Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

27 Ebrill 2023


Caernarfon Castle

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Nawr ar agor: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd, diolch i fuddsoddiad gwerth £5 miliwn; Wythnos Twristiaeth Cymru 2023 yn dechrau 15 Mai - Cymerwch ran; Datgelu effaith economaidd ‘Brwydr yn y Castell’; Nifer yr ymwelwyr â safleoedd Cadw ar y trywydd cywir i adfer yn llawn ar ôl Covid; Y Prif Weinidog yn ymweld ag Aberdaugleddau cyn tymor ymwelwyr yr haf; Ydych chi yn cynnig gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain?; Adolygiad o’r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder: galw am dystiolaeth 2023; Lansio grant Coetiroedd Bach; Uwch Bencampwriaeth Agored 2023 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl: 27–30 Gorffennaf; Mis Cenedlaethol Cerdded – Mis Mai; Newyddlen busnes newydd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru; O'r rheilffyrdd i'r Llwybrau - Trafnidiaeth Cymru; Cynllun Llysgennad Gwynedd – modiwl UNESCO Safleoedd Treftadaeth y Byd; Cronfa Gwasanaethau Cymunedol ‘Pub is the Hub’; Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Yn Hawlio Ei Enw Cymraeg; Helpwch ymwelwyr â Gogledd Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd cywir; Pecyn Coroni VisitBritain.


Nawr ar agor: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd, diolch i fuddsoddiad gwerth £5 miliwn

Heddiw, cyhoeddodd Cadw fod prosiect cadwraeth a datblygu 3 blynedd o hyd ym Mhrif Borthdy Castell Caernarfon wedi’i gwblhau, gan roi mynediad i rannau o’r castell nas gwelwyd yn agos ers canrifoedd.

Mae’r buddsoddiad mawr hwn, gwerth £5 miliwn, yn cynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau’r porthdy. Mae lifft wedi’i osod hefyd sy’n caniatáu mynediad i bawb i’r lefelau uchaf, y tro cyntaf, yn ein tyb ni, ar gyfer unrhyw safle Treftadaeth y Byd tebyg yn y DU. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y castell yn groesawgar ac yn hygyrch ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r ardal leol. Mae cynnig arlwyo newydd, mannau addysgol a manwerthu, a chyfleusterau hygyrch i ymwelwyr hefyd wedi’u cynnwys yn y gwaith, gan gynnwys cyfleuster Llefydd Newid. Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a gan £1.04 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth, a reolir gan Croeso Cymru. 

Yn ganolog i’r prosiect gwella mae dehongliad artistig newydd, sy’n canolbwyntio ar y thema: ‘y dwylo a adeiladodd y Castell’. Nod y dull modern hwn o ddehongli yw cyflwyno stori’r Castell o safbwynt gwahanol, gan annog ymwelwyr i ailfeddwl sut maen nhw’n gweld hanes y safle. Cefnogwyd y gwaith o gyflwyno’r prosiect gan Buttress Architects a Grosvenor Construction, a ailosododd lefelau llawr tyrau’r porthdy, yn ogystal ag adeiladu stepiau newydd o’r llawr cyntaf i’r dec ar y to, a gosod gwydr ysgafn clir i ddarparu mynediad heb stepiau i’r to.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Nawr ar agor: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd, diolch i fuddsoddiad gwerth £5 miliwn | LLYW.CYMRU


Wythnos Twristiaeth Cymru 2023 yn dechrau 15 Mai - Cymerwch ran

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle i safleoedd twristiaeth ledled Cymru godi ymwybyddiaeth o'r sector ac arddangos ansawdd yr hyn sydd ar gael i dwristiaid – twristiaid o’r DU a thwristiaid rhyngwladol. 

Eleni y thema yw Atebion Cynaliadwy; Arferion a Menter.  Bydd hefyd yn parhau i gefnogi ymgyrch sgiliau a recriwtio’r sector Twristiaeth a Lletygarwch, sef #crewyrprofiad – gan helpu i dynnu sylw at yrfaoedd a chyfleoedd gwaith yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.

Caiff yr ymgyrch ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chymru’n Gweithio Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch | Cymru’n Gweithio (llyw.cymru).

Dysgwch fwy am Wythnos Twristiaeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael ichi, a sut i gofrestru eich digwyddiad ar: Wythnos Twristiaeth Cymru – Cynghrair Twristiaeth Cymru (wta.org.uk).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno ar y cyfryngau cymdeithasol: Cadwch lygad am swyddi gan ddefnyddio #crewyrprofiad a'u rhannu ar draws eich platfformau – helpwch ni i annog rhagor o bobl i weithio maes twristiaeth a lletygarwch.


Datgelu effaith economaidd ‘Brwydr yn y Castell

Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod y buddsoddiad yn nigwyddiad "Clash at the Castle" WWE yng Nghaerdydd yn 2022 wedi talu ar ei ganfed drwy roi £21.8 miliwn yn ôl i economi Cymru.

Fe wnaeth Cymru gynnal digwyddiad stadiwm mawr cyntaf WWE yn y DU ers 30 mlynedd ym mis Medi 2022. Roedd nifer o uchafbwyntiau i’r digwyddiad, a ddiddannodd yr ymwelwyr â Stadiwm Principality Caerdydd, gan gynnwys set wedi'i ddylunio'n arbennig a oedd yn adlewyrchu castell unigryw'r ddinas.

Llwyddodd y digwyddiad i ddenu cynulleidfa fyd-eang o filiynau, gan gyflwyno Cymru i gartrefi cefnogwyr WWE ym mhob cornel o'r byd.

Roedd yr Astudiaeth Effaith Economaidd a luniwyd yn annibynnol yn gofyn am farn dros 3,000 o ymatebwyr. Yn ôl yr astudiaeth:

  • gwnaeth 62,296 o bobl fynychu’r digwyddiad yn y Stadiwm Principality
  • roedd 75.3% o'r gwylwyr yn dod o'r tu allan i Gymru
  • nododd 57% o'r bobl nad oeddent yn lleol fod mynychu’r digwyddiad wedi codi awydd arnynt i archwilio rhannau eraill o Gymru. O blith y rhai a ddywedodd eu bod eisiau dychwelyd, dywedon nhw mai eu profiad nhw o'r digwyddiad oedd y prif reswm am hynny
  • denodd y digwyddiad gynulleidfa amrywiol, gyda bron i chwarter y gwylwyr yn fenywod, a gwnaeth llawer o'r gwylwyr fynychu fel grwpiau teuluol.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Nifer yr ymwelwyr â safleoedd Cadw ar y trywydd cywir i adfer yn llawn ar ôl Covid

Mae nifer yr ymwelwyr â safleoedd â staff Cadw wedi cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ariannol 2022/23, gan gyrraedd 92% o'r lefelau cyn COVID ac mae rhai safleoedd bellach yn denu mwy o ymwelwyr nag oeddent cyn COVID.

  • Cafwyd dros 1.1 miliwn o ymweliadau â 23 o safleoedd â staff Cadw rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.
  • Mae nifer yr ymwelwyr â safleoedd â staff Cadw wedi adfer i 92% o'r lefelau cyn COVID.
  • Amcangyfrifir hefyd fod ymhell dros 1 miliwn o ymweliadau wedi cael eu gwneud â safleoedd heb staff Cadw.
  • Mae'r incwm, gan gynnwys ymweliadau â safleoedd Cadw, wedi adfer i’r lefelau cyn-COVID, sef £9.6m ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.

Cewch ragor o wybodaeth ar: Nifer yr ymwelwyr â safleoedd Cadw ar y trywydd cywir i adfer yn llawn ar ôl Covid | LLYW.CYMRU


Y Prif Weinidog yn ymweld ag Aberdaugleddau cyn tymor ymwelwyr yr haf

Ar 20 Ebrill, aeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ar ymweliad ag Aberdaugleddau wrth i Gymru baratoi ar gyfer tymor ymwelwyr prysur arall yr haf hwn.

Aeth y Prif Weinidog i ymweld â gwesty Tŷ Hotel Milford Waterfront i glywed am y paratoadau sydd ar droed ar gyfer yr haf. Gan ddathlu ei phen-blwydd cyntaf ym mis Ebrill, mae’r gwesty 100 stafell yn fenter rhwng Celtic Collection a Phorthladd Aberdaugleddau ac yn cyflogi dros 60 o bobl.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Ydych chi yn cynnig gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain?

Mae hygyrchedd yn rhan annatod o’r cynnwys sydd ar wefan Croeso Cymru.  Mae nifer o erthyglau sy’n tynnu sylw at lety, atyniadau a gweithgareddau hygyrch.

Mae erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn tynnu sylw at atyniadau a digwyddiadau sy’n cynnwys opsiynau Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

ar gyfer ymwelwyr sydd â nam ar eu clyw.  Os ydych yn cynnig gwasanaethau BSL ac yr hoffech gael eich cynnwys yn yr erthygl hon, gadewch inni wybod drwy anfon ebost at Cynnwys.croesocymru@llyw.cymru.

Bydd sicrhau bod nodweddion hygyrchedd eich cynnyrch yn cael eu cynnwys yn eich rhestr o gynnyrch yn helpu defnyddwyr sicrhau bod eu hymweliad yn bodloni eu hanghenion.


Adolygiad o’r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder: galw am dystiolaeth 2023

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo (MAC) yn cynghori llywodraeth y DU (UKG) ar faterion mudo ac yn darparu cyngor annibynnol ac yn seiliedig ar dystiolaeth i lywodraethau y DU a datganoledig.

Mae'r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder (SOL) yn rhestr o swyddi gweithwyr medrus y mae llywodraeth y DU yn ystyried eu bod yn brin. Ar gyfer swyddi ar y SOL, mae'r rheolau mewnfudo ar gyfer fisas gwaith yn cael eu llacio, gan ei gwneud hi'n haws i weithwyr tramor sydd â'r sgiliau perthnasol ddod i'r DU.

Mae'r MAC eisiau gwybod barn rhanddeiliaid am y swyddi sy'n cael eu llenwi gan weithwyr mudol, ac mae angen i sefydliadau a busnesau ddarparu tystiolaeth ar gyfer swyddi maen nhw'n credu y dylid eu hychwanegu at y SOL.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall sefydliadau Twristiaeth a Lletygarwch fwydo tystiolaeth i'r MAC ewch i - Adolygiad o Restr o Alwedigaethau lle ceir Prinder: cais am dystiolaeth 2023 | LLYW.CYMRU.


Lansio grant Coetiroedd Bach

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau derbyn ceisiadau am y Grant Coetiroedd Bach.

Bydd y grant yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025. Yn dilyn creu pum coetir bach fel rhan o gynllun peilot yn 2020, agorodd y cynllun hwn, sydd â chyllid gwerth £2.26 miliwn, ar 3 Ebrill.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gweithredu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru

Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer pobl i greu coetiroedd bach. Rhaid i'r coetiroedd hyn fod â'r potensial i fod yn rhan o Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sydd

  • yn cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi'r cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU

Mae rhagor o wybodaeth am ddull Tiny Forest ar gael ar: Tiny Forest (earthwatch.org.uk)


Uwch Bencampwriaeth Agored 2023 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl: 27–30 Gorffennaf

Gall cefnogwyr chwaraeon weld rhai o enwau mwyaf y byd golff yn un o gyrsiau pennaf Ewrop wrth i "Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn” ddychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl am y tro cyntaf mewn chwe blynedd o 27–30 Gorffennaf eleni. 

Ar ôl hawlio'r Bencampwriaeth fawreddog yn Gleneagles y llynedd a dod y pedwerydd chwaraewr i ennill y Bencampwriaeth Agored a’r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn, bydd y Gwyddel o Ogledd Iwerddon, Darren Clarke yn amddiffyn ei Bencampwriaeth Golffwyr Hŷn Fawr gyntaf pan fydd yn chwarae ym Mhorthcawl. Cyn y prif ddigwyddiad, bydd chwaraewyr o bob cwr o'r byd yn ceisio cymhwyso yn rhai o gyrsiau blaenllaw eraill Cymru - Y Pîl a Chynffig,

Southerndown a Machynys - er mwyn ymuno â rhai o enwau mwyaf y byd golff. Mae'r rhain yn cynnwys pobl fel Bernhard Langer, a fydd yn gobeithio dilyn ei fuddugoliaethau yn 2014 a 2017 a chwaraewyr blaenllaw o Gymru megis Ian Woosnam, Bradley Dredge, Phil Price a Stephen Dodd a enillodd y teitl yn Sunningdale yn 2021.

Dysgwch ragor ar Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn 2023 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl | Croeso Cymru a chymryd rhan yn y cyffro; cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau a rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn @CroesoCymruBus, @Royal_Porthcawl a @TheOpen.


