Bwletin Newyddion: Ymgyrch Dyddiau Allan - Y Diwydiant Teithio

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

28 Mehefin 2023


image

© Tracey Rogers


Ymgyrch Dyddiau Allan y Loteri Genedlaethol yn dychwelyd ar gyfer haf 2023

Mae Croeso Cymru yn gweithio’n agos gyda VisitBritain, sydd yn falch iawn o gyhoeddi ymgyrch newydd Dyddiau Allan y Loteri Genedlaethol ar gyfer 2023, sydd yn lansio’r haf hwn. Bydd yr ymgyrch newydd sydd yn lansio ar 3 Gorffennaf yn caniatáu deiliaid tocynnau’r Loteri Genedlaethol i gael taleb gwerth £25 i’w gwario ar unrhyw brofiad sydd ar gael o Siop VisitBritain. Mae’r ymgyrch yn cael ei noddi’n llawn gan fenter Dyddiau Allan y Loteri Genedlaethol gyda phwyslais arbennig ar ymweliadau sy’n digwydd yn ystod hanner tymor yr Hydref a hyd at fis Ionawr 2024.

Os ydych yn fusnes sydd eisoes wedi cysylltu â TXGB, sicrhewch eich bod wedi dewis siop VisitBritain fel dosbarthwr, bod gennych chi argaeledd byw o 3 Gorffennaf am 6 mis o leiaf, a bod argaeledd i archebu drwy gydol yr wythnos. Mae’n bosibl bod amser ar ôl i ymuno â’r ymgyrch yn ddiweddarach os nad ydych wedi cysylltu â Siop VisitBritain/TXGB ar hyn o bryd, a’ch bod yn dymuno cymryd rhan, mae rhagor o fanylion yma.


World Travel Market, 6-8 Tachwedd 2023 - cofrestrwch erbyn canol dydd 5 o Orffennaf 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i'r Diwydiant Teithio rhyngwladol gan gynnwys gweithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio?  Ymunwch â ni yn y World Travel Market (WTM), y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir rhwng 6-8 Tachwedd 2023 yn ExCeL Llundain. 

Mae arddangos yn WTM yn cynnig cyfle unigryw i gyfarfod, rhwydweithio, trafod a gwneud busnes gyda mwy na 50,000 o weithwyr proffesiynol ym maes teithio rhyngwladol, o fwy na 38 sector o'r diwydiant teithio.  Rydym wedi sicrhau lle i bartneriaid Cymru ar stondin UKinbound, sydd mewn lleoliad ardderchog yn rhan flaen Neuadd y DU ac Iwerddon.

I gymryd rhan mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb a’ch bod yn gallu contractio a gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio, a chynnig cyfraddau comisiwn/net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety fod wedi'u graddio gan Croeso Cymru neu AA.  Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.

Er mwyn helpu i adfer y diwydiant mae cyfraddau gostyngol sylweddol Croeso Cymru bellach ar gael ar gyfer pod partner: bydd ein cymhorthdal yn galluogi partneriaid cymwys i ymuno â ni ar gyfraddau â chymhorthdal 2022 er gwaethaf y cynnydd mewn prisiau ar gyfer 2023 (cymhorthdal o 50% o gostau cymryd stondin yn 2022 i gyflenwyr twristiaeth Cymru, yn amodol ar reoliad  MFA/Symiau Bach o Gymorth Ariannol (SAFA)/de minimis). 

Pod partner: £3,330 + TAW, os rhoddir cymhorthdal i dalu 50% o gostau cymryd stondin yn 2022, yn amodol ar reoliad MFA/SAFA/cymorth de minimis (cost y pod llawn bellach yw £7,990 + TAW). Ar hyn o bryd nid oes opsiynau byrddau cyfarfod ar gael.

Mae'r manylion llawn a sut i archebu ar gael ar: Digwyddiadau masnach teithio | Drupal (llyw.cymru)

 I sicrhau eich pod, cofrestrwch erbyn canol dydd ar 5 o Orffennaf 2023. I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch traveltradewales@llyw.cymru


Darganfod Cymru 2023

Mae Croeso Cymru, mewn partneriaeth ag aelodau UKinbound, De Cymru, Croeso Caerdydd a ‘The Royal Mint’ yn falch o gyhoeddi Darganfod Cymru 2023, a fydd yn digwydd ar 9-10 Hydref 2023.

Bydd yn gyfle i drefnwyr teithiau UKinbound ymweld â De Cymru a phrofi cynnyrch rhyngwladol sy’n gyfeillgar i’r Fasnach Deithio. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfle rhwydweithio gyda’r nos a gweithdy hanner diwrnod yng Nghaerdydd i gwrdd â’r 30 o brynwyr sy’n canolbwyntio ar y farchnad ryngwladol. Mae busnesau o Gymru sydd wedi gweithio gyda’r Fasnach Deithio ryngwladol/wedi mynychu digwyddiadau yn y Fasnach Deithio ryngwladol gyda Croeso Cymru yn y gorffennol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth drwy’r ddolen hon a’r dyddiad cau ar gyfer ‘mynegi diddordeb’ i gymryd rhan yw 30 Mehefin 2023, neu’n gynt os yw’r holl leoedd cyfyngedig yn cael eu gwerthu.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram