Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau

Mawrth 2023

 
 

Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladu yng Nghymru - sydd wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau yng Nghymru.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau

Neges gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James

Mae’n bleser gen i roi diweddariad ar gynnydd sylweddol o ran y gyfres o gamau rydym yn eu cymryd fel rhan o Raglen Diogelwch Adeiladau Cymru.

Ar y cyd â Phlaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Bydd ein rhaglen uchelgeisiol i fynd i'r afael â phroblemau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl canolig ac uchel yn sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel a saff yn eu cartrefi.

Rwyf bob amser wedi datgan y safbwynt y dylai'r diwydiant ysgwyddo eu cyfrifoldebau o ran materion diogelwch tân. Dylai datblygwyr unioni diffygion diogelwch tân ar eu cost eu hunain neu beryglu eu henw da proffesiynol a’u gallu i weithredu yng Nghymru yn y dyfodol.

Cytundeb y Datblygwyr sy’n eu rhwymo mewn cyfraith

Ym mis Hydref, fe wnaethom gyhoeddi bod 11 o ddatblygwyr wedi ymuno â Chytundeb y Datblygwyr. Mae’r Cytundeb yn ymrwymiad cyhoeddus ganddynt o'u bwriad i ddelio â phroblemau diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr o uchder neu fwy y maent wedi'u datblygu yn y 30 mlynedd diwethaf.

Mae dogfennau cyfreithiol rhwymol yn sail i’n Cytundeb sy’n nodi ein disgwyliadau yn fanwl. Rydym yn falch bod y datblygwyr canlynol wedi llofnodi’r dogfennau hyn yng Nghymru - Redrow, Lovell, Vistry, Countryside, Persimmon, Taylor Wimpey, Barratts, Crest Nicholson a McCarthy Stone.

Rydym yn falch bod Bellway hefyd wedi cadarnhau eu bwriad i lofnodi.

Ond rydym wedi ei wneud yn glir y byddwn yn achub ar bob cyfle, gan gynnwys camau diwygio deddfwriaethol ac ystyried rhoi gwaharddiadau ar ddatblygiadau, i sicrhau bod datblygwyr yn ysgwyddo eu cyfrifoldebau.

Yma yng Nghymru, rydym yn benderfynol o achub ar bob cyfle y gallwn i ddiogelu lesddeiliaid.

Dyna pam rydym wedi darparu cyllid uniongyrchol i gynnal arolygon, gan ddefnyddio ymgynghorydd a gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod gennym ddull adrodd annibynnol a chyson, sy'n nodi lle’r mae cyfrifoldebau ar gyfer unrhyw broblemau diogelwch tân.

Pan fo mae anghydfod gwirioneddol yn codi, ein bwriad yw y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd, yn hytrach na bod y costau hyn yn mynd i lesddeiliaid. Yn ein barn ni, dyna'r ffordd deg – y ffordd Gymreig.

Hefyd yn unigryw i Gymru, nid yw ein cronfa wedi'i chyfyngu i adeiladau sydd â chladin anniogel. Gwnaeth trasiedi tân Grenfell dynnu sylw at fater ehangach diogelwch tân yn fwy cyffredinol mewn adeiladau uchel. Rydym yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan Bersonau Cyfrifol ar gyfer pob adeilad preswyl 11 metr o uchder neu fwy.

Fodd bynnag, ar fater cladin, mae pob adeilad uchel â phroblemau cladin Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) hysbys yng Nghymru naill ai wedi cael eu cywiro neu yn y broses o gael eu cywiro.

Mae gennym raglen dreigl o arolygon - hyd yma mae 137 o arolygon wedi eu cwblhau, ac mae 61 yn cael eu symud ymlaen gyda'n contractwyr ac maent ar y gweill yn fuan. 

Rydym yn parhau i annog Personau Cyfrifol i gyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Dyma’r man cychwyn ar gyfer cael gafael ar gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cynllun Benthyciadau Datblygwyr

Yma yng Nghymru, rydym am sicrhau bod unrhyw resymau dros oedi yn cael eu lleihau, a bod datblygwyr yn gallu gwneud y gwaith cyn gynted â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Cynllun Benthyciadau Datblygwyr gwerth £20 miliwn. Bydd y cynllun yn rhoi benthyciadau di-log dros gyfnod o hyd at bum mlynedd i gynorthwyo datblygwyr.

Nod y benthyciad hwn yw:

  • lleihau nifer yr adeiladau canolig ac uchel sy’n dioddef problemau diogelwch tân
  • rhoi sicrwydd i lesddeiliaid y bydd gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl
  • galluogi gostyngiadau mewn taliadau gwasanaeth a chostau yswiriant
  • cael gwared ar rwystrau er mwyn i lesddeiliaid allu cael mynediad at gynhyrchion ariannol fel morgeisi.

Mae’r Cynllun Benthyciadau Datblygwyr yn hanfodol wrth fwrw ymlaen â'n gwaith yng Nghymru ar gyflymder.

Bydd y benthyciadau ar gael i ddatblygwyr sydd wedi ymrwymo i'n dogfennau cyfreithiol, gan eu galluogi hwy i gyflymu eu gwaith i fynd i’r afael â diffygion diogelwch tân er mwyn rhoi diwedd ar ddioddefaint lesddeiliaid yng Nghymru.

Gadewch inni fod yn glir mai benthyciad nid grant yw hwn, ac mae’n briodol disgwyl i ddatblygwyr sy'n dymuno manteisio ar y cynnig hwn dalu pob ceiniog o gyllid yn ôl i'r pwrs cyhoeddus o fewn pum mlynedd.

Adeiladau di-riant

Ond dal heb ei ateb mae’r cwestiwn ynghylch yr adeiladau ‘di-riant’ hynny gafodd eu datblygu gan ddatblygwyr sydd wedi gorffen masnachu neu na wyddom pwy ydyn nhw. 

Yn ei Datganiad Ysgrifenedig ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei bod wedi cytuno bod grŵp cychwynnol o chwe adeilad yn cael eu hunioni.

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ymestyn y grŵp cychwynnol o adeiladau.

Byddwn bellach yn mynd i’r afael â 28 o adeiladau, sy’n cynrychioli’r holl geisiadau cymwys ar gyfer ein cam cychwynnol.

Ar gyfer pob un o’r 28 o adeiladau, mae’r datblygwr naill ai wedi gorffen masnachu, yn anhysbys, neu fe gafodd yr adeilad ei ddatblygu dros 30 mlynedd yn ôl.

Cysylltir â Pherchnogion Cyfrifol yr adeiladau yn fuan i fynd drwy’r camau nesaf a gwneud trefniadau i gynlluniau gwaith gael eu paratoi ac i’r gwaith fynd rhagddo.

Cynnydd yn y sector cymdeithasol

Ochr yn ochr â'r cymorth a amlinellwyd sy’n cael ei ddarparu i’r sector preifat, mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i unioni adeiladau preswyl canolig ac uchel yn y sector cymdeithasol. 

Hyd yma, rydym wedi cwblhau gwaith mewn 26 o adeiladau'r sector cymdeithasol ac mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo mewn 41 o adeiladau eraill.

Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi bod £40 miliwn wedi’i neilltuo i ymgymryd â gwaith diogelwch tân mewn 38 o adeiladau eraill yn y sector cymdeithasol.

Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

Mae ein Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid wedi’i gynllunio i helpu pobl yng Nghymru sydd mewn caledi ariannol sylweddol neu’n wynebu hynny o ganlyniad uniongyrchol i broblemau diogelwch tân. 

Ym mis Ionawr, fe wnaethom gyhoeddi bod adolygiad o’r meini prawf wedi’i gwblhau. O ganlyniad i hyn, mae ein swyddogion achosion wedi gweld cynnydd sylweddol o ran yr ymholiadau am y cynllun.

Rydym yn falch o ddweud wrthych fod yr eiddo cyntaf bellach yn bwrw ymlaen â'u gwerthiannau, ac ar ôl iddynt gael eu cwblhau, bydd hyn yn caniatáu i'r lesddeiliaid hynny symud ymlaen i gartrefi newydd. 

Rydym yn parhau i annog unrhyw lesddeiliaid mewn trafferthion ariannol i gwblhau ein gwiriwr cymhwysedd, i weld a allant gael gafael ar gymorth drwy'r cynllun hwn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

Rydym hefyd yn falch o gadarnhau bod Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi cytuno i ymestyn eu canllawiau i briswyr i fod yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Rydym yn cydweithio'n agos â hwy wrth i’r canllawiau gael eu diweddaru.

Bydd y canllawiau hyn yn darparu cysondeb o ran y dull prisio ar gyfer eiddo yng Nghymru sy’n cael eu cynnwys yn y gwaith o dan arweiniad datblygwyr, yr adeiladau hynny yn ein grŵp di-riant cychwynnol, neu lle rydym wedi gallu cadarnhau bod adeiladau naill ai'n is na 11 metr o ran uchder neu'n cael eu hystyried yn risg isel. Bydd hyn yn helpu i gael gwared ar rwystrau ac yn caniatáu i lesddeiliaid gael gafael ar forgeisi a chynhyrchion ariannol eraill. 

Byddwn yn parhau i weithio gydag UK Finance i sicrhau bod benthycwyr yn cydnabod y sefyllfa yng Nghymru, er mwyn i’r rhai sy'n byw mewn adeiladau sydd wedi'u heffeithio gan broblemau diogelwch tân allu cael gafael ar forgeisi a chynhyrchiol ariannol eraill.

 
 
 

AMDANOM NI

Diwygio’r system bresennol ynghylch diogelwch adeiladau fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Dilynwch ni ar Twitter:

@NewidHinsawdd