Briff Arloesi- Rhifyn 55

Mawrth 2023

English

 
 
 
 
 
 
strategy cover eng 2.0 welsh

Cymru’n Arloesi

Cydweithio ar gyfer swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy llewyrchus sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru. Darllenwch y Strategaeth yma

Gwobr Arloesi yn arwain at swydd breuddwydion Joe

Mae cefnogi talent, brwdfrydedd a photensial anhygoel ein pobl ifanc yn un o bedair cenhadaeth y strategaeth. Darllenwch sut y defnyddiodd Joe Ringrose ei ddoniau arloesol i sicrhau ei swydd ddelfrydol.

3

Llwyddiant i Gymru yng Ngwobrau Arloeswyr Ifanc 

Mae manteisio i’r eithaf ar fuddion iechyd ac amgylcheddol cywarch yn un o'r prosiectau llwyddiannus yn y Gwobrau diweddaraf. Mwy o wybodaeth

Advances Wales Welsh button
ktp

Ffyrdd newydd o gydweithio
Mae system iechyd a gofal Cymru yn wynebu lefelau digynsail o alw, bydd cenhadaeth Iechyd a Llesiant y Strategaeth yn golygu y bydd y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio â'r diwydiant, y byd academaidd a'r trydydd sector i ddarparu ffyrdd newydd o weithio sy'n sicrhau mwy o werth ac effaith i ddinasyddion. Gwyliwch sut mae bywydau plant sy’n agored i niwed yn cael eu trawsnewid.

Her Ambiwlans SBRI

Ymunwch â'r her SBRI hon a chyfrannu at genhadaeth Iechyd a Llesiant y Strategaeth drwy drawsnewid y ffordd y caiff gofal ac achosion brys eu trin yng Nghymru. Darllenwch fwy 

ambulance
SUCCESS STORIES WELSH BUTTON
 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: