|
Llwyddodd ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi 2023 CaruCymruCaruBlas LoveWalesLoveTaste i gyflawni’r niferoedd mwyaf erioed, gyda nifer uwch o argraffiadau dylanwadol, cysylltiadau cryfach a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, a chynnydd o ran ymwybyddiaeth cwsmeriaid. Wedi’i sefydlu yn 2020 gan raglen Datblygu Masnach Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru drwy weithio ar y cyd â’r diwydiant, nod yr ymgyrch yw annog cwsmeriaid i ddathlu a dangos eu hoffter o fwyd a diod o Gymru.
Mae argraffiadau o’r ymgyrch wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed 17, 853, 654+, gydag ymwybyddiaeth brand wedi cyrraedd 44%* ymysg defnyddwyr Cymru (*arolwg ar-lein yn defnyddio VYPR - wedi annog ymwybyddiaeth Brand ymysg 190 o gwsmeriaid o Gymru). Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i gryfder a chydweithrediad penodol rhwng y diwydiant a Llywodraeth Cymru.
Croesawyd yr ymgyrch gan y diwydiant am hyrwyddo strategaeth werthu a marchnata gydlynol sy’n cefnogi rhestriadau o Gymru a Phrydain wrth ymgorffori egwyddorion a sgiliau marchnata craidd o fewn y diwydiant a chynyddu gallu cyffredinol busnesau Bwyd a Diod o Gymru i gefnogi datblygu ac ehangu rhestriadau cynnyrch.
Yn gyffredinol, bu’r ymgyrch yn hanfodol o ran hybu twf a hyrwyddo’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Diolch O GALON i’r holl gwmnïau bwyd a diod o Gymru a gymerodd ran!
Ffeithiau allweddol am yr ymgyrch:
- Pecyn cymorth marchnata digidol #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste wedi’i ddefnyddio gan 114 o gwmnïau bwyd a diod
- 10 cwmni bwyd a diod yn gweithio ar y cyd mewn ymgyrch bwyd a diod a chystadleuaeth ennill hamper ar y cyfryngau cymdeithasol.
- ITV Cymru a S4C wedi darlledu ymgyrch ‘arwr’ am bythefnos - pum hysbyseb teledu ar wahân yn para 30 eiliad wedi’u cynhyrchu gyda negeseuon CaruCymruCaruBlas.
- Cystadleuaeth - Cwmnïau yn cael y cyfle i wneud cais i gymryd rhan mewn ymgyrch hysbysebu yn yr awyr agored ar gyfer y rhai â sawl rhestriad manwerthu neu ymgyrch hysbysebu symudol ar gyfer cwmnïau â rhestriadau manwerthu annibynnol a/neu siop ar-lein.
- Hysbysebion awyr agored ledled Cymru - safleoedd y tu allan i fanwerthwyr ledled Cymru a safleoedd ‘mynediad’ i Gymru o 5 ddinas fawr, sy’n safleoedd effaith uchel ac allweddol
- Hysbysebu symudol ar wefannau dylanwadol yn arddangos 15 o wahanol gynhyrchwyr bwyd a diod a oedd yn cynnwys dolenni i’w siopau gwefan.
- Siâp calon gyda brandio CaruCymruCaruBlas wedi’i greu o 12,000 o Gennin Pedr ar dir Castell Caerdydd – a gafodd sylw sawl papur newydd yn ogystal â rhaglenni ‘Good Morning Britain’ a ‘Lorraine’.
|
|
|
Wrth i’r gwanwyn ddechrau o’r diwedd, rwy'n ymwybodol iawn ein bod yn parhau i fod mewn cyfnod heriol yn niwydiant bwyd a diod y DU . . . ond dyw popeth ddim mewn argyfwng!
Gadewch i ni ystyried sefyllfa masnach y DU. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mewnforion wedi gostwng £4.9 biliwn (8.7%) ym mis Ionawr 2023 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2022. Mae hyn yn cael effaith fawr ar gwmnïau logisteg y DU, yn enwedig os ydynt yn berchen ar gyfleusterau warws gwag. Yn wir, siaradwch ag unrhyw un sy’n gweithio yn Felixstowe, porthladd cynwysyddion busnes y DU, fe glywch ei fod yn llawer tawelach nawr nag yr oedd hyd yn oed ddwy flynedd yn ôl.
|
|
|
|
Yn ystod y mis diwethaf mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas / #LoveWalesLoveTaste Llywodraeth Cymru wedi sicrhau niferoedd mwy nag erioed, gyda mwy o argraffiadau dylanwadol, cysylltiadau cryfach â’r sectorau manwerthu a lletygarwch, a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr.
Wedi’i sefydlu yn 2020 gan Raglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’r diwydiant, nod yr ymgyrch yw annog defnyddwyr i ddathlu a dangos eu cariad at fwyd a diod o Gymru.
|
|
|
|
Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod gorau Cymru yn paratoi i fynychu Food & Drink Expo yn NEC Birmingham yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Food & Drink Expo yn helpu cwmnïau i ddod o hyd i lwybr i farchnad bwyd a diod y DU, gyda channoedd o gwmnïau’n arddangos eu cynnyrch eithriadol. Bydd dros 25,000 o ymwelwyr a 1,500 o arddangoswyr yn mynychu’r digwyddiad tridiau o hyd a gynhelir rhwng 24 a 26 Ebrill 2023.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd naw cwmni’n rhan o Bafiliwn Cymru/Wales, pob un yn gobeithio arddangos eu cynnyrch blasus a gwreiddio lle Cymru yn gadarn ar y map bwyd.
|
|
|
|
Ar 19 Ebrill, aeth Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i Grŵp Llandrillo Menai i ddathlu cyhoeddi partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru, gyda’r nod o drawsnewid yr economi wledig drwy ddatblygu sgiliau ac archwilio technolegau newydd ar gyfer y sector bwyd-amaeth.
Mae’r bartneriaeth hon yn gysylltiedig â Hwb Economi Wledig Glynllifon, a’i diben yw creu gweithlu bwyd-amaeth o’r radd flaenaf gyda’r lefelau uchaf o safonau amgylcheddol.
|
|
|
Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio cryfhau a meithrin cysylltiadau â darpar bartneriaid a buddsoddwyr wrth iddynt ymweld â Paris, Ffrainc yr wythnos nesaf.
Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â’r rhanbarth rhwng 24 a 27 Ebrill 2023, bydd saith cwmni bwyd a diod yn cael y cyfle i arddangos eu cynnyrch i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, pob un yn gobeithio sicrhau busnes newydd.
|
|
|
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi penodiad pedwar cyfarwyddwr newydd i Fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC), y corff ardoll statudol sy’n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu’r sectorau cig oen, eidion a phorc.
|
|
|
Bydd pedwar o gwmnïau bwyd môr o Ogledd Cymru yn ceisio gwneud argraff yn nigwyddiad byd-eang mwyaf y diwydiant yn Barcelona yr wythnos nesaf.
Bydd arddangosfeydd o dros 80 o wledydd i’w gweld yn y Seafood Expo Global, sy’n cael ei gynnal rhwng 25 a 27 Ebrill. Bydd Ross Shellfish Ltd o Gaernarfon, South Quay Shellfish ac Ocean Bay Seafoods o Gaergybi a The Lobster Pot o Borth Swtan, yn cynrychioli Cymru.
|
|
|
Bydd Cymru’n cael ei chynrychioli’r mis hwn gan grŵp mawr o gynhyrchwyr bwyd a diod yn un o ddigwyddiadau masnach pwysicaf y DU, y Farm Shop & Deli Show 2023 (Ebrill 24-26).
I'w gynnal yn yr NEC yn Birmingham, y Farm Shop & Deli Show yw prif ddigwyddiad y DU ar gyfer y sector manwerthu arbenigol. Y Farm Shop & Deli Show yw’r lle i arddangos y cynnyrch a’r gwasanaethau diweddaraf a’r lleoliad ar gyfer y Farm Shop & Deli Awards cystadleuol tu hwnt.
|
|
|
|
Lleihau'r defnydd o gemegau synthetig yng ngwinllannoedd Cymru
Mae pedair gwinllan yng Nghymru wedi ymuno mewn prosiect cydweithredol i edrych ar ffyrdd o gyflwyno atebion arloesol i ddatgarboneiddio a gwella effeithlonrwydd Gwinllannoedd Cymru drwy leihau’r defnydd o gemegau synthetig.
Gyda chefnogaeth Cronfa Her Datgarboneiddio a Covid Llywodraeth Cymru, nod y prosiect oedd cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau rheoli ac atal clefydau mewn gwinllannoedd ledled Cymru. Bydd allbynnau’r prosiect yn helpu i leihau’r defnydd o gemegau synthetig yn y dyfodol a’r ddibyniaeth arnynt.
|
|
|
Mae Hybu Cig Cymru (HCC), Llywodraeth Cymru a holl gyflenwyr Cig Oen Cymru PGI ar fin cydweithio i lansio ymgyrch fawr i fanteisio ar allforion i America.
Cafodd y cyfyngiadau ar fewnforio cig oen o’r DU i UDA eu codi o’r diwedd y llynedd, ac mae proseswyr o Gymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran cael yr archwiliadau a’r ardystiad angenrheidiol er mwyn dechrau allforio.
|
|
|
Angen syniadau ar sut i fwyta'n fwy cynaliadwy? Edrychwch ar ein Pecyn Cymorth Bwyta Cynaliadwy newydd i ddefnyddwyr a ddatblygwyd gyda'r eco-gogydd Tom Hunt. Dewch o hyd i awgrymiadau ar sut i leihau eich gwastraff bwyd, deunydd pecynnu, a'ch defnydd o ynni yn y gegin. Rydyn ni hefyd wedi datblygu ryseitiau ‘dim gwastraff’ i wneud y gorau o'ch cynhwysion. Cael hwyl!
|
|
|
|
Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota ar Lannau Dyfrdwy yn falch o gyhoeddi lansiad Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota, gan gynnig cymorth i gwmnïau sydd am wneud gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd.
Lle bynnag y bydd cwmni ar ei daith Ddarbodus, gall Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota helpu.
|
|
|
Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo eisiau gwybod barn sefydliadau am y swyddi sy'n cael eu llenwi gan weithwyr mudol. Mae angen i sefydliadau ddarparu tystiolaeth ar gyfer swyddi maen nhw'n credu y dylid eu hychwanegu at yr Rhestr o Alwedigaethau Lle Ceir Prinder.
Y dyddiad cau ar gyfer yr alwad am dystiolaeth yw 26 Mai 2023.
|
|
|
Arddangos prosiectau, pobl a busnesau'n arloesi gyda'r economi werdd yng Nghymru
Croeso i Economi Werdd Cymru, adnodd newydd sy'n arddangos y cyfleoedd a'r heriau i fusnesau yn ein ras i NetZero. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn lansio mwy o hybiau'r diwydiant sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o themâu arbenigol gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig, EV, sgiliau gwyrdd, yr economi wledig a llawer mwy.
|
|
|
|
Mae fideo newydd yn tynnu sylw at sut beth yw gweithio mewn tyfu bwyd, a sut gwnaeth tyfwyr eu ffordd i yrfa mewn garddwriaeth. Cafodd y ffilm ei chreu fel rhan o Mannau Gwyrdd Gwydn i arddangos cyfleoedd i weithio yn y sector, ac i roi blas o sut beth yw'r swyddi hyn. Gweithiodd Lantra, Cynghrair Gweithwyr Tir a Phrifysgol Caerdydd gyda ‘Mud&Thunder’ i ddatblygu'r ffilm sy'n cynnwys tyfwyr, gan gynnwys Tyfu am Newid ym Mangor a Cae Tan, Gŵyr. Mae tîm y prosiect yn annog ysgolion a sefydliadau ledled Cymru i rannu'r ffilm, yn enwedig gyda phobl ifanc sy'n chwilio am fewnwelediad i yrfaoedd yn y dyfodol.
