Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Awst 2023


Picture

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Nodi y dyddiad - sioeau teithiol y diwydiant hydref 2023; Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd): Ionawr i Fawrth 2023; Sianel werthu newydd gyffrous bellach yn fyw ar TXGB; Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023; Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr; Canllawiau cydymffurfio â diogelwch tân ar gyfer llety gwesteion; Perchnogion cŵn cymorth a'u hawliau; Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru; 'Gweithio gyda'n gilydd i achub bywydau' - Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r heddlu cyn cyflwyno 20mya; Datganiad Ysgrifenedig: y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023; Nodyn atgoffa: Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig; Newyddion diweddaraf Busnes Cymru.


Nodi y dyddiad - sioeau teithiol y diwydiant hydref 2023

Mae Croeso Cymru yn falch o gyhoeddi bod sioeau teithiol y diwydiant twristiaeth yn dychwelyd.  Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys sut i gofrestru ar gael yn fuan ond, yn y cyfamser, y dyddiadau rhanbarthol yw:

  • De Ddwyrain - 12 Hydref – Coldra Court Hotel
  • Gogledd - 18 Hydref – Pafiliwn Llangollen
  • Canolbarth - 25 Hydref – Prifysgol Aberystwyth
  • De Orllewin – 8 Tachwedd - Stadiwm Swansea.com

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan.


Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd): Ionawr i Fawrth 2023

Data ar deithiau undydd nos gan drigolion Prydain â chyrchfannau ledled Prydain ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 bellach wedi’u cyhoeddi.  Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019.

Am ragor o fanylion, ewch i: Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (teithiau undydd): Ionawr i Fawrth 2023 | LLYW.CYMRU


Sianel werthu newydd gyffrous bellach yn fyw ar TXGB

Mae gwefan Day Out With The Kids (Saesneg yn unig) bellach yn galluogi busnesau twristiaeth Cymru i rannu argaeledd byw a phrisiau gyda phlatfform arweiniol yn y gofod diwrnodau allan i’r teulu. Mae Day Out With The Kids yn gweithio mewn partneriaeth â TXGB er mwyn integreiddio profiad prynu tocynnau ar ei wefan. 

Bydd modd archebu gan bob busnes o Gymru sydd yn gysylltiedig â TXGB, a byddant yn gallu rhannu argaeledd byw a phrisiau ar wefan benodol fydd yn ei gwneud hi’n haws i deuluoedd ddarganfod ‘Pethau i’w Gwneud’. Ymwelir â’r wefan fwy na 35 miliwn o weithiau bob blwyddyn.

Cewch ragor o wybodaeth ar Llyw.Cymru.


Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023:

  • Lloegr v Seland Newydd Gêm Griced Ryngwladol Un Diwrnod, 8 Medi, Gerddi Sophia, Caerdydd - Y gêm hon yw'r Gêm Ryngwladol Un Diwrnod (ODI) gyntaf yn y gyfres o 4 gêm rhwng y ddwy ochr.
  • Cam Wyth Taith Prydain, 10 Medi, Parc Gwledig Margam – Bydd Taith Prydain eleni yn cynnwys dychwelyd i ddringo Mynydd Caerffili am y tro cyntaf ers 2013. Bydd dros 100 o feicwyr gorau'r byd yn rasio o Barc Gwledig Margam i'r llinell derfyn yng nghysgod Castell Caerffili.

Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr

Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden ar 3 Awst bod prosiectau twristiaeth ledled Cymru wedi ennill cyfran o gronfa gwerth £5 miliwn Llywodraeth Cymru, sef Y Pethau Pwysig, er mwyn cynorthwyo i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf.

Mae 29 prosiect seilwaith twristiaeth yng ngogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru wedi cael buddsoddiad gan y gronfa, sy’n helpu i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar: Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr | LLYW.CYMRU


Canllawiau cydymffurfio â diogelwch tân ar gyfer llety gwesteion

Canllawiau ar sut i gydymffurfio â chyfraith diogelwch tan mewn safleoedd llety bychain, megis llety gwely a brecwast a safleoedd hunanarlwyo: Sut i ddiogelu eich llety gwesteion rhag tân | LLYW.CYMRU


Perchnogion cŵn cymorth a'u hawliau

Nid anifeiliaid anwes yw cŵn cymorth ac anogir busnesau i ddiwygio unrhyw bolisi "dim cŵn" i un sy'n caniatáu mynediad i gŵn cymorth.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi creu canllaw i helpu busnesau twristiaeth i groesawu pobl sydd â gofynion mynediad. Mae'n egluro beth yw eich dyletswyddau cyfreithiol i berchnogion cŵn cymorth, ac mae'n cynnwys rhai cwestiynau defnyddiol a holir yn aml. Darllenwch y canllaw yma: *Take the lead: a guide to welcoming customers with assistance dogs | Equality and Human Rights Commission (equalityhumanrights.com)

Gall busnesau ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol arall isod:

  • Dysgwch am ymgyrch Drysau Agored Cŵn Tywys yma: *Access Refusal Campaigns | Guide Dogs UK
  • Gweld y fideo ymwybyddiaeth a gynhyrchwyd gan Assistance Dogs UK (ADUK) sy'n tynnu sylw at y gwahanol fathau o gŵn cymorth a'u rolau, a hawliau perchnogion cŵn cymorth i gael mynediad i fusnesau gyda'u cŵn: *Assistance Dogs UK - ADUK

*Saesneg yn unig


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru

Heddiw (8 Awst), cyhoeddodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth fod Kate Eden wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru. Fel Cadeirydd Amgueddfa Cymru, bydd Kate yn atebol i Weinidogion Cymru am weithrediad Amgueddfa Cymru ac yn gyfrifol am gadeirio a goruchwylio’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru: Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru | LLYW.CYMRU


'Gweithio gyda'n gilydd i achub bywydau' - Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r heddlu cyn cyflwyno 20mya

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â heddluoedd I helpu I addysgu modurwyr cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ym mis Medi.  Er mwyn paratoi modurwyr ar gyfer y newid sylweddol hwn, mae Llywodraeth Cymru a'r heddlu yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân, GanBwyll (Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru), awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol eraill i addysgu modurwyr.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar: 'Gweithio gyda'n gilydd i achub bywydau' - Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r heddlu cyn cyflwyno 20mya | LLYW.CYMRU


Datganiad Ysgrifenedig: y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023

Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 8 Awst:

Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o raglen frechu COVID-19, Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) heddiw (8 Awst 2023) wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys yn rhaglen frechiadau atgyfnerthu’r hydref yn erbyn COVID-19 yn 2023. Fel erioed, prif nod rhaglen frechu COVID-19 yw hybu imiwnedd ymhlith y rheini sydd â risg uwch pe baent yn cael COVID-19 a sicrhau mwy o amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i’r ysbyty a marwolaeth.

Darllenwch y datganiad ysgrifenedig yn llawn ar: Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu – y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023 (8 Awst 2023) | LLYW.CYMRU


Nodyn atgoffa: Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig

Awdurdodiad Teithio Electronig Trwydded i gael mynediad i Brydain yw’r Awdurdodiad Teithio Electronig a fydd ar gael yn fuan ar-lein.  Bydd yn galluogi teithwyr o wledydd cymwys i ymweld â Phrydain Fawr am nifer o wahanol resymau heb gael visa. Bydd Awdurdodiad Teithio Electronig yn costio £10 yr un

Mae canllawiau a gwybodaeth am y cynllun ar gael yn Gov.UK (www.gov.uk) ac mae pecyn cyfathrebu ar gael i helpu gyda’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a pharatoi ymwelwyr.

Mae fideos cam wrth gam am weithdrefnau ar y ffin wrth deithio i'r DU wedi'u cyhoeddi gan yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer Cytundebau Hawliau Dinasyddion (IMA). Gallwch weld y fideos ar wefan IMA.


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram