Digwyddiadau Cymru’n cyhoeddi dwy gronfa newydd heddiw
Bydd dwy gronfa newydd gan Digwyddiadau Cymru sy’n cynnig cymorth yn ôl disgresiwn yn derbyn ceisiadau o heddiw ymlaen (19/04/23). Mewn gweminar arbennig ar gyfer y diwydiant heddiw ac yn dilyn datblygiad y Strategaeth Diwyddiadau newydd ar gyfer Cymru, mae ceisiadau i’r Gronfa Datblygu Sector neu’r Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd ar gyfer gwaith yn ystod 2023/2024 neu 2024/2025 yn cael eu gwahodd.
Cafodd gwaith datblygu o fewn y sector a chynaliadwyedd digwyddiadau eu pennu yn y Strategaeth newydd fel blaenoriaethau parhaus ar gyfer diwydiant digwyddiadau Cymru dros y blynyddoedd nesaf ac mae’r cronfeydd yn anelu at gefnogi prosiectau sy’n targedu’n benodol y ddwy ffrwd waith bwysig hyn.
- Mae hyd at £300,000 y flwyddyn ar gael o fewn y Gronfa Datblygu Sector a bydd yn anelu at gefnogi prosiectau a all ddangos y byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru, ac yn benodol mewn meysydd gweithgarwch a bennwyd fel blaenoriaethau yn y Strategaeth newydd fel datblygu sgiliau. Rhagwelir na fydd ceisiadau unigol yn derbyn mwy na £20,000-£30,000 o’r gronfa hon.
- Mae hyd at £200,000 y flwyddyn ar gael o fewn y Gronfa Arloesi Cynaliadwyedd ac mae’n gwahodd ceisiadau oddi wrth brosiectau y bwriedir eu cynnal yn ystod yr un cyfnod ac sy’n cynnig dulliau newydd ac arloesol o gyflawni cynaliadwyedd ym maes digwyddiadau. Rhagwelir na fydd ceisiadau unigol yn derbyn mwy na £10,000-£15,000 o’r gronfa hon.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth drefnwyr/perchenogion digwyddiadau, busnesau o fewn cadwyni cyflenwi, awdurdodau lleol, y byd academaidd neu bobl eraill sydd â swyddogaeth berthnasol o fewn y diwydiant digwyddiadau. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru neu bydd angen iddynt ddangos y bydd y cyllid yn cael ei wario yng Nghymru a bod y gweithgarwch a gefnogir yn digwydd yng Nghymru. Croesewir hefyd brosiectau partneriaeth rhwng 2 neu fwy o ddigwyddiadau neu sefydliadau a dylai’r ymgeiswyr fod â hanes profedig o ddarparu gwasanaethau o safon uchel yn y diwydiant digwyddiadau, hyfforddiant neu mewn diwydiant arall perthnasol. Os mai dyma’r fenter gyntaf ar gyfer busnes newydd nad oes ganddo hanes profedig, dylai’r Cyfarwyddwyr fod â hanes profedig o arwain prosiectau mewn maes tebyg.
Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch y ddwy gronfa yma:
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|