Mis Cenedlaethol Cerdded – Mis Mai

Mis Mai yw Mis Cenedlaethol Cerdded. Cymerwch ran drwy ysbrydoli eich ymwelwyr i brofi rhyfeddodau Cymru ar ei  llwybrau; ymunwch ar y cyfryngau cymdeithasol a'u hannog i rannu eu teithiau cerdded gan dagio #WalesByTrails #Llwybrau. Edrychwch ar y llwybrau sy’n cael eu hargymhell gennym i ddarganfod a chrwydro ar Llwybrau. Llwybrau Cymru | Croeso Cymru.  Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o syniadau cerdded a chanllawiau defnyddiol i ddewis llwybrau ar: 


Newyddlen busnes newydd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru

Mae cylchlythyr newydd ar gyfer Llwybr yr Arfordir a Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru wedi ei gynhyrchu gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn galluogi pob busnes ar hyd y llwybrau i wneud y mwyaf o gyfleoedd marchnata sy'n cael eu cynnig gan Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru - Llwybr Arfordir Sir Benfro, Llwybr Clawdd Offa a Ffordd Glyndŵr.  Gallwch Nweld y rhifyn cyntaf yma.

Mae’n cynnwys adnoddau am ddim i'ch helpu i hyrwyddo eich busnes ar hyd y llwybrau, fel mynediad at ddelweddau proffesiynol ar gyfer deunyddiau marchnata, y newyddion diweddaraf am ymgyrchoedd i hyrwyddo eich busnes hyd yn oed ymhellach a dolenni i lawer o deithiau cerdded i'w rhannu gyda'ch cwsmeriaid.

Cewch danysgrifio i gylchlythyrau busnes yn y dyfodol ar: Cyfoeth Naturiol Cymru (govdelivery.com)


O'r rheilffyrdd i'r Llwybrau - Trafnidiaeth Cymru

Mae nifer o orsafoedd yn gweithredu fel pyrth i lwybrau enwog a llwybrau cerdded, gan gynnwys Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru.  Ceisiwch annog eich ymwelwyr i grwydro ar lwybrau cerdded a nodir gan Trafnidiaeth Cymru: Llwybrau | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)


Cynllun Llysgennad Gwynedd – modiwl UNESCO Safleoedd Treftadaeth y Byd

Mae Cynllun Llysgennad Gwynedd yn rhoi y cyfle i weithwyr sy’n dod i gysylltiad rheolaidd ag ymwelwyr i ddysgu am, a deall, treftadaeth, diwylliant ac amgylchedd Gwynedd, ac o ganlyniad gwella gwasanaeth a phrofiad y cwsmer. I gyd-fynd â Diwrnod Treftadaeth y Byd ar 18 Ebrill 2023 lansiwyd modiwlau newydd, gan gynnwys un am Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Am fwy o wybodaeth, ac i ddod yn Llysgennad Gwynedd, ewch i: Cwrs Llysgennad Gwynedd – Llysgenhadon Cymru.


Cronfa Gwasanaethau Cymunedol ‘Pub is the Hub’

Mae grantiau hyd at £3,000 ar gael o Gronfa Gwasanaethau Cymunedol Pub is the Hub i alluogi perchnogion tafarndai gwledig, trwyddedigion a chymunedau lleol i gydweithio i helpu i gefnogi anghenion cymunedau lleol drwy ddefnyddio tafarndai i gynnig gwasanaeth newydd neu i gynnig gwasanaeth sydd eisoes wedi’i golli. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar: Cronfa Gwasanaethau Cymunedol.


Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Yn Hawlio Ei Enw Cymraeg

O 17 Ebrill 2023, yr un enw fydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu ‘Y Bannau’. Mae’r newid yn rhan o weithredu y cynllun rheoli sy’n ceisio ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth ac ymateb yn uniongyrchol i’r problemau mawe’r Parc yn ei wynebu.

Am ragor o fanylion, ewch i: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Yn Hawlio Ei Enw Cymraeg

Darllenwch am gynllun rheoli newydd y Parc a’r hunaniaeth Newydd yma: https://dyfodol.bannau.cymru/.


Helpwch ymwelwyr â Gogledd Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd cywir

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi creu pecyn cymorth o adnoddau cyfathrebu ar gyfer darparwyr llety a busnesau twristiaeth er mwyn helpu i gyfeirio ymwelwyr sy'n mynd yn sâl neu sy’n cael damwain at y gwasanaeth iechyd lleol cywir.

Defnyddiwch y deunydd yn y pecyn cymorth, sy’n cynnwys dolen i dudalen bwrpasol ar gyfer ymwelwyr ar wefan Betsi Cadwaladr.


Pecyn Coroni VisitBritain

Mae Visit Britain wedi datblygu pecyn ar gyfer busnesau twristiaeth i'w helpu i arddangos eu cynigion ar thema'r Coroni i ymwelwyr domestig a rhyngwladol. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar wefan VisitBritain: Dangoswch eich digwyddiad unigryw neu eich cynnig ar gyfer 2023 gydag arwyddlun GREAT a Coronation| VisitBritain



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram