Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau

Gorffennaf 2023

 
 

Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladu yng Nghymru - sydd wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau yng Nghymru.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter gan ddefnyddio @NewidHinsawdd

Neges gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James

Rwy'n falch o rannu diweddariad ar gynnydd ar y camau rydym yn eu cymryd, ynghyd â Phlaid Cymru i fynd i'r afael â Diogelwch Adeiladau yng Nghymru. 

Mae saith rhan i'r diweddariad, gan gynnwys ein cynllun adeiladau amddifad, cynlluniau gwaith y datblygwr sydd ar waith gydag amserlen ar gyfer adfer, mynediad at forgeisi, y sector cymdeithasol, yn ogystal â'r cynllun cymorth i lesddeiliaid a'n gwaith i ddiwygio'r system diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Adeiladau Amddifad

Ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi ein bod yn bwrw ymlaen â 28 adeilad fel rhan o gynllun peilot Adeiladau Amddifad.

Gellir diffinio'r cynllun fel adeiladau lle mae'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, nad yw'n hysbys, neu fod yr adeilad wedi ei ddatblygu dros 30 mlynedd yn ôl.

Ar gyfer pob un o'r 28 adeilad, cysylltwyd â Pherson/Pobl Gyfrifol sy'n rhoi cyngor ar y camau nesaf. Mae ein hymgynghorwyr yn paratoi cynlluniau gwaith a gwaith sydd i'w wneud.

Bydd hyn yn rhan o ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, ac fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am gostau'r gwaith yn ein cynllun Adeiladau Amddifad. Bydd gwaith adfer yn dechrau yn fuan ar y cyntaf o'r adeiladau.

Talu am waith yn ôl-weithredol mewn 'Adeiladau Amddifad'

Rydym yn cael clywed fwyfwy am achosion lle mae lesddeiliaid wedi talu ymlaen llaw am waith diogelwch tân.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu gwaith cymwys sydd eisoes wedi'i wneud, mewn adeiladau canolig ac uchel sy'n perthyn i'r categori adeilad amddifad.

Lle mae lesddeiliaid wedi talu am waith diogelwch tân sy'n ymwneud â namau adeiladu mewn adeiladau amddifad, byddant yn cael eu had-dalu.

Gwahoddir ceisiadau gan Bersonau Cyfrifol, ar ran lesddeiliaid. Rydym yn annog Person(au) Cyfrifol sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa yma i gysylltu â swyddogion yn: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Mae lesddeiliaid sydd wedi gorfod talu i gywiro gwaith diogelwch tân mewn adeiladau a ddatblygwyd gan gwmnïau sydd wedi ymrwymo i gontract Llywodraeth Cymru. Mae’r cwmnïau hyn yn cael eu hannog i ad-dalu lesddeiliaid.

Rydym yn falch bod rhai cwmnïau eisoes wedi dechrau ad-dalu lesddeiliaid.

Cynlluniau Gwaith Datblygwyr

Ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi bod chwe datblygwr wedi llofnodi ein contract cyfreithiol rwymol sy'n sail i gytundeb ein datblygwyr, ac roedd tri datblygwr wedi cadarnhau eu bwriad i'w arwyddo.

Rydym yn falch o gadarnhau fod pob datblygwr y disgwylir iddo lofnodi ein contract cyfreithiol rhwymol bellach wedi gwneud hynny. Mae hyn yn cynrychioli eu hymrwymiad a'u bwriad i fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau y maent wedi'u datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf.

Y datblygwyr hyn yw Vistry, Countryside, Persimmon, Taylor Wimpey, Bellway, Barratts, Lovell, Crest Nicholson, McCarthy Stone a Redrow.

Mae ein contract yn nodi amserlenni llym, gan ofyn am gynlluniau gwaith a diweddariad ar y gwaith sydd ar y gweill.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod yr holl gynlluniau gwaith wedi'u derbyn, ac mae pob datblygwr yn mynd ati i ymgysylltu â ni. Rydym yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf ganlynol am y gwaith y mae datblygwyr eisoes yn ei wneud / wedi'i wneud:

  • Mae Persimmon ar y safle yn Century Wharf ac Aurora.
  • Mae Bellway ar y safle yn Prospect Place ac mae cladin ACM wedi'i dynnu o fflatiau ochr y Cei.
  • Mae McCarthy Stone wedi adfer yr holl waith diogelwch tân mewn adeiladau yng Nghymru.
  • Mae Redrow wedi darparu cyllid ar gyfer gwaith diogelwch tân mewnol yn Celestia.

Rydym yn falch bod y datblygwyr hyn wedi derbyn eu cyfrifoldebau. Mae hyn yn dangos eu hymrwymiad i ddiogelwch adeiladau. Byddwn yn monitro gwaith yn agos ac yn sicrhau bod yr amserlenni yn mynd rhagddynt i sicrhau bod y dechrau cadarnhaol hwn yn parhau.

Rydym hefyd yn falch ein bod wedi cael trafodaethau cadarnhaol gyda'r datblygwyr sy'n weddill, sy'n gweithio ar eu cynlluniau i ddechrau gwaith cyn gynted â phosibl.

Benthycwyr

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi cytuno i ymestyn eu canllawiau i briswyr i fod yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi maes o law, ac unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi byddant yn cynnwys dolen i dudalen Llywodraeth Cymru ar y we.

Bydd hyn yn cynnwys rhestr o eiddo sy'n cael eu cynnwys o fewn cwmpas ein Rhaglen Diogelwch Adeiladau - yn benodol y rhai a enwir o fewn contractau unigol y datblygwr a’r adeiladau hynny sydd wedi'u cynnwys yn y garfan gyntaf o adeiladau amddifad. Bydd hefyd yn cadw gwybodaeth fel statws adeiladu a chynlluniau adfer.

Bydd hyn yn rhoi syniad i briswyr o statws adeiladau ac yn helpu i gael gwared ar rwystrau ac yn galluogi prisio fflatiau mewn blociau yr effeithiwyd arnynt ar gyfer morgais.   

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac UK Finance i sicrhau bod lesddeiliaid mewn adeiladau y mae materion diogelwch tân yn effeithio arnynt yn gallu cael morgeisi.

Tai Cymdeithasol

Ym mis Mawrth, gwnaethom hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth yr ydym wedi'i ddarparu i adeiladau preswyl canolig ac uchel yn y sector cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy'r Grant Landlordiaid Cymdeithasol i adfer adeiladau canolig ac uchel yn y sector cymdeithasol.

Bydd y rownd ddiweddaraf a'r olaf o gyllid yn cau ym mis Gorffennaf 2023. Yn dilyn y rownd derfynol hon o geisiadau, rydym yn rhagweld y bydd holl adeiladau'r sector cymdeithasol lle rydym wedi derbyn cais cymwys, naill ai'n gyflawn neu fod ganddynt gynllun gwaith.

Cynllun cymorth i lesddeiliaid

Rydym yn ymwybodol o'r effaith sylweddol y mae materion diogelwch adeiladau yn ei chael ar breswylwyr yr effeithir arnynt, yn ariannol ac ar eu hiechyd a'u lles. Mewn ymateb i hyn, lansiwyd y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid.

Mae'r cynllun ond yn bodoli yng Nghymru ac mae wedi'i anelu at y rhai sy'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad uniongyrchol i'r problemau diogelwch adeiladau hyn.

Ym mis Mawrth, rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn adolygiad o'r cynllun. Rydym yn falch bod un eiddo wedi'i brynu ac mae pum eiddo yn mynd drwy'r broses prynu eiddo.

Os yw'r eiddo hwn yn cael ei brynu, bydd hyn yn rhoi'r opsiwn i lesddeiliaid symud ymlaen neu rentu'r eiddo yn ôl.

Rydym hefyd yn falch o weld cynnydd yn nifer yr ymholiadau yn dilyn yr adolygiad. Rydym yn parhau i annog unrhyw lesddeiliaid sydd mewn trafferthion ariannol i gwblhau ein gwiriwr cymhwysedd, i weld a allant gael gafael ar gymorth drwy'r cynllun hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cyfnod Diwygio, Dylunio ac Adeiladu a Meddiannu

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiwygio'r system bresennol o ddiogelwch adeiladau yng Nghymru. Nodwyd ein cynigion ar gyfer diwygio yn y cam dylunio ac adeiladu yn ein Papur Gwyn, Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru.

Mae cam cyntaf y diwygiadau i'r drefn rheoli adeiladu yn cael ei ddatblygu. Bydd hyn yn dechrau newidiadau deddfwriaethol i gywiro problemau a nodwyd o fewn y drefn bresennol. 

Bydd y cam cyntaf yn golygu rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladau yn fwy llym, sy'n cynnwys ardystwyr rheoli adeiladau preifat, arolygwyr adeiladau ac awdurdodau lleol sy'n arfer swyddogaethau rheoli adeiladau.

Bydd y newidiadau yn gwella lefelau cymhwysedd, tryloywder ac atebolrwydd yn y proffesiynau rheoli adeiladau. Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r sgiliau a'r cymhwysedd perthnasol sy'n cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau cyn cymryd mesurau rheoli adeiladau pwysig.

Mae nifer o ymgynghoriadau cysylltiedig wedi dod i ben yn ddiweddar a bydd ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Yn yr hydref, byddwn mewn sefyllfa i lunio’r gyfres gyntaf o is-ddeddfwriaeth, ar gyfer creu cofrestrau ar gyfer yr holl Arolygwyr Adeiladu a Chymeradwywyr Rheoli Adeiladau.

Mae'n debygol y bydd y broses gofrestru yn agor ym mis Hydref eleni, gyda'r bwriad o symud i'r drefn newydd o fis Ebrill 2024.

Bydd rhagor o wybodaeth am y trefniadau hyn yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Rydym yn gweithio'n gyflym ar Fil Diogelwch Adeiladau i Gymru, a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn Nhymor y Senedd hon. Bydd y cynlluniau hyn ar gyfer diwygio yn gwella atebolrwydd am ddiogelwch adeiladau yn ystod y cyfnod meddiannu. Y bwriad yw i'r drefn cyfnod meddiannu newydd gynnwys pob adeilad preswyl amlfeddiannaeth, nid dim ond y rhai sy'n 18 metr ac uwch fel sy'n digwydd yn Lloegr.

Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid o fewn diwydiant a gyda phreswylwyr i'n helpu i ddatblygu ein ffordd o feddwl ymhellach.

Rydym yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae rhanddeiliaid yn ei ddweud wrthym. Bydd yn cymryd amser i weithio drwy'r manylion. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw trefn sy'n gweithio'n effeithiol i ddiwallu anghenion Cymru. Un sy'n helpu i leihau'r risgiau i breswylwyr, fel y gallant deimlo'n saff ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Rydym yn parhau i ddatblygu ein Rhaglen Diogelwch Adeiladau ac yn edrych ymlaen at roi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau wrth inni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cyflawni.

 
 
 

AMDANOM NI

Diwygio’r system bresennol ynghylch diogelwch adeiladau fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Dilynwch ni ar Twitter:

@NewidHinsawdd