|
|
Delio â’r cynnydd mewn prisiau deunydd crai
Mae Wiltan Ltd o Bont-y-pŵl wedi ennill mantais gystadleuol drwy brynu peiriannau newydd. Darganfyddwch sut y mae cymorth Arloesi Llywodraeth Cymru wedi helpu'r busnes yma.
|
Gwobrau’r Brenin ar gyfer Menter
Mae'r gwobrau ar gyfer cyflawniad rhagorol gan fusnesau'r DU yn y categorïau canlynol:
- arloesedd
- masnach ryngwladol
- datblygu cynaliadwy
- hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol
Gallant gymryd rhan yn rhad ac am ddim. Cewch wybod mwy yma
Galwad ar y Cyd am Gynigion Cymru-Québec 2023
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec wedi lansio cais am gyllid i helpu mudiadau yng Nghymru a Quebec, Canada, er mwyn hwyluso cydweithio a phartneriaethau.
Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adferiad gwyrdd, yr economi, gwyddoniaeth ac arloesi, a’r celfyddydau a diwylliant. Cewch wybod mwy yma
Tyfu’ch busnes o safbwynt amddiffyn drwy ddefnyddio cyllid arloesi gan y Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch
Digwyddiad Ar-lein - 6 Mehefin 2023, 11:00 - 12:00
Bydd y sesiwn yn hoelio sylw ar -
- Y Rhaglen Ymelwa ar Dechnoleg Amddiffyn, y dull cyllido i gryfhau cadwyn gyflenwi allweddol y Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch a luniwyd i alluogi arloesedd o fewn y cadwyni cyflenwi amddiffyn presennol a rhai’r dyfodol.
- Benthyciadau Arloesedd Amddiffyn, cyfle cyffrous i ganiatáu cyllido syniadau arloesol aeddfed o ran masnacheiddio a dull hyfyw i ddod â’r diffyg cyllid ar gyfer arloesi i ben.
Cofrestrwch nawr
Cymorth Arloesi Hyblyg Newydd
Digwyddiad Ar-lein – 8 Mehefin 2023 – 09:30 – 10:45
Mae Cronfa Cymorth Arloesi Hyblyg SMART yn eich helpu i greu swyddi a gwella bywydau pobl drwy ysgogi ymchwil ac arloesi blaengar. Ei unig nod yw helpu sefydliadau yng Nghymru i gyflawni "Rhagoriaeth Arloesi" drwy ddatblygu Cynlluniau Arloesi ochr yn ochr â thîm o arbenigwyr sy'n darparu arbenigedd, ymgynghorwyr a chyllid.
Yn dilyn y digwyddiad bydd cyfle hefyd i gael cyfarfodydd un i un gyda chydweithwyr Arloesi. I archebu eich lle cliciwch yma
Cronfa’r Economi Gylchol
Digwyddiad Ar-lein – 8 Mehefin 2023 – 09:30 – 10:45
Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed am Gronfa’r Economi Gylchol newydd a fydd yn darparu dull pwysig i gefnogi busnesau i bontio i economi gylchol carbon sero net. Cofrestrwch yma
Gweithdy Arloesedd Agored ar y Gadwyn Cyflenwi Bwyd
AMRC Cymru - 5 Gorffennaf 2023 - 10:00 - 15:00
Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gofrestru ar gyfer gweithdy arloesedd agored i ystyried heriau a chyfleoedd o fewn ein cadwyni cyflenwi bwyd wrth i ni anelu at ddyfodol sero net mwy cynaliadwy.
Cofrestrwch yma
|