Mae Mannau Gwyrdd Gwydn yn brosiect partneriaeth gwerth £1.27m sy'n cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i dreialu systemau bwyd lleol amgen sy'n defnyddio cymunedau a'u mannau gwyrdd fel y grym sy'n sbarduno newid ledled Cymru tan fis Mehefin 2023. Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
|
|
|
|
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gobeithio penodi Aelod Bwrdd dros Gymru a fydd hefyd yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC). Mae manylion y rôl yn ogystal â manyleb y person, cyfrifoldebau'r Asiantaeth Safonau Bwyd a manylion y broses ddethol i’w gweld drwy'r dolenni isod. Mae'r ASB hefyd yn chwilio am aelod newydd ar gyfer pwyllgor WFAC, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau'r ASB yn rhoi ystyriaeth briodol i gyngor gwyddonol, buddiannau defnyddwyr a ffactorau perthnasol eraill, yn arbennig mewn perthynas â Chymru. Gellir cael rhagor o fanylion drwy'r dolenni isod.
Penodi Aelod Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd WFAC / Appointment of Board Member for Wales and WFAC Chair
Cymraeg | English
Penodi Aelod WFAC / Appointment of WFAC Member
Cymraeg | English
|
|
|
|
Hoffai Llywodraeth Cymru longyfarch Fay Francis ar ei hanrhydeddau Blwyddyn Newydd, gan dderbyn MBE am ei gwasanaeth i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
Mae Fay wedi gweithio fel contractwr allanol dros y 12 mlynedd diwethaf, gan ddarparu cymorth arbenigol i gynhyrchwyr a busnesau yng Nghymru ar gynlluniau Enw Bwyd Gwarchodedig yr UE (PFN) a chynlluniau Dynodiadau Daearyddol y DU (GI) ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod.
|
Mae BlasCymru/TasteWales yn ddigwyddiad unigryw gan Lywodraeth Cymru a gynhelir bob dwy flynedd i ddwyn ynghyd cynhyrchwyr o Gymru a phrynwyr proffesiynol o’r DU ac o dramor.
Cynhelir y digwyddiad ar 25 a 26 Hydref 2023 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Gwesty’r Celtic Manor, Casnewydd. Gwahoddir cwmnïau o Gymru i wneud cais i gymryd rhan. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Mai 2023. Er mwyn cymryd rhan yn BlasCymru/TasteWales, mae angen ichi fod â busnes cynhyrchu bwyd neu ddiod, sydd wedi cael achrediad o ddim llai na SALSA neu BRCGS (neu gyfwerth) ac yn parhau i feddu ar yr achrediad hwnnw.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i producer@tastewales.com neu ffoniwch 01691 839938. Yn ogystal â’r digwyddiad cwrdd â’r prynwr, ceir arddangosfa fusnesau a rhaglen weithdai. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.tastewales.com
|
|
Mae Miller Research yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddeall a phrofi ‘map systemau’ sydd wedi’i ddatblygu yn ddiweddar ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y map hwn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer llywio dyfodol polisi bwyd yng Nghymru. Yn benodol, bydd y map hwn o gymorth i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol yng Nghymru a’i nod yw annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.
|
|
|
|
Ffair Gemau Cymraeg (Saesneg yn unig)
Mae'n bleser cael cynnal marchnad ‘Great Taste’ yn Ffair Gemau Cymru, Ystâd y Faenol - Medi 9 – Medi 10, 2023. Mae’r ‘Guild of Fine Food’ wedi trafod cyfraddau ffafriol ar gyfer gofod yn y digwyddiad hwn ar gyfer enillwyr ‘Great Taste’ yn unig.
Dyma'ch cyfle i arddangos eich brand a gwerthu eich cynnyrch gydag ymwelwyr disgwyliedig o 20,000 dros ddau ddiwrnod.
PECYN: £795 + TAW
3m (ffrynt) x 6m (dyfnder) pabell (gellir defnyddio'r ardal ddyfnder fel cefn tŷ ar gyfer storio/parcio neu HYD yn oed gwersylla_
3kw soced trydanol
DEMOGRAFFEG
- 53% yn fenywod/ 47% yn ddynion
- 78% o'r gynulleidfa dros 45
- £372 pwys o wariant cyfartalog y person (£12 miliwn o wariant i gyd)
- 70% AB demograffeg
Diddordebau cyfartalog i ymwelwyr: cynnwys Chwaraeon maes / Saethu / Ceffylau / Pysgota / Gerddi / Bwyd a Diod / Manwerthu
Os hoffech chi archebu stondin yn y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at opportunities@gff.co.uk
|
|
|
|
Ymweliad Datblygu Masnach i De Corea 2023
Cynhaliwyd Ymweliad Datblygu Masnach rhwng 25 a 30 Mawrth 2023 yn Seoul, De Corea.
Yn dilyn ymweliad datblygu masnach rithwir Cymreig hynod lwyddiannus â De Corea ym mis Mehefin 2021, ymwelodd 5 cwmni o Gymru â Seoul i fanteisio ar y farchnad ansawdd uchel hon. Dechreuodd y rhaglen gyda sesiwn friffio marchnad a gyflwynwyd yn amgylchoedd hyfryd Llysgenhadaeth Prydain. Yna treuliodd cynhyrchwyr Cymreig yr wythnos yn cymryd rhan mewn nifer o deithiau manwerthu a marchnad, cyn sawl cyfarfod busnes gyda chwsmeriaid newydd a phresennol yn Ne Corea. Roedd yr ymweliad datblygu masnach hwn yn gyfle gwych i gynhyrchwyr arddangos eu cynhyrchydd gwych ac ni allwn aros i weld mwy o gynnyrch Cymreig ar y silffoedd yn Ne Corea.
Cymerodd pum busnes ran yn yr ymweliad hwn a ddarparwyd fel rhan o raglen cymorth allforio yr Is-adran Fwyd.
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Briffio'r Farchnad a Chyfeiriadedd Rhaglenni, Llysgenhadaeth Prydain Seoul
- Taith Manwerthu a Marchnad
- Cyfarfodydd Busnes - Busnes i Fusnes
|
|
|
|
Foodex, Siapan 2023
Cynhaliwyd yr arddangosfa bwyd a diod hon rhwng 07 a 10 Mawrth 2023 yn Tokyo Big Sight.
Foodex yw'r sioe fasnach fwyd flynyddol fwyaf yn Asia, gyda dros 70,000 o ymwelwyr yn mynychu o 60 o wledydd a rhanbarthau. Yn ymuno â Phafiliwn Cymru eleni roedd 6 chynhyrchydd Cymreig, gyda chynnyrch yn amrywio o fêl i selsig, pice ar y maen i gawsiau, ynghyd â sioe arddangos bwyd a diod Cymreig, gyda chefnogaeth Menter a Busnes. Cafodd cynhyrchwyr Cymreig gyfleoedd gwych i ddatblygu cysylltiadau masnach newydd a phresennol o fewn y rhanbarth trwy fynychu’r sioe ei hun a thrwy’r derbyniadau rhwydweithio a gynhaliwyd ym Mhreswylfa Llysgenhadon Prydain yn Llysgenhadaeth Prydain. Edrychwn ymlaen at weld y llwyddiannau dros y misoedd nesaf!
Yn ogystal â sioe arddangos bwyd a diod o Gymru, cymerodd chwe busnes ran gyda chefnogaeth rhaglen cymorth allforio yr Is-adran Fwyd.
Yn ogystal â’r arddangosiadau a’r sgyrsiau masnach, roedd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Cinio Rhwydweithio Anffurfiol
- Derbyniad Rhwydweithio ym Mhreswylfa Llysgennad Prydain yn Llysgenhadaeth Prydain
- Dathliad Cinio Cymdeithas Dewi Sant
|
|
|
|
Gulfood, Dubai 2023
Cynhaliwyd yr arddangosfa fwyd hon rhwng 20 a 24 Chwefror 2023 yng Nghanolfan Masnach y Byd, Dubai.
Gulfood yw arddangosfa fasnach bwyd a diod flynyddol fwyaf y byd, gyda
Roedd 125 o wledydd yn cynrychioli dros 1 miliwn+ troedfedd sgwâr. Yn ystod digwyddiad eleni ymunodd 6 chwmni o Gymru â Phafiliwn Cymru Wales yn y Neuaddau Rhyngwladol a Llaeth, gydag 8 cynhyrchydd ychwanegol yn ymuno ar Ymweliad Datblygu Masnach. Bu'r digwyddiad yn hynod lwyddiannus i'r holl gynhyrchwyr, gyda nifer o arweinwyr gwych yn cael eu gwneud gyda phrynwyr a phartneriaid masnach ar draws y Dwyrain Canol a thu hwnt. Gyda diolch i swyddfa Llywodraeth Cymru yn Dubai, cafodd cynhyrchwyr a phrynwyr allweddol y rhanbarth wledd i dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi ysblennydd yn Llysgenhadaeth Prydain yn llawn cerddoriaeth, bwyd a diod Cymreig, gan arddangos y gorau o Gymru.
Yn ogystal ag arddangosfa ar gyfer bwyd a diod o Gymru, manteisiodd 15 o fusnesau o Gymru ar y cyfle i gymryd rhan, fel rhan o raglen cymorth allforio yr Is-adran Fwyd.
Roedd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys:
- Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi a gynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Prydain yn Dubai
- Brecwast rhwydweithio ledled y DU yn cael ei gynnal gan Adran Busnes a Masnach.
|
|
|
|
Diolch i bawb a fynychodd y gynhadledd ‘Ymdrechu a Ffynnu’. Cawsom ymgysylltaid rhagorol gyda chyfanswm o 210 gwylwyr yn bresennol dros y digwyddiad 4 diwrnod. Cliciwch y ddolen isod i gael mynediad at yr holl deunyddiau cynhadledd, gan gynnwys fideos o’r holl gyflwyniadau ar pecynnau sleidiad.
|
|
|
Y ffactorau sy'n hanfodol i lwyddiant y diwydiant gweithgynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru
Cynhelir yr astudiaeth gan Martin Jardine fel rhan o brosiect ymchwil PhD ym Mhrifysgol Glyndŵr. Pwrpas yr astudiaeth ymchwil yw canfod y ffactorau sy'n dylanwadu ar lwyddiant gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.
https://www.surveymonkey.co.uk/r/B3YK2RN
|
Mae Bwyd a Diod Cymru wedi enhangu ei bresenoldeb cymdeithasol.
Rydyn ni wedi lansio tudalen arddangos ar LinkedIn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bobeth rydym yn ei wneud i gyflawni 'Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021'.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant a digwyddiadau sydd i ddod yn y DU a thramor, gan gynnwys ein digwyddiad blaenllaw Blas Cymru, cael gwybod am straeon newyddion da neu ddysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud i gofleidio'r amgylchedd a chynaliadwyedd.
Rhowch ddilyniad i ni! Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales: About | LinkedIn
|
|