Bwletin Newyddion: Y Dirprwy Weinidog yn croesawu’r Queen Victoria ar ei hymweliad cyntaf â Chaergybi

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

5 Mehefin 2023


QV Holyhead

Y Dirprwy Weinidog yn croesawu’r Queen Victoria ar ei hymweliad cyntaf â Chaergybi

Galwodd y llong Cunard, y Queen Victoria, ym mhorthladd Caergybi dros y penwythnos, ei hymweliad cyntaf â Chymru.

Yn ystod ei hymweliad cyntaf â phorthladd Caergybi, bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, yn croesawu criw a theithwyr y Queen Victoria i Gymru ac yn cael gweld â’i llygaid ei hunan sut mae’r llong yn gweithio.

Eleni, bydd Cymru’n croesawu mwy o longau mordeithiau nag erioed o’r blaen. Disgwylir i 81 o longau alw ym mhorthladdoedd y wlad yn ystod y flwyddyn. Yr MS Queen Victoria yw un o’r llongau fydd yn ymweld â ni am y tro cyntaf.

Dros 2023, bydd rhagor nag 80,000 o deithwyr a 39,000 o griw yn ymweld â Chymru, ac mae’r potensial iddynt wario £8.3 miliwn fel ymwelwyr undydd yn economi Cymru.

Llong fordeithiau o’r math ‘Vista’ yw’r Queen Victoria, yn eiddo i’r Cunard Line. Dyma’r llong gyntaf i gael bocsys theatr fel y rhai yn theatrau’r West End Llundain yn nhri llawr ei Royal Court Theatre, sydd â lle i gynulleidfa o 800.  Yn y cyfamser, mae ei llyfrgell sy’n rhychwantu dau ddec ac wedi’u cysylltu â grisiau sbeiral, yn gartref i 6,000 o lyfrau. Ar wasgar ar y llong, mae yna fwytai moethus, bariau, pyllau nofio a dec ar gyfer chwaraeon awyr agored.

Mae Queen Victoria Cunard yn cludo teithwyr o 28 o wledydd gwahanol ar fordaith o gwmpas Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

“Mae’n hyfryd cael croesawu teithwyr, capten a chriw MS Queen Victoria yn swyddogol i Gymru.

“Mae’n newyddion da iawn bod sut dwf wedi bod yn nifer yr ymweliadau gan longau mordeithiau â Chymru eleni. Rydym wedi bod yn gweithio’n glos â busnesau yn y sector twristiaeth i sicrhau bod ymwelwyr yn gweld y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.

“Gobeithio y gwelwn ragor o dwf, a chael croesawu llongau fel y Queen Victoria yn ôl i Gymru eto flwyddyn nesaf.”

Yn ystod eu hymweliad â Chaergybi, cafodd y mordeithwyr gynnig i fynd ar deithiau a thripiau, gan gynnwys trip Arfordir Môn, Rheilffordd Ffestiniog a Chefn Gwlad Cymru. Manteisiodd dros 800 o fordeithwyr ar dripiau i weld mwy o’r wlad, yn ogystal â mynd fel teithwyr annibynnol i ddod i adnabod yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran Cunard:

“Rydyn ni wrth ein boddau bod y Queen Victoria’n hwylio i Gymru fel rhan o fordaith 12 noson o gwmpas Ynysoedd Prydain. Gyda’i golygfeydd trawiadol a’i hanes sy’n ymestyn yn ôl i’r oes Neolithig, mae’r ymweliad â Chaergybi yn fan cychwyn perffaith ar gyfer ymweld â phentrefi tlws a chefn gwlad hardd, ac mae tirweddau ysblennydd Parc Cenedlaethol Eryri o fewn cyrraedd rhwydd i lawr y lôn.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn a deiliad portffolio’r Economi, y Cynghorydd Llinos Medi:

“Mae’r diwydiant mordeithiau’n dod â miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd i borthladd rhyngwladol Caergybi bob blwyddyn, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i Ynys Môn a Gogledd Cymru.

“Mae’r Cyngor Sir yn parhau i weithio ar y cyd â Phartneriaid Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Caergybi a pherchenogion y porthladd, Stena Line, i ddenu rhagor o longau mordeithiau ac i sicrhau bod y sector twristiaeth y rhanbarth yn cynnig y gorau i deithwyr.

“Rydym yn awyddus i wella’r croeso a’r profiadau lleol i ymwelwyr pan fyddan nhw’n dod i Gaergybi ond rydym wedi’n ffrwyno gan y cymorth ariannol sydd ar gael.”

Ychwanegodd:

“Rydym yn cael blwyddyn dda arall o ran ymweliadau gan longau ac yn disgwyl i fwy na 50 ddocio yng Nghaergybi. Mae hynny’n cynnwys yr MS Queen Victoria, ei chriw a’i theithwyr, ac rydym yn disgwyl ymlaen at eu croesawu am y tro cyntaf i Gaergybi a Chymru.”

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram