Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

17 Mawrth 2023


View

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru; Nodyn Atgoffa: Mae’r cynllun ‘Barod Amdani’ wedi dod i ben; Ymgynghoriad: newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; Adroddiadau galw’r farchnad ym maes twristiaeth (Ionawr 2023); Busnes Cymru – Yn Gefn i Chi; Cynllun darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio yn swyddi ‘sero net’ y dyfodol; Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig; Marchnata Digidol ar gyfer Gweminarau Twristiaeth a Lletygarwch; Cadwch Cymry’n Daclus: Gwobrau Arfordir Cymru - Cymorth i fusnesau; Gwanwyn Glân Cymru 2023; Diwrnod Ailgylchu Byd-eang 2023; Canllaw ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes; Cofrestrwch eich diddordeb yn nigwyddiadau Visit Britain 2023-2024.


Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru

Gan adeiladu ar lansio ein strategaeth ddigwyddiadau genedlaethol i Gymru y llynedd, mae Steve Hughson FRAgS, Cadeirydd Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru wedi dweud:

"Mae'n gyffrous ein bod ar ddechrau tymor digwyddiadau 2023, yn dilyn lansiad Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030. Wedi'i seilio ar 3 philer sef Pobl, Lle a Phlaned, mae'r Strategaeth Genedlaethol yn cydnabod sut y gall digwyddiadau gyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol ac mae Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru (EWIAG) bellach yn canolbwyntio ar greu Cynllun Gweithredu a arweinir gan y sector a fydd yn cyflawni'r strategaeth ar gyfer y sector cyfan ledled Cymru.

"Mae ei bortffolio amrywiol o ddigwyddiadau yn cefnogi economi, diwylliant ac iaith Cymru, gan ddod â phobl at ei gilydd at ddiben cyffredin a chyfrannu'n fawr at yr agenda llesiant. Cafodd y Grŵp ei sefydlu yn sgil COVID a helpodd busnesau i oroesi'r pandemig; bydd yn parhau i ddarparu cyswllt deinamig rhwng y sector a Llywodraeth Cymru, gan helpu i sicrhau bod y sector yn cael ei gefnogi a bod Llywodraeth Cymru yn deall materion cyfredol. Gan adeiladu ar y berthynas lwyddiannus honno mae'r Grŵp yn edrych ymlaen at ddarparu sector digwyddiadau celfyddydol, cynaliadwy, ac arloesol ym maes y Celfyddydau, Diwylliant, Chwaraeon a Busnes i Gymru."

Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost at eventwales@llyw.cymru.

Mae'r digwyddiadau sydd i ddod yn cynnwys:

  • Gŵyl Talacharn, 24-26 Mawrth 2023: Mae Penwythnos Talacharn yn ŵyl lenyddol a chelfyddydol flynyddol a gynhelir yn nhref Talacharn yng Ngorllewin Cymru bob gwanwyn, gan gyflwyno doniau llenyddol a cherddorol o bedwar ban byd. Dyma ŵyl lle caiff ymwelwyr a phobl y dref gymysgu gyda’r artistiaid a'r perfformwyr gan ddathlu holl gampau Dylan Thomas. Heb unrhyw amheuaeth mae Dylan Thomas yn symbol perffaith o ysbryd creadigol Cymru.  Os oes lle, Talcharn ydyw. Os oes 'na un digwyddiad sy'n dod â'r rhain i gyd at ei gilydd, penwythnos Talacharn yw hwnnw.
  • Gŵyl Syrcas, Parc Singleton, Abertawe, 13-16 Ebrill 2023: Nid ‘syrcas’ draddodiadol mohono’r Pentref Syrcas ond yn hytrach berfformiad cyfoes gyda chwmni o Gymru, No Fit State – sy’n gwmni byd-eang ac arloesol yn y maes. Bydd yn dwyn ynghyd oddeutu 200 o artistiaid syrcas cyfoes a blaenllaw o’r DU ar gyfer profiad dysgu dwys yn Ne Cymru. Bydd y Pentref Syrcas yn cael ei greu ym Mharc Singleton, Abertawe am sawl wythnos cyn dathliad cyhoeddus a Gŵyl Syrcas 4 diwrnod lle bydd cynulleidfa gyhoeddus a theuluoedd yn cael eu croesawu ar y safle ac i'r Pebyll Enfawr i weld gwaith newydd a fydd wedi cael ei greu gan gyfranogwyr elfen Pentref Syrcas y digwyddiad.
  • Gŵyl Lenyddiaeth Drosedd Ryngwladol Cymru, Aberystwyth, 21-23 Ebrill 2023: Gwyl Crime Cymru Festival yw unig ŵyl drosedd ryngwladol Cymru, sy'n hyrwyddo awduron llenyddiaeth drosedd Gymreig. Cynhelir y digwyddiad yn Amgueddfa a Llyfrgell Aberystwyth.

Nodyn Atgoffa: Mae’r cynllun ‘Barod Amdani’ wedi dod i ben

Daeth “Barod Amdani” safon y diwydiant a oedd yn cefnogi busnesau yn ystod y pandemig, i ben ar 31 Mawrth 2022. Felly, nid yw’r logo ‘Barod Amdani’ a chyfeiriadau at y cynllun bellach yn berthnasol, ac ni ddylen nhw fod wedi cael eu defnyddio ar ôl 2022. Yn anffodus, mae ein sylw wedi cael ei dynnu at nifer fawr o fusnesau sy’n parhau i ddefnyddio a dangos y logo. Os ydych yn parhau i ddefnyddio’r logo ar eich gwefan, eich safle neu ddeunyddiau marchnata arall, mae’n rhaid ichi dynnu’r logo ar unwaith.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Visit Britain.


Ymgynghoriad: newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru. 

Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell, roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn nodi cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth yn gynhwysfawr er mwyn gwella diogelwch yr holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yng Nghymru (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu ragor o anheddau domestig), o’r cam dylunio ac adeiladu, i’r cam meddiannu a sut maen nhw’n cael eu cynnal.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr amserlen ar gyfer cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022 yng Nghymru ac yn gofyn am eich barn. 

Bydd y newidiadau'n effeithio ar bob safle y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol iddo a bydd yn gosod dyletswyddau ychwanegol ar y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu rhag tân yn yr adeiladau hyn. 

Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn cau ar 19 Mai 2023.


Adroddiadau galw’r farchnad ym maes twristiaeth (Ionawr 2023)

Mae Adroddiadau Galw’r Farchnad ar gyfer mis Ionawr 2023 bellach wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r adroddiadau’n cynnwys y DU ac Iwerddon ac maen nhw’n seiliedig ar waith maes a gynhaliwyd 3 – 17 Ionawr 2023.

Mae’r adroddiad yn dangos mai ‘Gwerth gwych am arian yw’r prif ffactor wrth ddewis cyrchfan ar gyfer gwyliau neu seibiant bach yn y DU – ar gyfer marchnad wyliau ddomestig y DU a marchnad wyliau Iwerddon. Ymhlith y rhai sy’n bwriadu mynd ar drip i Gymru yn 2023, dywedodd y rhan fwyaf ohonyn nhw y bydden nhw’n cymryd rhai camau i reoli costau eu trip. Mae’r adroddiadau hefyd yn cynnwys canfyddiadau ar y bwriad i ddod i Gymru yn 2023, ac effaith marchnata a Chwpan y Byd ar ymwybyddiaeth a chanfyddiadau o Gymru.


Busnes Cymru – Yn Gefn i Chi

Mae cymorth recriwtio a chymorth ariannol penodol yn cael eu cynnig  gan Lywodraeth Cymru i helpu cyflogwyr i greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ymuno â’u tîm drwy brofiad gwaith, lleoliadau gwaith neu gyflogaeth,  gan gynnwys y Warant i Bobl Ifanc, Twf Swyddi Cymru+ a React+. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Cynllun darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio yn swyddi ‘sero net’ y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu sut y bydd yn sicrhau bod gan blant, pobl ifanc a gweithwyr heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi newydd y dyfodol yn y diwydiannau "Sero Net" gwyrdd sydd ddim yn bodoli eto.

  • Bydd cynllun sgiliau sero net newydd yn amlinellu gweledigaeth o'r rôl y bydd sgiliau yn ei chwarae wrth symud Cymru oddi wrth economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, fel rhan o broses bontio teg.
  • Bydd swyddi sero net yn dod yn gonglfaen diwydiannau newydd y dyfodol, sydd siŵr o fod ddim yn bodoli eto.
  • Lansiodd Gweinidog yr Economi gynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi newydd economi sero net y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth am Gymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Y Cynllun Sgiliau Sero Net i'w gweld yma: Sgiliau sero net yng Nghymru.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig

Cyn bo hir bydd angen i bobl sy’n teithio i’r DU heb fisa gael Awdurdodiad Teithio Electronig.

Fel rhan o gynlluniau i gryfhau ffin y DU drwy ddigideiddio, mae Llywodraeth y DU yn lansio cynllun Awdurdodi Teithio Electronig. Bydd y cynllun yn berthnasol i’r rhan fwyaf o ymwelwyr â’r DU nad oes angen fisa arnyn nhw i aros am lai na chwe mis, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw statws mewnfudo arall cyn teithio. Mae’n rhoi caniatâd i deithio i’r DU ac mae wedi’i gysylltu â phasbortau’n electronig.

Bydd cyflwyno Awdurdodiadau Teithio Electronig yn newid sylweddol i’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n teithio i’r DU heb unrhyw ryngweithio â’r Swyddfa Gartref ymlaen llaw. Bydd cyflwyno’r cynllun yn cael ei gyfuno ag ymgyrch gyfathrebu a marchnata, sy’n cael ei datblygu i godi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu.

Mae digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal i roi trosolwg o’r cynllun Awdurdodi Teithio Electronig a’r cyfle i ofyn cwestiynau:

Mae canllawiau a gwybodaeth am y cynllun ar gael yn Electronic Travel Authorisation (ETA) - GOV.UK (www.gov.uk) ac mae pecyn cyfathrebu ar gael i helpu gyda’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a pharatoi ymwelwyr.


Marchnata Digidol ar gyfer Gweminarau Twristiaeth a Lletygarwch

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a Croeso Cymru wedi ymuno i gynnig gweminar dwy ran, Am Ddim, wedi’i theilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch.

Dysgwch sut i sicrhau lle amlwg ar gyfer eich busnes ar-lein, denu cwsmeriaid newydd, manteisio i’r eithaf ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol fel platfformau archebu i redeg eich busnes yn llwyddiannus.

  • Rhan 1: Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch
  • Rhan 2: Rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein

Mae mwy o wybodaeth a manylion cofrestru yma Marchnata Digidol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch.


Cadwch Cymry’n Daclus:

Gwobrau Arfordir Cymru - Cymorth i fusnesau

Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi rheoli’r Faner LasGwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr ers dros 20 mlynedd. 

I gael un o’r gwobrau blaenllaw hyn, mae’n rhaid i draeth, marina neu gwmni teithiau cychod fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyrraedd targedau ansawdd dŵr llym.

Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn sicrwydd i ymwelwyr eu bod wedi cyrraedd cyrchfan o ansawdd.

Am ragor o fanylion, ewch i: Cymorth i fusnesau - Cadwch Cymry’n Daclus.

Gwanwyn Glân Cymru 2023

Rhwng 17 Mawrth ac 2 Ebrill, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn galw arnoch chi am gymorth  i ddiogelu’r amgylchedd am fod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae’r neges eleni yn syml: gall hyd yn oed un bag wneud gwahaniaeth. Ymunwch â ni a gwnewch addewid i godi gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch. Gallech ddewis codi un sach yn unig, neu gallech osod nod i chi eich hun o gasglu gymaint ag y gallwch. #ArwyrSbwriel.

Cofrestrwch ddigwyddiad glanhau os ydych yn unigolyn, yn grŵp cymunedol neu’n fusnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gwanwyn Glân Cymru 2023 - Cadwch Cymry’n Daclus - Caru Cymru.

Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle

Mae cyflwyno cynllun ailgylchu yn eich gweithle’n haws nag y byddech yn ei feddwl! Am ragor o wybodaeth, ewch i Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle | Busnes Cymru (gov.wales).


Diwrnod Ailgylchu Byd-eang 2023

Cynhelir y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ddydd Gwener 18 Mawrth 2023.

Mae'n cydnabod y bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n dangos sut mae'r Seithfed Adnodd ac ailgylchu yn cyfrannu at blaned amgylcheddol sefydlog a dyfodol gwyrddach i bawb.

Gallwch gymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn trwy drefnu'ch digwyddiadau eich hun, gan helpu i hyrwyddo’r Diwrnod Ailgylchu Byd-eang trwy rannu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth ewch i: About - Global Recycling Day.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Canllaw ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes

Os ydych chi'n berchennog busnes bach, rydych chi'n gwybod y gall costau cynyddol fod yn her wirioneddol.

Mae'n hawdd cael eich llethu trwy geisio cadw eich busnes i fynd mewn economi ansicr sy’n cynnwys chwyddiant uchel a dirwasgiad posibl.

Mae canllaw’r British Business Bank ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ddiduedd, ymarferol, a gweithredadwy i helpu busnesau llai i reoli eu costau, rhoi hwb i'w proffidioldeb hirdymor, a chynyddu eu gwydnwch.

I gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r canllaw, cliciwch ar y ddolen ganlynol Guide to building business resilience - British Business Bank (british-business-bank.co.uk).


Cofrestrwch eich diddordeb yn nigwyddiadau Visit Britain 2023-2024

Mae Visit Britain bellach yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb yn eu rhaglen arfaethedig o ddigwyddiadau ar gyfer 2023-2024. Mae rhagor o wybodaeth a dolen i gofrestru eich diddordeb mewn nifer o ddigwyddiadau ar gael yn Proposed Events Programme 2023-24 | VisitBritain. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich diddordeb yw 31 Mawrth 2023.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram