweithle neu o gartref, mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan. Am ragor o fanylion, ewch i Dydd Miwsig Cymru 2024 | Busnes Cymru.

Ac am alawon newydd ffres gan artistiaid o Gymru edrychwch ar Restr Chwarae Cymru Greadigol ar Spotify sy'n cael ei diweddaru'n fisol.


Wythnos Prentisiaethau 2024, 5-11 Chwefror 2024

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, dathliad blynyddol prentisiaethau a’r gwerth a ddaw yn eu sgil, rhwng 5 a 11 Chwefror 2024. Mae gwybodaeth am sut i gofrestru fel cyflogwr prentisiaid a sut i recriwtio prentis ar gael ar: Wythnos Prentisiaethau 2024 | Busnes Cymru


Wythnos Awyr Dywyll 9–18 Chwefror

Mae 2024 yn croesawu drydedd Wythnos Awyr Dywyll flynyddol Cymru. Mae'r Parciau Cenedlaethol a'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gweithio gyda'i gilydd i godi ymwybyddiaeth o lygredd golau, a sut mae’n effeithio ar ein golwg ar y sêr, ein hiechyd a'n bywyd gwyllt. Edrychwch ar yr wythnos o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal Wythnos Awyr Dywyll Cymru (discoveryinthedark.wales)


Ymunwch â grŵp newydd Aurora Mynyddoedd Cambria ar WhatsApp

Mae bellach naw Safle Darganfod Awyr Dywyll ar hyd Llwybr Astro Mynyddoedd Cambria. Mae darparwyr llety ym Mynyddoedd Cambria yn cael eu hannog i ymuno â grŵp Aurora Mynyddoedd Cambria ar WhatsApp.

Os byddwch yn ymuno â'r grŵp, cewch ddiweddariadau byw o unrhyw weithgarwch Goleuni'r Gogledd yn awyr y nos uwchben Mynyddoedd Cambria wrth iddo ddigwydd, gan eich annog chi a'ch gwesteion i fynd allan i weld neu dynnu llun o Oleuni syfrdanol y Gogledd. Am ragor o fanylion ewch i https://www.mynyddoeddcambrian.com (blog yn Saesneg yn unig)


Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru i’w cael ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU ac maent yn cynnwys:

  • Strwythur y flwyddyn ysgol - Hoffem gael eich barn ar gynigion i ddiwygio dyddiadau’r tymhorau ysgol. Bwriad hyn yw creu tymhorau sy’n fwy cyfartal o ran hyd, gyda’r gwyliau wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson, ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Ymgynghoriad yn cau: 12 Chwefror 2024.  Rhagor o wybodaeth yma:  Strwythur y flwyddyn ysgol | LLYW.CYMRU
  • Adolygiad o ddyfroedd ymdrochi Cymru 2024 - Hoffem glywed eich barn ynghylch ein cynnig i ddynodi’r Warin, y Gelli Gandryll a Thraeth Nefyn, Nefyn, yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2024. Ymgynghoriad yn cau: 19 Chwefror 2024. Rhagor o wybodaeth yma: Adolygiad o ddyfroedd ymdrochi Cymru 2024 | LLYW.CYMRU

Ymgynghoriad Llywodraeth y DU

  •  Ymgynghoriad ar wirio oedran wrth werthu alcohol – Mae'r Swyddfa Gartref wedi lansio ymgynghoriad ynghylch a ddylid caniatáu i dystiolaeth adnabod ddigidol a thechnoleg chwarae rhan yn y broses o wirio oedran wrth werthu alcohol, yn ogystal ag a ddylid diwygio deddfwriaeth er mwyn pennu, ar gyfer gwerthiannau alcohol nad ydyn nhw’n digwydd wyneb yn wyneb, y dylid gwirio oedran pan fydd yr alcohol yn cyrraedd y cwsmer, yn ogystal ag adeg y gwerthu. Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw 30 Mawrth 2024. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Alcohol licensing: age verification (Saesneg yn unig).

Cronfa Buddsoddi i Gymru – Sioeau Pen Ffordd

Mae Banc Busnes Prydain yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, wedi eu telwra ar gyfer busnesau llai, i ddathlu lansiad diweddar y Gronfa Fuddsoddi i Gymru newydd gwerth £130 miliwn, sy’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol – benthyciadau llai rhwng £25,000 a £100,000, cyllid dyled rhwng £100,000 a £2 filiwn, a buddsoddiad ecwiti o hyd at £5 miliwn.

Bydd yr achlysuron hyn yn eich cynorthwyo i ddeall y gwahanol opsiynau o ran cyllid sydd ar gael trwy’r gronfa, ac yn gyfle i chi gwrdd â rheolwyr y gwahanol gronfeydd:

  • Llandudno – 20 Chwefror 2024, 9.30am i 12pm
  • Aberystwyth – 21 Chwefror 2024, 9.30am i 12pm
  • Abertawe – 22 Chwefror 2024, 8am i 10:30am
  • Casnewydd – 22 Chwefror 2024, 2:30pm i 5pm

Am fwy o wybodaeth, ewch i: Cronfa Buddsoddi i Gymru – Sioeau Pen Ffordd | Busnes Cymru


Digwyddiad ar-lein gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni – gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn y diwydiant twristiaeth

Ymunwch â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ddydd Mawrth 6 Chwefror am 1pm, am eu trafodaeth bord gron ar sut i osod mannau gwefru cerbydau trydan yn eich cyrchfan twristiaeth, gyda phwyslais arbennig ar sut y gallwch weithio gyda'ch Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO).

Bydd cyfle i drafod materion allweddol sy'n wynebu'r diwydiant ynghyd ag atebion posibl.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at sefydliadau sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth, neu gyda'r diwydiant twristiaeth, ac mae'n berthnasol i fusnesau yng Nghymru yn ogystal â'r Alban a Lloegr.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i: Gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn y diwydiant twristiaeth - Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Saesneg yn unig)


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram