Bwletin Newyddion: Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

3 Awst 2023


Abaty Neth

Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr

Heddiw (3 Awst) cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, bod prosiectau twristiaeth ledled Cymru wedi ennill cyfran o gronfa gwerth £5 miliwn Llywodraeth Cymru, sef Y Pethau Pwysig, er mwyn cynorthwyo i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf.

Mae 29 prosiect seilwaith twristiaeth yng ngogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru wedi cael buddsoddiad gan y gronfa, sy’n helpu i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach.

Mae’r gronfa, sy’n agored i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol, hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n gwella hygyrchedd a phrosiectau sy’n gwneud eu cyrchfannau yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.

2023 yw Blwyddyn Llwybrau Cymru sy'n rhoi cyfle i'r sector twristiaeth arddangos atyniadau, tirweddau a’r arfordir drwy ffyrdd a llwybrau. Mae’r prosiectau a gymeradwywyd yn dangos sut mae awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol wedi ystyried y profiad cyfan i ymwelwyr a'r seilwaith hanfodol sy'n gwneud profiad llwybr yn gyflawn, o lwybrau, i barcio i sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bawb.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi £5 miliwn mewn ystod o brosiectau newydd a fydd o gymorth i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf i bobl ledled Cymru.

“Mae’r prosiectau a gefnogir gan gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn gwneud gwir wahaniaeth. Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i’w chwarae o ran sicrhau bod taith yn un i’w chofio. Yn aml, ni sylwir ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelwyr ac o fudd i bobl sy’n byw yn yr ardal hefyd.”

Lansiwyd cronfa Y Pethau Pwysig ar gyfer 2023 i 2025 ym mis Chwefror 2023, ac mae 29 prosiect ledled Cymru wedi eu cymeradwyo i gael cyllid.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar: Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr | LLYW.CYMRU

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig, ynghyd â rhestr o'r prosiectau llwyddiannus ar gael yma: Datganiad Ysgrifenedig: Cronfa Y Pethau Pwysig 2023-25 (3 Awst 2023) | LLYW.CYMRU


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram