Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Mai 2023


hiking

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Y Diweddaraf: Llwybrau; Gwella sgiliau’ch gweithwyr gyda'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg; Yr Ymgyrch Creuwyr Profiad; Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2023 - gallwch wneud cais yn awr; Dweud eich dweud am gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru; Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023; Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghori ar ryddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru; Annog pobl i fwynhau arfordir Gwynedd yn ddiogelu; Gwerth Twristiaeth – Arolwg STEAM Gwynedd 2022; Cynllun Llysgenhadon Sir Gâr; Gwobrau Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023; Pecyn Cymorth Digidol i Fusnes; Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio hwb ar lein i fusnesau bwyd; Nodyn atgoffa: Awdurdodiad Teithio  Electronig.


Y Diweddaraf: Llwybrau. 

Bydd cam nesaf ein hymgyrch “Llwybrau”, sy’n gwahodd ymwelwyr a phobl Cymru i ddilyn eu trywydd epig eu hunain yng Nghymru, yn cael ei lansio’r wythnos hon ar deledu a fideo ar alw ledled y DU ac yng Nghymru, a byddd yn cael ei hategu gan ymgyrch ddigidol integredig ar bob prif blatfform.

Rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweld cynifer o bartneriaid a busnesau yn defnyddio logo Llwybrau ac yn rhannu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol – diolch ichi a daliwch ati i wneud hynny. Mae Canllaw ar y Gynulleidfa 2023 ar gyfer “Llwybrau ar gael i’w weld. Cofiwch gael cip arno.

Dyma dair ffordd hawdd ichi a’ch busnes fod yn rhan o’r ymgyrch:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich graddio a/neu’ch achredu – unwaith y bydd wedi cael ei raddio, gall pob darparwr llety, gweithgaredd ac atyniad gael ei gynnwys ar croeso.cymru. Os ydych wedi cael eich graddio eisoes, gwnewch yn siŵr bod eich tudalen yn gyfredol, a’i bod yn cynnwys lluniau a fideos newydd a diweddar a’r holl wybodaeth am eich busnes y mae ei hangen ar ymwelwyr.
  2. Cofiwch gadw mewn cysylltiad â ni. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â newyddiadurwyr, golygyddion cylchgronau a gweithwyr yn y cyfryngau. Os oes gennych unrhyw gynigion arbennig neu os ydych yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau arbennig, cofiwch roi gwybod inni drwy anfon e-bost at productnews@llyw.cymru er mwyn inni gael rhannu’r manylion gyda’r bobl gyswllt sydd gennym yn y cyfryngau. Cofiwch roi gwybod inni hefyd os ydych yn cynnig rhywbeth gwahanol neu newydd a fyddai’n apelio at ymwelwyr. Gallem ddefnyddio gwybodaeth o’r fath i ledaenu straeon positif er mwyn hyrwyddo Cymru.
  3. Darllenwch ein canllaw i’r diwydiant ar “Llwybrau” er mwyn cael cyngor a syniadau am sut y gallwch chi elwa ar y thema Llwybrau. Gallwch lawrlwytho’r logo i’w ddefnyddio yn eich deunyddiau marchnata eich hun ac mae gennym hefyd lawer o luniau o safon uchel y gallwch eu defnyddio – maent ar gael yn rhad ac am ddim i fusnesau sy’n hyrwyddo Cymru. Mae’r rhain ar gael yn ein “pecyn cymorth Llwybrau”. Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #Llwybrau yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn inni fedru helpu i rannu’ch cynnwys.

Gwella sgiliau’ch gweithwyr gyda'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP)

Mae cyllid ar gael i helpu gweithwyr mewn  busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynd ar gyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'r sector. Gall y cyrsiau hynny gynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein.

I weld pa hyfforddiant y gellir cynnig cymorth ar ei gyfer a sut i wneud cais, ewch i Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru Porth Sgiliau

Rhaid cadarnhau bod eich cais wedi’i gymeradwyo cyn i'r hyfforddiant ddechrau.


Yr Ymgyrch Creuwyr Profiad  

Mae gwaith yn parhau yn 2023/24 ar yr ymgyrch #CreuwyrProfiad i godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd gyrfa ystyrlon ym maes twristiaeth a lletygarwch. Aed ati ar y cyd â busnesau i ddatblygu tair astudiaeth achos a ffilm newydd: Zip World, Gwesty Trewythen a Bwyty ac Ystafelloedd Ynyshir. Mae’r rhain, ynghyd â'r astudiaethau achos eraill, i’w gweld ar Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch | Cymru’n Gweithio (llyw.cymru)

Bydd rhagor o weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio clipiau o'r ffilmiau ac rydym yn gweithio gyda dylanwadwyr ar Instagram i dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael ar draws y sector ar gyfer pobl o bob oed beth bynnag eu sgiliau. Rydym hefyd yn parhau i rannu’r arferion gorau ym maes recriwtio a chadw staff er mwyn helpu busnesau i ddenu a chadw staff.

Mae'r pecyn cymorth recriwtio ac asedau eraill i helpu busnesau sy'n recriwtio staff ar gael ar Asedau: EMCP | Croeso Cymru


Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2023 - gallwch wneud cais yn awr

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau ledled Cymru.

Mae'r Rhaglen Brentisiaethau'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 16 Mehefin 2023. Am ragor o fanylion, ewch i Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2023 | Busnes Cymru


Dweud eich dweud am gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru

Mae Cymwysterau Cymru yn adolygu cymwysterau yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr, er mwyn eu paratoi i lwyddo mewn byd sy'n newid yn barhaus. 

Ar ôl adolygu cymwysterau yn y sectorau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo yn ddiweddar, gwnaethant ganfod nad yw'r cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo ôl-16 presennol yn bodloni anghenion dysgwyr na'r diwydiant yn llawn. Mae'r sector hwn yn cynhyrchu biliynau ar gyfer yr economi ac yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru.

Mae angen i Cymwysterau Cymru wneud rhai newidiadau i gymwysterau i sicrhau eu bod nhw’n bodloni anghenion newidiol dysgwyr a busnesau yng Nghymru, felly maent wedi lansio ymgynghoriad ar gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru i gasglu adborth ar eu cynigion ar gyfer cymwysterau newydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner nos ar 2 Mehefin 2023. I gael rhagor o fanylion ewch i Dweud eich dweud am gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru | Busnes Cymru


Digwyddiadau a ariennir gan Ddigwyddiadau Cymru 2023:

  • Gŵyl Devauden, Sir Fynwy, 26-28 Mai  -  Mae’r ŵyl hon o gerddoriaeth amrywiol yn cael ei chynnal ar 4 llwyfan ym mhentref Devauden, Cas-gwent. Mae’n addas iawn ar gyfer teuluoedd ac mae bwyd a diod lleol ar gael. Mae Gŵyl Devauden yn rhan o strategaeth ehangach yr elusen o roi cyfle i bobl leol fwynhau’r celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol a chymunedol.
  • Big Retreat, Sir Benfro, 1-4 Mehefin  -  Mae Gŵyl y Big Retreat wedi bod yn cael ei chynnal ers 2016. Y nod yw bod yn un o ddigwyddiadau gorau’r byd sy’n gosod y safonau uchaf o ran arloesi, cynhwysiant, creadigrwydd, cynaliadwyedd, dathlu’r awyr agored, a llesiant. Bydd yr ŵyl yn cynnwys yr holl agweddau ar diwylliant Cymru, gan gynnwys cerddoriaeth, drama, sgiliau syrcas, sinema, barddoniaeth a phob ffurf greadigol o gelfyddyd a dylunio.
  • Gŵyl Gottwood, Ynys Môn, 8-11 Mehefin  - Gŵyl gerddoriaeth electronig, bwtîc, annibynnol uchel ei bri yw Gottwood. Bydd yr artistiaid sy’n perfformio yn gyfuniad o berfformwyr llwyddiannus a pherfformwyr newydd talentog.
  • Out & Wild, Sir Benfro, 9-11 Mehefin  -  Mae gŵyl tridiau Out & Wild yn cael ei chynnal yn ystod Mis Pride. Mae’r ŵyl yn rhoi cynhaliaeth i’r rhannau hynny o’r gymuned sy’n teimlo’n aml eu bod yn cael eu cau allan. Y ffocws fydd ailgysylltu â chi’ch hun ac ag eraill drwy rannu profiadau. Cynhelir gweithgareddau lle bydd pobl yn gallu ‘ymgolli’, a byddant yn amrywio o chwaraeon a chadw’n heini i ioga a myfyrio, gweithdai bwyd a diod, yn ogystal â gweithgareddau celfyddydol, cerddoriaeth fyw a chomedi. 
  • Penwythnos y Cwrs Hir, Sir Benfro, 30 Mehefin - 2 Gorffennaf  -  Bob blwyddyn bydd Sir Benfro yn cynnal un o’r digwyddiadau anoddaf ond mwyaf gwerth chweil yng Nghymru – Penwythnos y Cwrs Hir. Mae’r digwyddiad unigryw hwn, lle mae athletwyr yn cystadlu ar draws tair disgyblaeth, yn para tridiau.

Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghori ar ryddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru

Ar 16 Mai 2023, lansiodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ymgynghoriad ar gynigion am ryddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig. Gallwch ddarllen y datganiad llawn ar Llyw.Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ar drywydd ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: Rhyddhad ardrethi gwelliannau.  Cyfnod yr ymgynghoriad: 16/05/23 -08/08/23.


Annog pobl i fwynhau arfordir Gwynedd yn ddiogelu

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn annog pawb sy’n manteisio ar y cyfle i fwynhau traethau ac arfordir Gwynedd, i wneud hynny’n ddiogel. I ddarllen y datganiad, ewch i Annog pobl i fwynhau arfordir Gwynedd yn ddiogel dros y cyfnod gwyliau (llyw.cymru).

Gall busnesau hefyd helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo negeseuon diogelwch allweddol. Mae Adventure Smart wedi creu pecyn cymorth ac ynddo gyfres o adnoddau a syniadau y gall busnesau eu defnyddio i annog pobl i fwynhau'n harfordir a'n cefn gwlad yn ddiogel.

Os ydych yn fusnes ger yr arfordir, gallech chi hefyd helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo negeseuon allweddol am y dŵr drwy ddod yn un o lysgenhadon lleol y RNLI.


Gwerth Twristiaeth – Arolwg STEAM Gwynedd 2022

Gofynnir i fusnesau llety ac atyniadau gwblhau Arolwg STEAM Gwynedd 2022. Mae’r arolwg yn bwriadu cael darlun cywir a chyflawn o nifer yr ymwelwyr a gwerth twristiaeth i Wynedd yn 2022. Mae’r canlyniadau yn helpu i benderfynu faint o arian bydd Gwynedd yn ei dderbyn tuag at y gost i wasanaethau cyhoeddus. Cymerwch ran, os gwelwch yn dda, trwy fynd i Arolwg STEAM Gwynedd 2022 (llyw.cymru).

Bydd yr holiadur yn agored hyd at yr 30 Mehefin 2023.


Cynllun Llysgenhadon Sir Gâr

Er mwyn eich helpu i chwarae'ch rhan wrth annog ymwelwyr i aros a gwario'u harian yn yr economi leol, mae Cyngor Sir Gâr wedi datblygu'r Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth.

Bydd y cynllun yn gyfle ichi ddysgu mwy am y sir fawr ac amrywiol honno drwy ddarparu modiwlau ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys gwybodaeth am eich eich tref benodol chi.

I gael gwybod mwy am y manteision ac am sut i fod yn rhan o’r cynllun, ewch i Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru)


Gwobrau Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023

Gallwch nawr gyflwyno enwebiadau ar gyfer Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023!

Mae Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol yn unigolion a grwpiau sy'n mynd y filltir ychwanegol mewn Parciau Cenedlaethol ac ar eu cyfer. O brosiectau ar raddfa fawr sy'n helpu natur i adfer i grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol i Barciau Cenedlaethol a gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl i ymweld yn gyfrifol. Mae degau o filoedd o Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol yn gweithio o ddydd i ddydd, ar y dasg ddiddiwedd hon. Gwobrau blynyddol Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol yw'r cyfle i gydnabod a gwobrwyo'r ymdrechion hyn.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 11.59pm ar 4 Mehefin 2023.

Am ragor o fanylion, ewch i Gwobrau Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023 | Busnes Cymru


Pecyn Cymorth Digidol i Fusnes

Mae rhedeg busnes yn haws pan fydd gennych yr offer a’r systemau cywir yn eu lle. Mae gan Cyflymu Cymru i Fusnesau Becyn Cymorth Digidol i Fusnesau newydd sbon a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r feddalwedd ddiweddaraf sydd ar gael a dewis beth sy’n iawn i’ch busnes.


Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio hwb ar lein i fusnesau bwyd

Mae hwb ar-lein newydd a lansiwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dwyn ynghyd ganllawiau ar sut i sefydlu busnes bwyd, sut i gyflawni sgôr hylendid bwyd da a rheoli alergenau i gadw cwsmeriaid yn ddiogel. Am ragor o fanylion, ewch i: Canllawiau i fusnesau bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd


Nodyn atgoffa: Awdurdodiad Teithio Electronig

Trwydded i gael mynediad i Brydain yw’r Awdurdodiad Teithio Electronig a fydd ar gael yn fuan ar-lein.  Bydd yn galluogi teithwyr o wledydd cymwys i ymweld â Phrydain Fawr am nifer o wahanol resymau heb gael visa. Bydd yr UK ETA ar gael yn y blynyddoedd  nesaf. Unwaith y caiff ei gyflwyno bydd angen caniatâd ar ymwelwyr tramor, gan gynnwys y rhai o wledydd sydd wedi’u heithrio rhag gofynion visa, i ddod i mewn i’r DU.

Mae canllawiau a gwybodaeth am y cynllun ar gael yma: Electric Travel Authorisation (ETA) - GOV.UK (www.gov.uk) ac mae pecyn cymorth cyfathrebu ar gael ar gyfer rhanddeiliaid a phartneriaid.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram