Cymorth Arloesi Hyblyg – Dull newydd tuag at gyllido Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yng Nghymru
Gwrandewch ar sut rydyn ni wedi helpu sefydliadau a busnesau i arloesi a chael gwybod am sut y gallwn ni eich helpu chi.
Arloeswyr yng Nghymru yn elwa ar gyllid gwerth dros £5 miliwn
Mae arloeswyr yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir allweddol gan dderbyn cyllid Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch gwerth dros £5 miliwn ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â materion amddiffyn a diogelwch.
Os oes gennych ddatrysiad newydd ar gyfer her amddiffyn neu ddiogelwch, dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Cyfarfod Cymorth ynghylch Cyllido Arloesi
27 Mehefin 2023 – ar-lein
Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, Innovate UK KTN ac Innovate UK Edge yn cynnal Digwyddiad Cyfarfod Cymorth ynghylch Cyllido Arloesi i helpu cwmnïau dethol yng Nghymru i baratoi eu hunain yn well er mwyn cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol. I archebu lle, cliciwch yma.
Digwyddiadau Ymwneud â’r Cynllun Cyflawni – ar-lein
Yn dilyn lansio’r Strategaeth Arloesi, Cymru’n Arloesi, ymunwch â ni i glywed am y gwaith o ddatblygu’r cynllun cyflawni a rhannu eich sylwadau. Rydyn ni’n cynnal dwy sesiwn ar 28 Mehefin a 4 Gorffennaf.
I gofrestru, cliciwch yma.
Cyfarfodydd Cymorth Arloesi Hyblyg SMART – ar-lein
Rydym yn cynnal cyfres o Gyfarfodydd Cymorth Arloesi i helpu sefydliadau i baratoi eu hunain i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
Y Pwynt Tyngedfennol: Ble nesaf i’r sectorau iechyd a gofal?
5 a 6 Gorffennaf 2023 - Y Celtic Manor
Ymunwch â’r Comisiwn Bevan i edrych ar ddyfodol iechyd a gofal yn ogystal â nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
|